Iesu

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Iesu

Postiogan Neb » Gwe 23 Gor 2004 1:18 am

Heb swnio yn anmarchus am beth ydych yn gredu o a ydych dipyn bach yn ddiniwad yn coelio mewn Iesu. Dydi o ddim dipyn fel coelio mewn Sion Corn. Mae hefyd dipyn bach fel coeli mewn chwedlau fel y Mabinogi. Dwi'n credu mae storiau y beibl wedi dwad gan bobl oedd yn ofn marw oedd wedi brainwasho ei hunan efo y storiau hyn a wedi pasio y storiau yn mlaen i'w plant. Fel mae technoleg a gwyddoniaeth wedi gwella mae mwy a mwy o storiau y beibl wedi gael ei profi i fod yn anghywir. Dyda chi ddim yn meddwl mae y peth rhy ffantastic i fod yn wir bod ydych chi yn byw bywyd da wedyn da chi yn mynd i'r nefoedd a bod yn hapus am byth. Da chi ddim yn meddwl sa chi yn mynd yn bored ar ol dipyn?
Gwybod dim, deall dim
Neb
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 38
Ymunwyd: Sul 28 Maw 2004 11:16 pm
Lleoliad: Rhywle

Postiogan Macsen » Gwe 23 Gor 2004 4:56 pm

Ti'n gwastraffu dy amser os wyt ti am geisio perswadio cristnogion i goelio bod dim Duw 'na Iesu gyda ffeithiau. Does gan ffeithiau ddim lle mewn crefydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 23 Gor 2004 4:58 pm

Ffydd mae unryw Grefydd wedi selio ar nid ffaith.

Dwi ddim yn meddwl bod chdi'n gorfod bod yn ddiniwed i goelio mewn Duw na chwaith yn syml dy feddwl. Mae pobl clyfar iawn yn credu mewn Duw.

Pam ame pobl yn credu mewn Duw tybad?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 23 Gor 2004 5:05 pm

lowri larsen a ddywedodd:Pam ame pobl yn credu mewn Duw tybad?

Mae'n garreg gornel gryf iawn i adeiladu dy feddwl arno. Sydd hefyd yn esbonio pam nad ydi cristnogion yn frwdfrydig iawn i ni dynu'r garreg honno ymaith- mi fysai' ymenydd cyfan yn chwalu i'r llawr.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 23 Gor 2004 5:10 pm

Beth wy ti' n gredu Macsen?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 23 Gor 2004 5:17 pm

lowri larsen a ddywedodd:Beth wy ti' n gredu Macsen?


Dwi'n ymwybodol o'm bodolaeth fy hun. Dyna'r unig beth dw i'n creu ynddo gydag unrhyw sicrwydd.

Unwaith rwyt ti'n dechrau credu mewn pethau mae dy allu i feddwl yn rhesymol yn mynd lawr allt.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Treforian » Gwe 23 Gor 2004 5:47 pm

Neb a ddywedodd:a ydych dipyn bach yn ddiniwad yn coelio mewn Iesu. Dydi o ddim dipyn fel coelio mewn Sion Corn
Moment of truth, neb. Y prif whaniaeth rhwng coelio yn Iesu a choelio yn SC yw bod Iesu'n bodoli. Anodd, dw i'n gwybod. Wela i ddim byd yn ddiniwad mewn coelio mewn rhywun real wnaeth ddod i'r byd i farw dros fy mhechodau.

Gyda llaw, os oedd hwnna'n swnio chydig yn dwatlyd, mi o'n i'n arfar credu'r un fath â chdi, ond dw i wedi sylweddoli be o'n i'n i golli. Plis gwnewch yr un fath. Mae o'i werth o. onasd.
Treforian
 

Postiogan Macsen » Gwe 23 Gor 2004 6:13 pm

Treforian a ddywedodd:
Neb a ddywedodd:a ydych dipyn bach yn ddiniwad yn coelio mewn Iesu. Dydi o ddim dipyn fel coelio mewn Sion Corn
Moment of truth, neb. Y prif whaniaeth rhwng coelio yn Iesu a choelio yn SC yw bod Iesu'n bodoli. Anodd, dw i'n gwybod. Wela i ddim byd yn ddiniwad mewn coelio mewn rhywun real wnaeth ddod i'r byd i farw dros fy mhechodau.

Gyda llaw, os oedd hwnna'n swnio chydig yn dwatlyd, mi o'n i'n arfar credu'r un fath â chdi, ond dw i wedi sylweddoli be o'n i'n i golli. Plis gwnewch yr un fath. Mae o'i werth o. onasd.


Rhyfedd. Dwi'n nabod merch sy'n taeru bod y Bwdda yn foi go iawn hefyd, a bod ei bywyd hi'n lot gwell wedi darganfod ei ffydd. A dw i wedi clywed nifer o bobl sy'n Fwslemiaid yn dweud bod Mohammed yn bod, a bod ei bywydau nhw wedi bod yn lot gwell ers ei ddarganfod fo. Ac yn sicr mae'r hindwiaid yn dweud rywbeth tebyg. Dyna gyd ddigwyddiad anferth, te, bod pob un crefydd a pobl ynddo sy'n credu a ffydd hollol!

Yr unig esboniad yw bod Duw pob un ohonynt yn bodoli!

Os na, mae rhaid i ni dderbyn ei fod o fewn gallu y ddynoliaeth i wneud pethau i fyny a dechrau ei haddoli, a darganfod hapusrwydd o fewn hynny.

Ond, dyna ni. Mae'n amhosib plannu amheauth o fewn meddwl y dyn crefyddol, heblaw fod ei ofergoeliaeth yn dibynnu ar anwybodaeth. Mae'r rhan fwyaf o bobl crefyddol lot mwy deallus na hynny, yn defnyddio system o doublethink (syniad Orwell) i dderbyn popeth sy'n pwyntio tuag at Dduw yn bodoli ac anwybyddu popeth sydd ddim, fel y rhai yna oedd yn addoli Big Brother yn 1984 ac yn credu ei fod o'n berffaith.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Treforian » Sad 24 Gor 2004 2:20 pm

Mi oedd muhammad yn bod, a'r bwda hefyd. Ond canllawiau a rheolau ydi'r rhan fwyaf o grefyddau, ac nid cymaint o achubiaeth ac addewid am fywyd tragwyddol. Hefo cristnogaeth mae gen ti'r sicrwydd bod Duw yn bod, iddo fo'n creu ni a gofalu amdanon ni a bod iesu grist wedi'i yrru i'r byd i farw trostan ni.
Hefo'r pwynt hindwaidd, mae yna fyd o wahaniaeth rhwng addoli eliffant clai pinc wyt ti wedi ei greu ac ymddiried mewn rhywbeth real a gofyn iddo fo dy achub di.
Treforian
 

Postiogan Lowri Fflur » Maw 27 Gor 2004 11:59 pm

Treforian a ddywedodd:Hefo'r pwynt hindwaidd, mae yna fyd o wahaniaeth rhwng addoli eliffant clai pinc wyt ti wedi ei greu ac ymddiried mewn rhywbeth real a gofyn iddo fo dy achub di.


Beth yw'r gwahaniaeth? Mae'r ddau yn rywbeth mae pobl yn addoli oherwydd eu crefydd a mae crefydd Crisnogion a Hindws yn gwneud i bobl deimlo bod eu bywyd yn well. Mae'n debig bod y ffydd mae Crisnogion a Hindws yn teimlo yr un fath.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 38 gwestai