gwern a ddywedodd:Dosa ddim duw. Achos os mae duw yn holl alluog a yn gallu neud bob dim, a mae duw yn ein caru pam mae ef yn gadael i bobol ddioddef.
Ai ai ai! Dadl wan. Os OES Duw (sai cant y cant yn siwr y naill ffordd neu'r llall a bod yn hollol onest), y rheswm bod dioddefaint a phoen yn bodoli (y tu hwnt i'r sothach 'na am Ardd Eden) yw ein bod ni'n gallu deall hapusrwydd a phleser yn ein bywydau. Beth fyddai pwynt bywyd, ble fyddai'r HER mewn bywyd, pe na baem ni'n gallu amgyffred poen?
Arwydd bod Duw yn ein caru, ac mae hyn yn wir er enghraifft gyda rhiant, yw ei f/bod ef/hi yn gallu gadael i ni fynd a chanfod ein ffyrdd ein hunain drwy fywyd, ac ddim yn cadw ei l/law drosom ni drwy'r adeg.
I think I'll call myself Donald Twain.