Cristnogion Hwyr

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cristnogion Hwyr

Postiogan RET79 » Iau 15 Ion 2004 12:48 am

Helo dwi newydd ymuno.

Mae crefydd yn bwnc cymleth iawn i fi ac mae llawer o bethau anodd i'w ddelio hefo.

Beth am ddechrau hefo hwn: dau berson. Un person yn addoli Duw o'i blentyndod i'w fedd ddim yn methu'r un Sul heb fynd i'r Eglwys. Person arall yn mynd yn erbyn crefydd drwy gydol ei fywyd yna newid i fod yn gristion tuag at ddiwedd ei fywyd.

Braidd yn anheg fod y ddau yn cael mynd i'r nefoedd pan mae nhw'n marw?

[Wedi newid teitl yr edefyn fel ei fod o'n un a'r pwnc dan sylw. Sori, RET! Dwi'n obsessed hefo taclusrwydd, wn i. -Ifan]
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Iau 15 Ion 2004 3:17 am

RET79 a ddywedodd:Helo dwi newydd ymuno.


Beth yw dy safbwynt crefyddol di RET79? Dim ond o ran diddordeb. Dan ni'n derbyn unrhyw grefydd, bydded mwslemiaith, hindwiaith, buddhism, siciaith, neu hydynoed duw Hogyn o Rachub. Os nad wyt ti'n grefyddol mewn unrhyw ffordd, mae hynny'n olreit 'fyd.


RET79 a ddywedodd:Mae crefydd yn bwnc cymleth iawn i fi ac mae llawer o bethau anodd i'w ddelio hefo.


Eiliaf. Dyna'r rheswm gofynais i Nic greu'r cylch yma.

RET79 a ddywedodd:Beth am ddechrau hefo hwn: dau berson. Un person yn addoli Duw o'i blentyndod i'w fedd ddim yn methu'r un Sul heb fynd i'r Eglwys. Person arall yn mynd yn erbyn crefydd drwy gydol ei fywyd yna newid i fod yn gristion tuag at ddiwedd ei fywyd.

Braidd yn anheg fod y ddau yn cael mynd i'r nefoedd pan mae nhw'n marw?


Dw i'n credu gallai ateb y cwestiwn yma dros mwyafrif cristnogion Criw Duw.

Pam farwodd Iesu ar y groes, dyma fo'n maddau pechod bob dyn. Felly, pam fo ryw un yn dod yn gristion, mae ei bechodau yn cael ei maddau yn syth, a tydi Duw ddim yn gweld y pechod yn ei fywyd cynt. Felly, er fod yr ail ddyn wedi dod yn gristion yn hwyr yn ei fywyd i Dduw mae ganddo gyn lleied o bechod a'r dyn cyntaf. Dw i ddiim yn credu y bysai'n anheg i'r ail berson fynd i'r nefoedd; mae o wedi derbyn Iesu i faddau ei bechodau, felly pam ddim?

O ran tegwch, dw i ddim yn meddwl y bysai'r person cyntaf yn teimlo fod Duw wedi bod yn anheg wrtho. Tydi bywyd cristion ddim i fod yn slog mae'n gorfod ymdopi ag ef cyn cael ei wobrwyo gyda'r nefoedd. Mi ddylsai'r cristion fod yn falch bod y nefoedd yn disgwyl amdano dros y gorwel, ond mi ddylsai ddod yn ail yn ei feddwl i wasaneathu Duw, a'i garu.

Dyna sut dwi'n dehongli'r Beibl, beth bynnag.

Croeso, RET. :winc:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Iau 15 Ion 2004 9:09 am

Ok, dwi'n trio dod i ddallt pethe hefyd, ac ar hyn o bryd ma'n safbwynt crefyddol i rywle rhwng agnostic ac aethist felly dwi yma i gael fy mherswadio debyg.

Pam farwodd Iesu ar y groes, dyma fo'n maddau pechod bob dyn


Pob dyn, yntau dim ond y rhai sy'n credu yn Iesu? Be am bobl sy'n credu mewn Duwiau eraill, neu erioed wedi clywed am Iesu? Be am bobl sydd yn trio byw bywyd da ond ddim yn credu yn Nuw, ydi Duw yn madde iddynt am fod yn rong?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Iau 15 Ion 2004 3:31 pm

Y basics:

Aled a ddywedodd:Pob dyn, yntau dim ond y rhai sy'n credu yn Iesu? Be am bobl sy'n credu mewn Duwiau eraill, neu erioed wedi clywed am Iesu? Be am bobl sydd yn trio byw bywyd da ond ddim yn credu yn Nuw, ydi Duw yn madde iddynt am fod yn rong?


Mi farwodd Iesu dros bechodau pawb, yn ol y Beibl, ond tydi Duw ddim yn maddau iddynt tan ei bod yn derbyn bod Iesu yn fab Duw ac ei fod o wedi maddau ei pechodau. Felly bydd y rheini sydd heb dderbyn fod Iesu wedi maddau ei pechodau yn mynd i uffern.

