Tudalen 1 o 1

Pregethu Stryd Cornel

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 2:35 pm
gan Macsen
Unrhyw un yn fodlon amddiffyn pobl sy'n pregethu ar stryd cornel? Dwi'n erbyn hyn am nifer o resymau. Mae o'n rhoi enw drwg i'r crefydd, am fod pobl yn tueddu i fynd yn flin pam bo rywun yn rhoi araith iddynt pam bod nhw'n ceisio siopa, ac yn tueddu i feddwl bod unrhyw un sy'n gwneud yn dipyn o loony. Dwi ddim yn gweld rheswm i unrhyw un wneud. Os mae rywun eisiau gwybod be sydd gan y person i ddweud, mi wneith nhw fynd i pa bynnag gyfarfod, cwrdd, ecetra, mae'r person wedi ei drefnu.

Re: Pregethu Stryd Cornel

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 3:22 pm
gan Rhys Llwyd
Macsen a ddywedodd:Unrhyw un yn fodlon amddiffyn pobl sy'n pregethu ar stryd cornel?

FI
Dwi'n erbyn hyn am nifer o resymau.

o dyna chi sioc - NOT!

Dwi ddim yn gweld rheswm i unrhyw un wneud. Os mae rywun eisiau gwybod be sydd gan y person i ddweud, mi wneith nhw fynd i pa bynnag gyfarfod, cwrdd, ecetra, mae'r person wedi ei drefnu.


dydy pobl DDIM yn dod at yr efengyl - felly maen ddyletswydd i fynd ar efengyl at bobl

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 3:31 pm
gan Macsen
Dwi'n ei erbyn am bo fi'n meddwl bod pregethu stryd cornel yn rhoi argraff ddrwg i bobl sy'n ei glywed. Tydi nhw ddim eisiau rywun yn rhoi araith iddyn nhw tra maen nhw'n siopa. Trystia fi- dw i wedi siarad i rai eraill am hyn, a mae nhw'n dweud run fath.

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 3:35 pm
gan Rhys Llwyd
Macsen a ddywedodd:Dwi'n ei erbyn am bo fi'n meddwl bod pregethu stryd cornel yn rhoi argraff ddrwg i bobl sy'n ei glywed. Tydi nhw ddim eisiau rywun yn rhoi araith iddyn nhw tra maen nhw'n siopa. Trystia fi- dw i wedi siarad i rai eraill am hyn, a mae nhw'n dweud run fath.


cytunaf mae nid dynar ffordd mwya effeithiol OND fe allai gael effaith ar rywyn ac mae effeithio ar un person (na fyddai efallai yn dod yn agos i gyfarfod) yn well na dim.

Re: Pregethu Stryd Cornel

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 3:56 pm
gan Lowri Fflur
Macsen a ddywedodd:Unrhyw un yn fodlon amddiffyn pobl sy'n pregethu ar stryd cornel? Dwi'n erbyn hyn am nifer o resymau. Mae o'n rhoi enw drwg i'r crefydd, am fod pobl yn tueddu i fynd yn flin pam bo rywun yn rhoi araith iddynt pam bod nhw'n ceisio siopa, ac yn tueddu i feddwl bod unrhyw un sy'n gwneud yn dipyn o loony. Dwi ddim yn gweld rheswm i unrhyw un wneud. Os mae rywun eisiau gwybod be sydd gan y person i ddweud, mi wneith nhw fynd i pa bynnag gyfarfod, cwrdd, ecetra, mae'r person wedi ei drefnu.


Wel os ti' m yn licio yr araith cerdda i ffwrdd. Sw ni yn bersonol ddim yn meddwl bod person sydd ar y stryd yn son am Grisnogaeth yn dipyn o loony- sw ni mwy tebygol o feddwl mae raid bod ganddynt reswm da i sefyll ar y stryd a gwneud hyn ac felly yn gwrando ar beth sydd ganddynt i ddweud. Dwi' n anghytuno efo chdi bod bysa bob person sydd efo diddordeb mewn Crisnogaeth yn mynd i gyfarfod neu cyfarfod yn orfodol oherwydd nt yn siwr syd fath o awyrgylch byddai yno ag y byddanmt yn cael ei derbyn. Drwy pobl yn cyfarthrebu a siarad am Grisnogaeth gydai gilydd mae' r ffordd orau o ddenu pobl at Grisnogaeth (ar y stryd neu beidio). Efallau bod ar y stryd yn le gwell yn y dechrau oherwydd y byddai person yn teimlo ei bod yn haws cerdded i ffwrdd na be y byddai yn ganol cyfarfod.

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 4:20 pm
gan Macsen
Efallai o fod wedi byw yn Nghaerdydd reit wrth bwys Queen Street am flwyddyn a hanner dw i'n ffeindio'r bois yma yn fwy niwsans. Coeliwch fi, mae yna rai loonies i'w cael!

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 5:57 pm
gan Lowri Fflur
Nes i dreulio bron i bob gwiliau ysgol yn fy mlhentyndod yn Gaerdydd a mae y "loonys" yna wedi bod yna ers blynyddoedd. Dwi yn bersonol erioed wedi ffeindio nw yn annoying. Dwi' n actually eithaf parchu nw achos mae' n siwr bod nw' n gwybod bod rhai pobl yn ei ystyried yn "loonies".