gan Hogyn o Rachub » Sad 19 Meh 2004 12:08 pm
Wel mae ffydd yn FOD i'ch bodloni, ond dydi o ddim i bawb (a pham ddylai fod?). Dydw i ddim yn siwr os mae'n fy modloni i - mae gen i ddigon o bethau eraill mewn bywyd sy'n ddigon i fy modloni, fel teulu, ffrindiau a lot o bethau bach fysa'n ddigon ddi-ystyr i bobl eraill mae'n siwr. Ond fel ddudodd Lowri Larsen rhaid i rhywun fynd gyda'u calon, ac mae fy nghalon i'n pwyntio at Dduw, ac yn bersonol dw i'n credu mai dyna'r darn olaf yn y jigsô, fel petai!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?""Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"Y Rachub Rydd Gymraeg