Aled a ddywedodd:Pob dyn, yntau dim ond y rhai sy'n credu yn Iesu? Be am bobl sy'n credu mewn Duwiau eraill, neu erioed wedi clywed am Iesu? Be am bobl sydd yn trio byw bywyd da ond ddim yn credu yn Nuw, ydi Duw yn madde iddynt am fod yn rong?


Na, tydi Duw ddim yn maddau.

------------------------------------------------------------------------Fi'n Ramblo Mlaen:

Dw i'n cael trafferth deall beth sydd yn digwydd i'r rhai sy heb glywed am Duw pam bod nhw'n marw. Oes rhaid iddyn nhw fynd i uffern? Braidd yn anheg llosgi am byth am nad oeddet ti wedi cael dy eni yn y lle iawn a'r amser iawn?

Ac os ydi Duw yn hollbwerus, oni fysa fo'n gwybod yn union pwy sy'n mynd i ddod yn gristnogion cyn i hynny ddigwydd, ac felly yn gadael i'r gweddill ohononi fyw yn gwybod o'r dechrau ein bod ni yn mynd i losgi am byth yn uffern?

Cwestiynnau diddorol, dwi'n meddwl.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Iau 15 Ion 2004 4:19 pm

Yn union, pethe felne dwi'm yn ddallt chwaith. A be am y busnes ma o bobl sydd wedi cael eu dewis? Ydi hynne'n golygu nad oes gan rai ohonan ni obaith beth bynnag?
A be di ystyr derbyn fod Iesu wedi marw drostai? Allai ddeud, 'ia dwi'n derbyn' ar fy ngwely angau ond ydy hynne'n ddigon?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Iau 15 Ion 2004 6:29 pm

Aled a ddywedodd:Allai ddeud, 'ia dwi'n derbyn' ar fy ngwely angau ond ydy hynne'n ddigon?


Mi allet ti. Mi wnaeth un person yn y beibl droi'n gristion ar ol ei groeshoelio, ac mi aeth i'r nefoedd. Os wyt ti'n credu, fyswn i ddim yn argymell disgwyl tan dy fod ti'n sicr dy fod ti am farw cyn troi'n gristion. Tydi pawb ddim yn gweld marwolaeth yn dod!

Mi wna i adael gweddill dy gwestiynnau i rai o gristnogion Criw Duw ei hateb.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Iau 15 Ion 2004 6:42 pm

Aled a ddywedodd:Pob dyn, yntau dim ond y rhai sy'n credu yn Iesu? Be am bobl sy'n credu mewn Duwiau eraill, neu erioed wedi clywed am Iesu? Be am bobl sydd yn trio byw bywyd da ond ddim yn credu yn Nuw, ydi Duw yn madde iddynt am fod yn rong?


Pwynt da, beth os ti erioed wedi dod ar draws cristnogaeth yn dy fywyd?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Aled Owen » Iau 15 Ion 2004 7:51 pm

Un person yn addoli Duw o'i blentyndod i'w fedd ddim yn methu'r un Sul heb fynd i'r Eglwys


Be am bobl sydd yn trio byw bywyd da ond ddim yn credu yn Nuw


I ddechrau nid mynd ir capel bob dydd sul a byw bywyd 'da' sydd yn gneud person yn gristion. Cristion yw person sydd yn credu bod Duw wedi maddae ei bechodau ar y groes ac sydd yn rhoi Iesu yn Arglwydd ar ei fywyd.

Pam farwodd Iesu ar y groes, dyma fo'n maddau pechod bob dyn.


Fuodd Iesu farw dros bechodau y rhai oedd am gredu ar rhai oedd wedi credu yn barod nid dros bechodau pawb.

Be am bobl sy'n credu mewn Duwiau eraill


Yn ol y Beibl yr unig ffordd ir nefoedd yw trwy Iesu Grist.

Oes rhaid iddyn nhw fynd i uffern?


Maer Beibl yn deud mae'r gosb am bechod ydi marwolaeth (yn ysbrydol, i.e uffern) fellu ydynt.

Ac os ydi Duw yn hollbwerus, oni fysa fo'n gwybod yn union pwy sy'n mynd i ddod yn gristnogion cyn i hynny ddigwydd, ac felly yn gadael i'r gweddill ohononi fyw yn gwybod o'r dechrau ein bod ni yn mynd i losgi am byth yn uffern?


Mea Duw yn hollbwerus ar syndod mawr ydi bod Duw heb ddinistrio'r byd ac anfon pawb i uffern amser maith yn ol. Gras Duw ydi bod genom ni y amser i drafod ar criw Duw.

Nid yw'r beibl ddim yn deud be sy'n digwydd os dwyt ti ddim yn clywed am Iesu. Ond be mae o'n ddeud ydi bod Duw yn mynd i farnu pawb am be mae nhw wedi ei neud a mae pawb yn disgyn yn fyr o safonau Duw. Ond i'r rhai sydd yn credu yng Nghrist mae Duw yn edrych ar fywyd perffaith Iesu yn lle ein bywydau ni.
Rhithffurf defnyddiwr
Aled Owen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 08 Hyd 2003 12:05 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Iau 15 Ion 2004 8:10 pm

Aled Owen a ddywedodd:Mae Duw yn hollbwerus ar syndod mawr ydi bod Duw heb ddinistrio'r byd ac anfon pawb i uffern amser maith yn ol. Gras Duw ydi bod genom ni y amser i drafod ar criw Duw.


