gan Aled Owen » Gwe 02 Ebr 2004 10:46 pm
5 Mae'r rhai sy'n cael eu rheoli gan y natur bechadurus yn byw i’r hunan, ond mae'r rhai sydd dan reolaeth yr Ysbryd Glân yn byw i wneud yr hyn mae’r Ysbryd eisiau.
6 Os mai’r hunan sy’n eich rheoli chi, byddwch chi’n marw. Ond os ydy’r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw.
7 Mae’r natur bechadurus yn ymladd yn erbyn Duw. Does ganddi ddim eisiau gwneud beth mae Cyfraith Duw’n ei ofyn – yn wir, allith hi ddim!
8 A dydy’r rhai sy'n cael eu rheoli gan y natur bechadurus ddim yn gallu plesio Duw.
Rhufeiniaid 8:5-8
9 Ac felly dyn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywson ni hynny. Dyn ni’n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae ei eisiau, a’ch gwneud chi’n ddoeth i fedru deall pethau ysbrydol.
10 Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a’i blesio fe ym mhob ffordd: trwy fyw bywydau sy’n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i adnabod Duw yn well.
Colosiaid 1:9-10
15 Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, a’r gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol.
Iago 1
Ar ol i ti ddod yn Gristion be ddylse ti fod isio neud ydi plesio Duw. Y ffordd tin cael gwbod be syn plesio Duw ydi trwy ddarllen dy feibl. Yr un fath a perthnasau hefo dy ffrindie, y ffordd gore o wybod be syn eu plesio ydi trwy ddod i nabod nhwn well. Fellu y rheswm am y gwagedd tin teimlo (yn fy marn i) ydi dy fod ti ddim mewn perthynas agos hefo Duw.
Dydi pawb yma ddim yn 'sorted' ma pawb yn stryglo hefo rwbeth, mar beibl yn son yn amlwg iawn bod bywyd fel Cristion ddim yn hawdd ond yn hytrach yn frwydr.
ma Effesiaid 6:10-20 yn deud:
10 Dyma’r peth olaf sydd i’w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a’r pŵer aruthrol sydd ganddo fe.
11 Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi’n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau castiog y diafol.
12 Nid pobl dyn ni’n ymladd yn eu herbyn nhw. Mae’n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy’n llywodraethu, sef yr awdurdodau a’r pwerau tywyll sy’n rheoli’r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol. 13 Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw’n ei roi i chi, er mwyn i chi fedru dal eich tir pan fydd pethau’n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr.
14 Safwch gyda gwirionedd wedi ei rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch,
15 ac esgidiau ar eich traed, sef y brwdfrydedd i rannu’r newyddion da am heddwch gyda Duw.
16 Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser – byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi.
17 Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw.
18 A beth bynnag ddaw, daliwch ati i weddïo fel mae’r Ysbryd yn arwain. Dylech weddïo ac ymbil yn daer dros bobl Dduw i gyd.
19 A gweddïwch drosto i hefyd. Gweddïwch y bydd Duw’n rhoi’r geiriau iawn i mi bob tro fyddai'n agor fy nheg, er mwyn i mi rannu dirgelwch y newyddion da yn gwbl ddi-ofn.
20 Dw i’n llysgennad i’r Meseia Iesu, ac mewn cadwyni am gyhoeddi ei neges. Gweddïwch y bydda i'n dal ati i wneud hynny’n gwbl ddi-ofn, fel y dylwn i wneud!