Tudalen 1 o 1

Pel droed-crefydd?

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2004 5:38 pm
gan DAN JERUS
Pwy, fel fi, sy'n meddwl fod pel droed ym mhrydain wedi overtakeio y syniad o grefydd? falla fod o'n swnio'n od ond beth ydi prif gwyn rhai atheists? nad oes prawf.Does dim byd gweledol felly beth yw pwrpas rhoddi ffydd ynddo?Ond, ar b'nawn sul mae'r dyrfa'n teithio o bell i wylio gem, gan roddi eu ffydd yn eu tim.Mae peldroedwyr yn cael eu trin ac eu haddoli fel Duwiau, ac yn union fel crefydd, mae'r cwestiwn o pwy ydi'r tim gorau wedi tywallt tipyn o waed ac wedi achosi tipyn o drais yn ei sgil dros y blynyddoedd.Os yw'r syniad ein bod ni fel dynol ryw yn ddibynnol o'n natur i roddi ein ffudd yn rhywbeth, ydi'r duwiau cyfoethog yn eu esgidiau drydfawr dilyn y ffordd felly?

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2004 7:28 pm
gan Macsen
Religion

The belief in and worship of a supernatural controlling power, especially a personal god or gods. (New Oxford Dictionary of English).

-----------------------------------------------------------------------------

Mi fyswn i'n dweud bod pel droed yn fwy poblogaidd na crefydd ym Mhrydain, ond does dim posib ei ddiffinio fel crefydd. Dyn o gnawd a gwaed ydi Beckham, dim otch be mae y ffans yn ei ddweud. A dyw cael ffydd bod un tim yn mynd i guro ddim yr un fath a ffydd mewn duw, dwi'm yn meddwl.

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2004 8:48 pm
gan RET79
Yn bersonol sgen i ddim llawer o amser i ffans clybiau peldroed. Dwi'n gorfod dioddef malu cach am beldroed yn yr offis o fore llun tan bnawn dydd Gwener. Fantasy football, predictions... yawn. Gymaint o falu cach am y peth. Hefyd mae pobl yn eitha pathetic yn meddwl fod pawb yn hoffi pel-droed. Yn bersonol gen i fwy o ddiddordeb mewn clybiau rygbi na chlybiau pel-droed. Pan wnes i gychwyn yn fy swydd cwestiwn cyntaf pawb oedd pa dim pel-droed oeddwn i'n cefnogi. Wnest i jest dweud "WALES". Doedd nhw methu dygymod a'r ffaith mod i ddim yn cefnogi unrhyw dim bob penwythnos.

Yn ol at y pwynt, mae pel-droed yn ryw fath o grefydd i'r pobl hyn. Mae'r sefyllfa yn eitha trist a dweud y gwir. Mae lot fawr o debygrwydd rhwng cefnogi pel droed a chrefydd. Y canu, yr addoli, y ffydd etc.

Sgen i ddim problem hefo'r gem bel-droed ei hun, dwi'n chwarae 5 bob ochr fy hun bob wythnos, ond dwi'n casau cefnogwyr pel-droed yn malu cachu byth a beunydd am transfers, safle yn y tabl, fantasy league etc. diflas iawn yw'r holl beth.

Mae'r bobl yma yn aml yn eitha sydyn i ddweud fod pobl grefyddol yn hoff o stwffio syniadau lawr corn gyddfau pobl. Wel, piti nad yw nhw'n clywed eu hunain wrthi.

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2004 9:37 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Mae'r bobl yma yn aml yn eitha sydyn i ddweud fod pobl grefyddol yn hoff o stwffio syniadau lawr corn gyddfau pobl. Wel, piti nad yw nhw'n clywed eu hunain wrthi.


Pwynt da dros ben, RET. Dw i wedi diflasu ar bel droed yn hollol, a dwi'n blino'n ofnadwy ar bawb yn siarad amdano non stop. Os ydw i'n gweld bod pobl ddim a diddoredeb yn be dw i'n ei hoffi, dw i'n cau fy ngheg.

Un peth arall sy'n debyg rhwng creddyf a chwareuon ydi pobl sy'n hijackio nhw er mwyn ei pwrpas nhw ei hunain. Hwligans mewn pel droed? Pobl sy'n dweud ei bod nhw'n gristion er mwyn cymeryd y moral high ground?

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2004 12:41 pm
gan DAN JERUS
Cofiwch chi, sgena innau ddim byd yn erbyn pel droed ei hun.Roedd fy ngweinidog yn yr ysgol sul yn gallu siarad yn ddiddorol a chall am y gamp! Dwi jyst yn meddwl fod cymaint o syniadaeth crefydd yn codi ei ben o fewn pel droed.Ffydd, gobaith, cariad (...a chasineb?).Pethau fel sgorio o'r 25 yrd line neu sgorio equalizer yn yr 89fed munud yn cael eu cysidro'n "wyrthiau".Gwir Ifan, pethau cig a gwaed yw eu duwiau, ond os ti'n meddwl am y peth, mae hynny'n gwneud hi'n cymaint haws iddynt gan nad ydi'r ffans yn gorfod gweddio am fodolaeth y pobl hyn, mond y eu gallu i enill y cwpan F.A!

PostioPostiwyd: Sad 24 Ion 2004 3:15 pm
gan RET79
DAN JERUS a ddywedodd:Cofiwch chi, sgena innau ddim byd yn erbyn pel droed ei hun.Roedd fy ngweinidog yn yr ysgol sul yn gallu siarad yn ddiddorol a chall am y gamp! Dwi jyst yn meddwl fod cymaint o syniadaeth crefydd yn codi ei ben o fewn pel droed.Ffydd, gobaith, cariad (...a chasineb?).Pethau fel sgorio o'r 25 yrd line neu sgorio equalizer yn yr 89fed munud yn cael eu cysidro'n "wyrthiau".Gwir Ifan, pethau cig a gwaed yw eu duwiau, ond os ti'n meddwl am y peth, mae hynny'n gwneud hi'n cymaint haws iddynt gan nad ydi'r ffans yn gorfod gweddio am fodolaeth y pobl hyn, mond y eu gallu i enill y cwpan F.A!


Dwi'n cytuno. Mae pel droed yn y bon yn gem syml sy'n lot o hwyl i'w chwarae. Yn anffodus mae'r gem wedi troi allan i fod yn beiriant eitha anymunol. Dwi'n gwallgofi wrth weld chwaraewyr yn smalio disgyn i gael cic o'r smotyn etc. Dwi'n syrffedu ar glywed y malu cachu di-ddiwedd am beldroed ar y teledu, radio a'r offis. Mae o fwy fel opera sebon a dyddie yma dwi wedi sylwi fod llawer o bobl yn meddwl mai pel-droed yw'r b-all ac end all. Nonsens llwyr.