Wela i ddim pam fod Duw yn haeddu gymaint o'n clod ni os mae o am greu dynoliaeth pechadurus a gwael ac yna ein cosbi ni am fod fel y mae o wedi ein creu ni. Os ydi Duw yn hollbwerus mae o hefyd yn gwybod y dyfodol, ac felly yn gwybod bod dyn yn mynd i bechu.

(A pam fod Duw eisiau clod yn y lle cyntaf? Onid ydyw yn berffaith fel y mae? Onid ydyw wedi dysgu ni yn y Beibl i fod yn modest- felly pam fod o eisiau ein clod ni? Mi greodd ni er mwyn ei ddifyrwch ef ei hun, a felly y gorau gallem ni ei wneud ydy i fyw ein bywydau a'i ddifyru.)

Mae’r ffaith bod Duw yn dewis a dethol pa bobl sy’n dewis dod yn gristnogion yn gwneud uffern yn fwy anheg byth. Oes gennym ni wir ddewis rhydd, ‘free will’, os bo Duw wedi ein creu ni yn gwybod yn iawn os ydym ni am farw yn gristnogion ai peidio?

A dw i wedi blino ychydig ar y hen ymateb 'dan ni ddim yn gwybod pam wnaeth Duw hyn a hyn'. Yn syml, mae dadl cristnogion dros y Beibl yn hollol cyclical: 'Mae'r Beibl yn wir am ei fod o'n dweud yn y Beibl ei fod o'n wir am ei fod o'n dweud yn y Beibl ei fod o'n wir....' ac ymlaen am byth. Nid yw hwn yn ddadl da iawn yn y bon.

Mae rhai yn ceisio dadlau bod y Beibl yn wir am fod hanes yn cytuno ag ef ar rai dyddiadau. Sut bo hynny yn dangos bod Duw y Beibl yn wir? Rydym ni'n gwybod bod y Rhufeiniaid yn hanesyddol ond dyw hynny ddim yn meddwl bod duw rhyfel Mawrth yn bodoli.

Dewis peidio meddwl mae llawer o gristnogion mewn gwirionedd; dewis cilio mewn ogof saff ei dychymyg yn lle ceisio deall y bydysawd yn y ffordd y dylid ei gwneud. Os bo Duw yn bydoli, dwi'n siwr ei fod o am i ni wneud y gorau o'n cyrff, yn cynnwys yr ymenydd.

Na, tydi gwyddoniaeth ddim yn gwybod bob dim, ond dwi yn meddwl bod posib dibynnu ar wyddoniaeth yn fwy na llyfr wedi ei sygrifennu dau fileniwm yn ol a mwy, llawn y tyllau yna a elwir 'dan ni ddim yn gwybod pam wnaeth Duw hyn', ac yn dybynnu ar gofnodau hanner dwsin o bobol doedd ddim hyn yn oed yn cytuno a'i gilydd ar amryw o bwyntiau.

'Ond mae gennym ni ffydd!' yw cri y cristion. 'Dan ni'n gwybod bod Duw yn bod yn ein calon!' Wel, mae'r Mwslim, Hindw, a Hogyn o Rachub a'r union yr un sicrwydd yn ei calon bod ei duwiau nhw'n wir hefyd. Oes lle yn y nefoedd i fwy nag un Duw? Ta efallai bod y teimlad yn y galon yna sy'n dweud bod yna dduw wir yn ran o'n ymenydd ni sydd am ddarganfod sicrwydd mewn bydysawd mawr a dychrynllyd.

Yn syml, dw I erioed wedi clywed dadl gan Gristion sy’n medru esbonio’r pwyntiau uchod, heb orffen drwy ddweud bod gwir bwrpas Duw yn y mater yn gudd. Tydi hwn ddim yn unrhyw fath o ddadl, o gwbwl. Pa dystiolaeth yn union mae cristnogaeth wedi ei seilio arno?

Dim ymosod ar gristnogion ydw I, ond yn rhoi sialens; mi fyswn I’n ddigon parod I gredu yn Duw cristnogaeth os y buasai un cristion yn medru ateb fy nghwestiynau am pam yn union eich bod chi’n credu ynddo? Dw I wedi edrych yn hir, a does yr un cristion wedi medru ateb. Felly pam yn union ei bod nhw’n credu yn y Beibl? Go debyg bod o leiaf un cristion wedi seilio ei ffydd ar unrhyw fath o wybodaeth cadarn di-dyllog?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 16 Ion 2004 11:31 am

Gai ychwanegu fy enw at bwyntiau a chwestiynnua IMJ uchod plis? Popeth dwi wedi bod isho'i ddallt mewn un ebost!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron