Macsen a ddywedodd:Os fyswn i'n gwthio fy mrawd mewn i bwll a siarc ynddo, dim fi fysai'n gyfrifol am y canlyniad? Wrth gwrs, mae yna siawns bach y bysai fy mrawd yn denig gyda'i fywyd o'r siarc, ond fy mai i fysai fo am ei roi o yn y sefyllfa hwnnw yn y lle cyntaf. Mae Duw wedi ein gwthio ni mewn i bwll a siarac or enw pechod ynddo. Mae y lleiafrif bach yn denig, wrth gwrs, ond mae'r mawyafrif yn cael ei bwyta a'n mynd i uffern. A dim bai Duw y hynny?
Dyw'r cymhariaethau 'ma ddim yn helpu i egluro'r ddadl, ond os ti am barhau â nhw, gai plîs addasu dy ddelwedd er mwyn iddi adlewyrchu'r sefyllfa'n well. 'Nai gadw ti fel Duw gan bo ti'n amlwg yn hoff o'r rôl (
)
Ti sy'n arwain dy frawd i'r pwll, ie, ond
dwyt ti ddim yn ei wthio. Yn hytrach, rwyt ti'n dangos y pwll iddo a'n dweud wrtho am beidio byth mynd mewn oherwydd fod siarc yno. Cei di adael nawr - dere draw i'nghlogwyn i os ti mo'yn... Anyway, un dydd, mae rhywbeth yn attynu dy frawd i'r pwll - un o'r wyau 'nes i daflu falle. Mae'n hollol ymwybodol am y siarc, ond dyw e erioed wedi gweld wy o'r blaen, ac mae'n arnofio
mor agos i'r lan... Dwyt ti ddim i weld, felly mae dy frawd yn estyn ei law i'r dwr. Bam! Mae'r siarc wedi'i fwydo... Ai dy fai di yw hynny?