Os gwnaeth Duw gamgymeriadau mae y ffordd y greodd ef pobl yn un ohony nhw. Y rheol gyntaf a wnaeth Duw i Efa ag Afa oedd i beidio bwyta y ffrwyth a dyna oedd y peth cyntaf a wnaethom nhw. Bethbynnag pam fwytodd Efa ag Afa y ffrwyth doedden nhw ddim yn blant bach di-niwed rhagor felly roedd rhaid i Dduw eu hel nhw o Baradwys.
Bethbynag fe ffeindiodd Efa ag Afa ychydig o bethau allan. Ffeindiodd nhw bod nw' n gallu cael rhiw gyda' i gilydd. Yna ffeindiodd Efa y boen anhygoel a rhyfeddol o roid genedigaeth. Gaetho nhw un mab bach annwyl ac un arall a oedd yn eiddigeddus felly lladdodd ei frawd. Ond yna caetho nhw ychydig o hapusrwydd o gael mwy o blant a aeth ymlaen i gael mwy o blant.
Ar ol i' r holl blant ma cael ei greu dwi' n gweld y tystiolaeth nad yw Duw yn berffaith. O gael ei siomi gan y trais a drygioni ei blant mae' n penderfynu cael gwared a phobl. Mae' n creu llifogydd mawr a barodd am 40 diwrnod sy' n lladd pawb (heblaw am Nowa a oedd efo llong yn ganol yr anialwch). Bysa tad sy' n caru ei blant yn gwneud hyn?
Ond ar ol hyn fe barhawodd pobl i bechodu. Felly beth oedd y pwynt lladd yr holl bobl? Efallau y creodd Duw bobl yn delwedd ei hun ag fe dalodd pobl y pwyth yn ol. Mae meddwl am bobl sy' n ceisio gwneud synnwyr o' r byd yn creu Duw sydd yn debig i' w hunain yn gwneud llawer o synnwyr i mi. Iawn gair Duw yw y beibl ond mae pobl yn annibynadwy a phobl ysgrifennod y Beibl.
Felly beth sydd yn gwneud pobl ddyddiau yma mor saff y cafodd pobl yn yr hen ddyddiau gair Duw yn iawn?