Ydach chi'n meddwl eu bod nhw wedi camddyfynnu yn y cylchgrawn V wsnos yma? Nath Lois Adams ddeud go-iawn ei bod hi'n "edrych mlaen i farw"?
Dwi'n dallt, o fewn ei gyd-destun, be oedd ganddi hi, ond dwi'n meddwl ei fod o di'i gymryd allan o'i gyd-destun yn llwyr a'i bod yn annheg iawn ei roi o ar glawr y cylchgrawn ac yn y blaen. V yn mynd fatha gwasg y gwter ac yn trio bod yn sensationalist??