Ma 'na wahaniaeth mawr rhwng creu Dyn
gan wybod y bydd e'n pechu, a creu Dyn
i bechu. Dwy ddim am ddadlau am eiliad fod Duw ddim yn ymwybodol y byddai Dyn yn pechu, ond ma hynny bellffordd o fo'n gyfystur a'i greu i wneud drwg.
Macsen a ddywedodd:Doedd gan dyn ddim dewis yn y mater, achos fod Duw wedi ei greu o i ryw bwrpas arbennig.
Y
dewis yw'r peth cliria sy na yn y Beibl.
Ti'n gweld mai pwrpas Dyn yw pechu? Yn fy marn i, ei bwrpas yw gwneud dewis.
Dwlwen a ddywedodd:Hyd y gwela i nid creu rhywbeth perffaith yw'r nôd. Yr hyn y'n ni'n ei ddewis sy'n ein diffinio, a nôd Duw yw gweld Dyn yn penderfynnu gwneud da o'i ddewis ei hun.
Nid trwy peidio bwyta'r afal yn y lle cyntaf - ond drwy penderfynnu, wedi profi perffeithrwydd Eden a'r erchylldra sy'n canlyn pechod, i ail-geisio'r cyntaf.
Ydi, mae pechod yn rhan o gynllun Duw. Mae'n rhaid i Ddyn bechu er mwyn bod yn annibynol o Dduw, a bod mewn sefyllfa lle y gall ddewis yn ddeallus. Ond, nid Duw sy'n gwthio Dyn at bechod, a nid cyfrifoldeb Duw yw pechod Dyn.
O.N.
Macsen a ddywedodd:...Llyfr yw Paradise Lost, dim ysgrythyr...
Cheers
Se'n i'n selio cred ar Milton fydde gen ti bwynt
(hynod o goeglyd.) Ond gan mai just nodi manylyn o'r stori ddiwynyddol o'n i, wy'n meddwl bod hi'n saff i drystio'r gerdd.