Reite, beth sy gyda'r Beibl i ddweud ar y mater:
Actau 2:38 a ddywedodd:Meddai Pedr wrthynt, "Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr ysbryd glan yn rhodd."
1Pedr 3:21 a ddywedodd:ac y mae'r hyn sy'n cyfateb i hynny, sef bedydd, yn eich achub chwi yn awr, nid fel modd i fwrw ymaith fudreddi'r cnawd, ond fel ernes o gydwybod dda tuag at Dduw, trwy agyfodiad Iesur Grist.
Ioan 3:3 a ddywedodd:Atebodd Iesu ef: "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywyn ei eni o'r newydd ni all weld teyrnas Dduw."
Ioan 3:5 a ddywedodd:Atebodd Iesu ef: "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywyn ei eni o ddwr a'r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw."
Felly fe welw ni fod bedydd yn digwydd ar ddau lefel yma, bedydd megis yr ysbrydol, cael ei ail-eni, troedigaeth. Ac yna y bedydd 'symbolaidd'/'seramonial' sy'n arwydd or hyn sydd WEDI digwydd i chi yn ysbrydol.
Felly dwi ddim yn cytuno gyd bedyddio plant, dylid cael eich bedyddio ar ol i chi ddod i'r bywyd nid cael ei bedyddio pan yn fis oed yn y gobaith y bydd y baban yn dod i'r bywyd.