Caru dy elynion a maddeuant

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Caru dy elynion a maddeuant

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 21 Meh 2004 9:13 pm

Y mae Duw (neu'r Beibl, hwyrach) yn dweud i ni y dylem ni garu ein gelynion a maddau i bawb am eu pechodau, yn cynnwys unrhywbeth a wnaed yn ein herbyn ni. Isho gwybod ydw i faint o bobl yma, yn enwedig Cristionogion, sy'n wirioneddol gwneud hyn, a beth mae anghredinwyr/agnostigs yn meddwl o'r theori?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 22 Meh 2004 9:03 am

Hmmm, yn y bôn mae'n ddamcaniaeth dda, hynny yw eich bod chi'n dysgu bod yn oddefgar ac yn dysgu sut i drin pobl eraill. Y broblem yw nad yw'n rhywbeth sy'n gweithio'n ymarferol. Mae'r ysfa i ddial yn rhywbeth sy'n llawer cryfach na'r ysfa i droi'r foch arall.

Er nad ydw i'n cyfrif fy hun fel Cristion, rwy'n gwneud fy ngorau i geisio arddel y ddamcaniaeth o faddeuant a goddefgarwch yn fy mywyd bob dydd, sydd yn fantais sicr i berson penodol ar hyn o bryd! :rolio:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Mwddrwg » Maw 13 Gor 2004 10:43 am

mi faswn i yn galw'n hun yn Gristion a dwi'n trio maddau a bod yn oddefgar. ond wrth feddwl am un enghraifft yn arbennig o fy mhrofiadau i dwi'n deud fy mod wedi maddau ond dydw i ddim ar delerau da a'r person yma felly ydi hynna'n golygu nad ydw i wedi maddau go iawn? ac alla'i ddim dychmygu maddau i unrhyw un fuasai'n gwneud rhywbeth gwirioneddol erchyll i aelod o fy nheulu neu ffrind (hyn heb ddigwydd diolch byth)

be dwi'n trio ei ddweud ydi bod trio maddau yn beth da i'w wneud etc ond dwi'n meddwl mai dim ond Duw all wir faddau, allwn ni 'mond yn gallu trio.
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Postiogan Lowri Fflur » Maw 13 Gor 2004 3:19 pm

Mwddrwg a ddywedodd:mi faswn i yn galw'n hun yn Gristion a dwi'n trio maddau a bod yn oddefgar. ond wrth feddwl am un enghraifft yn arbennig o fy mhrofiadau i dwi'n deud fy mod wedi maddau ond dydw i ddim ar delerau da a'r person yma felly ydi hynna'n golygu nad ydw i wedi maddau go iawn? ac alla'i ddim dychmygu maddau i unrhyw un fuasai'n gwneud rhywbeth gwirioneddol erchyll i aelod o fy nheulu neu ffrind (hyn heb ddigwydd diolch byth)

.


Dwi' n meddwl bod ti' n gallu maddau i riwyn heb fod ar delerau da efo nhw. I fod yn onesd dwi ddim yn meddwl ei fod yn bosib bod ar delerau da efo pawb a siarad hefo nhw ermwyn diogelwch personol.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai