gan Aled Owen » Gwe 30 Gor 2004 9:03 pm
Fase ti'n fodlon dod i lawr or nefoedd. Dod i lawr at rwbeth ti di greu. Rwbeth sydd wedi troi ei gefn arnat, wedi dy fradychu, wedi gwrthryfela yn dy erbyn, rwbeth syn dy gasau. Fase ti'n fodlon gadael tragwyddol phleser a hedd i achub rwbeth sy'n haeddu ei ddinistrio? Fase ti'n marw dros dy elyn? Faase ti'n dioddef yr artaith eithaf i achyb llwch y llawr? Nid aberth bach ddioddefodd Iesu. Er yr holl boen corfforol nid dyna wnaeth iddo chwysu dafnau o waed ynyr ardd. Y boen oedd dioddef tair awr heb Dduw. Fe dorodd ei berthynas dragwyddol hefo'r Tad er ein mwyn ni. Nid aberth fach oedd hon, nid oes aberth mwy wedi ei gwneud erioed, a ni fydd yna fyth un fwy i ddod. Dioddefodd Iesu cosb pechod pob un sy'n credu ynddo. Ddim er lles iddo ei hyn, dim er mwyn cael bod yn y nefoedd, roedd ganddo bob peth yn barod. Aberthodd o bob peth er mwyn talu am ein heddwch ni, er ein mwyn ni. Er mwyn cael perthynas hefo ni, ni oedd yn haeddu uffern a chosb dragwyddol.