Beth yw' r ffordd orau o ddenu pobl at Grisnogaeth?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth yw' r ffordd orau o ddenu pobl at Grisnogaeth?

Postiogan Lowri Fflur » Sul 25 Ion 2004 3:06 am

Beth ydy chi yn gredu yw y ffordd orau o ddenu pobl at Grisnogaeth?

Credaf mae' r ffordd orau o wneud hyn yw drwy ddangos a' i wneud yn eglur bod Crisnogaeth yna i bawb a bod Duw yn derbyn pawb- dwi' n meddwl bod yr efyngylwyr wedi cael y syniad cywir yn fama efo' r pamffledi "Ti' n bwysig." Credaf hefyd bod hi' n bwysig peidio dychrun pobl efo geiriau mawr scary a trio gwneud i Grisnogaeth swnio mor syml a be mae' n gallu bod i bobl pam maent yn dechrau dangos diddordeb mewn Crisnogaeth yn y lle cyntaf.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Sul 25 Ion 2004 2:51 pm

Mae nifer yn cael ei codi'n gristnogion, ac felly yn credu or dechrau.

I blant o dan neu yn union 16, y ffordd gorau o wneud cristnogion allan ohonyn nhw ydi yw gyrru nhw draw i wythnos yn nghwmni cristnogion eraill, lle bydd yr awyrgylch syrene a clodfori Duw yn dechrau torri lawr veneer ei scepticism nhw am wirionedd y Beibl. Mi weithiodd o ar bron pawb yno. Hyd yn oed fi, a fi di'r boi mwy sceptical aeth yno erioed.

Ychydig yn anoddach denu pobl dros 16, ond mae'n gwbwl bosib. Denu nhw mewn i awyrgylch gristnogol, ac yna ar ol tua tri mis o subtle hints ewch mewn am y 'kill'- i.e. cael cyfarfod dau berson sy'n parau tan 1 am, lle wyt ti'n siarad yn ddwfn gyda'r y person am gristnogaeth. Yna gweddio hefo fo. Bydd y person yn ddigon parod i dderbyn ei fod o wedi gadael ei hen fywyd aniddorol ar ol. Mae'n un o freuddwydion pob person ar y ddear i fedru gael ei 'ail eni', a dechrau o'r dechrau.

Os nad ydyn nhw yn disgyn am hyn, mae'n debyg bydd rhaid disgwyl tan ei fod o ar ei wely angau, a dwi'n siwr fydd o'n ddigon parod i dderbyn yr amser hynny, gyda marwolaeth (na, dim ti Marwolaeth) yn syllu nhw yn y llygad.

Tydi hyn ddim i ddweud bod y Duw ei hun ddim yn chwarae ryw ran yn hyn i gyd, a diolch iddo am roi inni technique mor dda i ddod a rhai newydd mewn i'w borfa. Pwyslais ar 'cael ich geni eto' sydd angen. Dyma'r foronen blasus mae pawb yn mynd ar ei hol hi.

Mae rhai pregethwyr yn ceisio dweud wrth bobl y bydd Duw yn rhoi ryw fath o bonus iddyn nhw; ei gwneud nhw'n gyfoethog, ecetra. Ddim yn ffordd da o wneuid pethau, achos os dyw'r pobl yna ddim yn mynd yn gyfoethog mae'n debyg wneith nhw stopio credu. A mae'n erbyn neges y Beibl, wrth gwrs.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan DAN JERUS » Sul 25 Ion 2004 8:52 pm

Mae'n gwestiwn anodd oherwydd mae cristnogion , ar yr un llaw, yn cael eu annog i hybu'r grefydd, i wasgaru'r Gair, ond mae hi'n anodd gwneud hynny dyddiau hyn oherwydd mae pobl yn tueddu cyfeirio at y sterioteip o gristion modern, rhywun sy'n bangio 'mlaen ar damborin, yn ymwrthod a rhyw ac yn, wel, gwneud popeth o fewn eu gallu i hybu'r Gair! Yn bersonol dwi'n credu fod rhaid i rhywun ddarganfod cristnogaeth yn eu hamser ac ar eu mympwy eu hunain.Mae cymaint o fobl ifanc, a orfu mynd ir ysgol sul pan yn iau oherwydd fod pob teulu parchus yn aelod or capel, bellach yn cadw draw am mai ddim eu dewis nhw oedd o i fynd yn y lle cyntaf.ges i fy nerbyn pan yn 15 oed fel methodist.Do ni ddim yn gwybod yn iawn beth yn union oedd pwysigrwydd y ddefod hon ac mi fuaswn yn bersonol wedi dewis penderfynnu gwneud hynny pan roeddwn ychydig yn hyn ac wedi treulio amser yn y byd mawr creulon.Dwi'n gweld ddim bai am i gapeli ac ysgolion sul geisio cael pobl ifanc yn eu mysg, ond, o fy mhrofiad personol i, cael ein traethu am y proffwydi a gawsom, gyda dim llawer o amser ac ymynedd gan yr athrawon i'n cwestiynnau am y grefydd.Dwi ddim yn dweud fod y profiad hy yn berthnasol i pawb, ond dyna fy mhwynt mewn ffordd, fe wnes i fy newis i am grefydd y ol fy mhrofiadau i fy hyn.Wedi'r cyfan rhywbeth personol ydyw ar ddiwedd y dydd.
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Pysgod Gwirioneddol Fawr » Llun 26 Ion 2004 12:26 am

lowri- ti'n hollol gywir ymhob ffordd. a paid cyfeirio atom ni gyd fel efengylwyr plis- dwi'm ishe cael yng nghysylltu gyda'r 'notorious MEC'!
Rhithffurf defnyddiwr
Pysgod Gwirioneddol Fawr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 121
Ymunwyd: Gwe 24 Hyd 2003 1:00 am
Lleoliad: pen y garn

Postiogan Lowri Fflur » Llun 26 Ion 2004 10:38 am

Sori gan y mudiad Crisnogol daeth y dyfyniad "ti' n bwysig" nid gan y efyngylwyr yn unig. Ag am fod yn hollol gywir ym mhob ffordd- wel mi ydwi bob tro yndydw? :winc: pwy di' r ddim mor notorious MEC?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron