Os ydy'r rhieni'n wir credu yn y defod, dw i ddim yn gweld dim byd o'i le - dyw e ddim yn wneud dim gwahaniaeth i'r baban nes ei fod e'n ddigon hen i benderfynnu dros ei hunan a oes arwyddocâd i'r peth. Ces i fy medyddio yn faban, ac erbyn hyn dydy hynny ddim yn newid y ffordd dw i'n meddwl am bethau ysbrydol - ond ar y pryd doedd fy nhad ddim yn hapus o gwbl am y peth (<i>aethiest</i> yw e), jyst mynd ymlaen â beth oedd teulu fy mam moyn wneud oedd e. Felly, wnaeth y peth mwy o ddifrod i fy nhad nag i fi, gan mod i'n faban bach diniwed gyda phen gwlyb, ond oedd e'n ddyn ifanc 23 oed heb ddweud yn magu ei blentyn ei hun. Cafodd fy chwiorydd mo'u bedyddio fel babanod (gan fod fy nhad wedi dysgu dweud "na" wrth fy mam erbyn hynny): wnaeth un ohonyn nhw penderfynnu dros ei hun pan oedd hi'n 13 oed; wnaeth y llall ddim boddran.
Ddim yn siwr os ydy hynny yn wneud sens. Falle bydd Macsen yn gallu ei olygu?