Enaid

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Enaid

Postiogan Chwadan » Maw 18 Mai 2004 8:22 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae enaid gan ddyn ond nid anifail. Felly pryd y bu i'r epa droi yn ddyn a dechrau cael enaid Ifan?

Ffaith i chi - Descartes wnaeth feddwl am y syniad fod gan Duw enaid ar wahan i'w gorff, yn yr 17eg ganrif. Dyma o lle doth y syniad fod yr enaid yn gallu byw heb y corff ac felly byw am byth yn y nefoedd. Ron i'n meddwl ei fod o'n syniad hynafol, ond cyn Descartes y cysyniad oedd gan bobl o'r enaid oedd un Aristotle, h.y. fod gan bopeth byw enaid.

Yn anffodus mae dadl Descartes yn pants :rolio:

[Wedi hollti'r drafodaeth yma o'r edefyn Esblygiad Vs Y Cread -Macsen]
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 19 Mai 2004 10:21 am

Chwadan a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae enaid gan ddyn ond nid anifail. Felly pryd y bu i'r epa droi yn ddyn a dechrau cael enaid Ifan?

Ffaith i chi - Descartes wnaeth feddwl am y syniad fod gan Duw enaid ar wahan i'w gorff, yn yr 17eg ganrif. Dyma o lle doth y syniad fod yr enaid yn gallu byw heb y corff ac felly byw am byth yn y nefoedd. Ron i'n meddwl ei fod o'n syniad hynafol, ond cyn Descartes y cysyniad oedd gan bobl o'r enaid oedd un Aristotle, h.y. fod gan bopeth byw enaid.

Yn anffodus mae dadl Descartes yn pants :rolio:


Dwi ddim yn credu. Mae'r syniad fod yr enaid yn dragwyddol ac yn byw am byth yn y nefoedd (neu uffern cofiwch) yn dod yn syth o'r beibl nid o syniadaeth athronwyr y 17ef ganrif.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Chwadan » Mer 19 Mai 2004 11:17 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi ddim yn credu. Mae'r syniad fod yr enaid yn dragwyddol ac yn byw am byth yn y nefoedd (neu uffern cofiwch) yn dod yn syth o'r beibl nid o syniadaeth athronwyr y 17ef ganrif.

Lle yn y Beibl? Dwi ar ganol gneud gwaith ar y pwnc yma a ma pob ffynhonnell dwi di dod ar eu traws yn deud mai syniad Descartes oedd o, a'i fod o'n gwbl chwyldroadol i ddamcaniaethau theolegwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 19 Mai 2004 3:58 pm

Chwadan a ddywedodd:Lle yn y Beibl? Dwi ar ganol gneud gwaith ar y pwnc yma a ma pob ffynhonnell dwi di dod ar eu traws yn deud mai syniad Descartes oedd o, a'i fod o'n gwbl chwyldroadol i ddamcaniaethau theolegwyr.


Mae Iesu yn son am fywyd/enaid tragwyddol mewn sawl lle. Dyma Rai:

Mathew 25:46 a ddywedodd:"Wedyn byddan nhw'n mynd i ffwrdd i gael eu cosbi'n dragwyddol, ond bydd y rhai cyfiawn yn cael bywyd tragwyddol."


Ioan 3:15-16 a ddywedodd:"Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn cael bywyd tragwyddol."
Oedd, roedd Duw yn caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.


Ioan 6:47 a ddywedodd:Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan bwy bynnag sy'n credu.


Fe ysgrifennwyd yr ysgrifau uchod ganrifoedd lawer cyn gwaith Descartes
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 19 Mai 2004 4:02 pm

Ma ne wahaniaeth rhwng bywyd tragwyddol ac enaid yn toes. Dim ond son am 'fywyd tragwyddol' wela i yn dy ddyfyniadau di sy'n awgrymu bywyd tragwyddol corfforol/cnawdol fel oedd Iesu ar ol ei atgyfodiad yn hytrach na rhywbeth haniaethol fel 'enaid' sydd ar wahan i'r corff ac yn ei oroesi.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Chwadan » Mer 19 Mai 2004 5:22 pm

Yn hollol. Ond mae'r syniad fod yr enaid a'r corff yn ddau beth gwahanol yn gneud y syniad o fywyd tragwyddol yn gymaint haws i'w gyfiawnahu.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 19 Mai 2004 9:59 pm

Ok enaid

Mathew 16:26 a ddywedodd: Beth ydy pwynt ennill popeth sydd gan y byd i'w gynnig*, a cholli'r enaid?

[ * h.y y corfforol ]


Mathew 22:36 a ddywedodd:Atebodd Iesu: "'Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a'th holl feddwl.'

[ Wedeni fod yr adnod yna yn dangos yn reit glir y syniad fod yr enaid yn rwbeth arall ]


hwn sy'n dangos gliria i fi fod y syniad wyt ti Chwadan yn son amdano yn dod o'r Beibl....:

1 Thesaloniaid 5:23 a ddywedodd:Dw i’n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy’n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi’n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan – yn ysbryd, enaid a chorff – yn cael ei gadw'n ddifai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Iau 20 Mai 2004 8:56 am

Pan ma'r Beibl yn son am fywyd tragwyddol ydi o'n golygu yn gorfforol, fel sydd gan Iesu neu jest i'r enaid ta?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Ffinc Ffloyd » Maw 25 Mai 2004 9:49 pm

Mae'n ymddangos bod enaid pawb yn pwyso 21 gram. Hyd yn oed pobl rili tew.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 19 Meh 2004 11:54 am

Yn bersonol credaf fod yr enaid yn rhwybeth sydd yn y meddwl yn hytrach nag unrhywbeth crefyddol. Dw i'n credu mai'r ffordd y mae rhywun yn teimlo ydyw a rhywbeth i wneud â'n personoliaeth. Hynny yw, os ydach chi'n iach ych enaid, fe ddadleuwn i eich bod yn berson hapus, bodlon, hael ... yn berson da fel y cyfryw. Ond yn dweud hynny fe wn i bod gen i syniadau ddigon rhyfadd am y rhanfwyaf o bethau fel hyn.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai