fela mae a ddywedodd:
cerddwn ymlaen - Peter Thomas a Nia Lewis
Cerddwn ymlaen i'r yfory
Chwifiwn faner yn y gwynt
Seiniwn glod am a gafwyd am fendithion dyddiau gynt
Am y rhai fu yma'n sefyll ac yn brwydro dros y gwir
Seiniwn glod a cherddwn ymlaen.
Wn i ddim am hon. Mae'n ymddangos braidd yn arwynebol yn enwedig wrth ei darllen hi syth ar ol rai o emynau mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dim ond y bit wedi ei dduo sy'n son am Dduw na Iesu i ddeud y gwir - iawn fel emyn i blant bach amwni.
Fy hoff emynau i, wel ma llwyth ond dyma un i chi am y tro, yn eironig (wel eironig i bobl sy'n dallt be dwi'n credu) mae wedi ei sgwennu gan Armin!:
Duw Abram, molwch ef,
Yr Hollalluog Dduw,
Yr Hen Ddihenydd Brenin nef,
Duw cariad yw:
I'r Ior, anfeidrol Fod,
boed mawl y nef a'r llawr;
Ymgrymu wnaf, a rhof y clod
I'r Enw mawr.
Duw Abram, molwch Ef;
Ei holl-ddigonol ddawn
A'm cynnal ar fy nhaith i'r nef
Yn ddiogel iawn;
I eiddil fel myfi
Fe'i geilw'i Hun yn Dduw;
Trwy waed ei Fab ar Galfari
Fe'm ceidw'n fyw.
Fy dyngodd iddo'i Hun,
Ar lw fy Nuw mae'r sail
Y codir f'enaid ar ei lun Tewy Adda'r ail!
Caf weld ei hawddgar wedd,
Ei allu a fawrhaf
A chanu am ei ras, mewn hedd,
Dros fyth a wnaf.
Er bod y cnawd yn wan,
Er uffer fawr a'r byd,
Trwy ras mi ddod i\r hyfryd fan
Fy nghartref clyd;
Mi nofia'r dyfnder llaith
A'm trem ar Iesu cu;
Af trwy'r anialwch erchyll maith
I'r Ganaan fry.
Holl dyrfa'r nef a gan
Mewn diolch yn gytun,
I'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glan-
Eu mawl sydd un:
O! henffych, Ior di-lyth;
Clodforaf gyda hwy
Dduw Abram a'm Duw innau byth
Heb dewi mwy.