Cymedrolwr: Rhys Llwyd
Pantyfedwen
Tydi a wnaeth y wyrth, O! Grist, Fab Duw,
Tydi a roddaist imi flas ar fyw;
Fa gydiaist ynof trwy dy Ysbryd Glan,
Ni allaf, tra bwyf byw, ond canu'r gan;
'Rwyf heddiw'n gweld yr
Harddwch sy'n bywiocau;
Mae'r Haleliwia yn fy enaid i,
A rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i Ti.
Tydi yw Haul fy nydd, O! Grist y Groes,
Yr wyt yn harddu holl orwelion f'oes;
Lle'r oedd cysgodion nos, mae llif y wawr,
Lle'r oeddwn gynt yn ddall, 'rwy'n gweld yn awr;
Mae golau imi yn de Berson hael,
Penllanw fy ngorfoledd yw dy gael;
Mae'r Haleliwia yn fy enaid i,
A rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i Ti.
Tydi sy'n haeddu'r clod, Ddihalog Un,
Mae ystyr bywyd ynot Ti dy Hun;
Yr wyt yn llenwi’r gwacter trwy dy Air,
Daw'r pell yn agos ynot, O Fab Mair;
Mae melodiau'r cread er dy fwyn,
Mi welaf dy ogoniant ar bob twyn;
Mae'r Haleliwia yn fy enaid i,
A rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i Ti.
Coedmor
Pan oedd Iesu dan yr hoelion
Yn nyfnderoedd chwerw loes,
Torrwyd beddrod i obeithion
Ei rai annwyl wrth y groes;
Cododd Iesu!
Nos eu trallod aeth yn ddydd.
Gyda sanctaidd wawr y bore
Teithiai’r gwragedd at y bedd,
Clywid ing yn swn eu camre,
Gwelid tristwch yn eu gwedd;
Cododd Iesu!
Ocheneidiau droes yn gan.
Wyla Seion mewn anobaith,
A’r gelynion yn cryfhau;
Gwelir myrdd yn cilio ymaith
At allorau duwiau gau;
Cododd Iesu!
I wirionedd gorsedd fydd.
Bryn Myrddin
Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb
Mawr yn gwisgo natur dyn;
Mawr yn marw ar Galfaria,
Mawr yn maeddu angau’i hun;
Hynod fawr yw yn awr,
Brenin nef a daear lawr.
Mawr oedd Iesu yn yr arfaeth,
Mawr yn y cyfamod hedd;
Mawr ym Methlem a Chalfaria,
Mawr yn dod i lan o’r bedd:
Mawr iawn fydd Ef ryw ddydd
Pan ddatguddir pethau cudd.
Mawr yw Iesu yn ei Berson;
Mawr fel Duw, a mawr fel dyn;
Mawr ei degwch a’i hawddgarwch, Gwyn a gwridog’ teg ei lun:
Mawr yw Ef yn y nef
Ar ei orsedd gadarn gref.
I Galfaria Trof Fy Wyneb
I Galfaria trof fy wyneb
Ar Galfaria gwyn fy myd
Y mae gras ac anfarwoldeb
Yn diferu drosto'i gyd
Pen Calfaria
Yno f'enaid gwna dy nyth
Yno clywaf, gyda'r awel,
Gerddi'r nef yn dod i lawr
Ddysgwyd wrth afonydd babel
Gynt yng ngwlad y cystudd mawr
Pen Calfaria
Gydia'r ddaear wrth y nef
Dringo'r mynydd ar fy ngliniau
Geisiaf, heb ddiffygio byth
Tremiaf trwy gawodydd dagrau
Ar y groes yn union syth
Pen Calfaria
Dry fy nagrau'n ffrwd o hedd
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai