Os na fysai Duw yn bodoli, fysai'r Beibl dal yn berthnasol?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Os na fysai Duw yn bodoli, fysai'r Beibl dal yn berthnasol?

Postiogan Macsen » Gwe 02 Gor 2004 10:50 pm

Un o'r pethau gorau am y Beibl yn fy marn i yw ei fod o'n berthnasol hyd yn oed os nad oes Duw yn bod. Wel, y Testament Newydd, hynny yw. Dw i ddim yn gweld sut mae'r Hen Destament yn berthnasol im cymdeithas o gwbwl os nad oes ryw nod o enill ffafr gyda Duw tu ol i'r peth.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 03 Gor 2004 11:11 am

Nid oes gen i'n bersonol fawr i'w ddweud am y Beibl, fel y gwyddost, ond dw i'n credu bod neges y Beibl (sef, byw bywyd da ac onest) yn un bethnasol. Hyd yn oed yn yr Hen Destament mae'r Deg Gorchymyn yn rhai eithaf urddasol y gellid eu dilyn er mwyn bywyd o da. Wedi'r cyfan, pwy all ddadlau'n erbyn 'Na lladd' a 'na ddwyn'?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan krustysnaks » Sad 03 Gor 2004 11:42 am

Dwi'n siwr fasa rhai yn dweud na fyddai'r Beibl yn bodoli heb Dduw, gan mai gair Duw ydyw.
Ond dwi'n anghytuno, oherwydd dwi ddim yn credu mewn Duw, felly nid ei Air ydy'r Beibl i mi. Felly, ydw i'n gweld y Beibl yn berthnasol?
Rhai darnau wrth gwrs, gan mai synnwyr cyffredin sydd yma, ond rhai darnau sydd jyst yn mynd yn erbyn fy egwyddorion i.
Hanner a hanner - ddim yn dda i ddim, ond ddim y llyfr pwysicaf yn fy mywyd.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan garynysmon » Sul 04 Gor 2004 9:58 am

Dwi'n credu, os fysai tystiolaeth anhygoel yn dod allan i brofi nad ydi Duw yn bodoli, y byddai'n ddiwrnod du iawn yn hanes y ddynol ryw. Does dim modd gwadu nad ydi cyfraith gwlad wed'i selio ar y beibl mewn amryw o ffyrdd, a bod ein cydwybod hefyd wedi selio ar orchymion y beibl. Felly, credaf fod y beibl yn holl bwysig i sefydlu unrhyw fath o drefn yn ein bywydau bob dydd, boed Duw yn bodoli neu beidio.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Lowri Fflur » Maw 13 Gor 2004 3:26 pm

Dwi' n meddwl bod y beibl yn berthnasol os nad oes Duw. Mae yna lawer o negeseuomn da yn y testament newydd fel Car dy gymydog a ballu. Dwi' n meddwl bod yr hen destament yn berthnasol hefyd oherwydd ei fod yn stori ffantasdic wedi ei adrodd yn dda yn llawn trais a rhiw- y pethau sy' n gwneud stori da.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Aled Owen » Gwe 30 Gor 2004 9:38 pm

Yr ateb syml ydi na. Holl bwrpas y Beibl yw deud wrth ddynoliaeth am Dduw a'i berthynas hefo ni. Os does dim Duw does dim perthynas, does dim angen ein hachub. Ond gan bod Duw mae'r Beibl yn hollbwysig.
Rhithffurf defnyddiwr
Aled Owen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 08 Hyd 2003 12:05 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Sad 31 Gor 2004 1:02 pm

Aled Owen a ddywedodd:Yr ateb syml ydi na. Holl bwrpas y Beibl yw deud wrth ddynoliaeth am Dduw a'i berthynas hefo ni. Os does dim Duw does dim perthynas, does dim angen ein hachub. Ond gan bod Duw mae'r Beibl yn hollbwysig.


Beth, felly os na fysai Duw yn bydoli bysai rheolau fel peidio lladd eraill a treisio merched ddim yn bwysig mwyach? Hmm, dw i am roi gorau i geisio dadlau hefo ti am fodolaeth Duw, Aled, rhagofn i ti golli dy ffydd a mynd ar rampage. :ofn:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai