Mathew 6:5-8 a ddywedodd:"A pheidiwch â gweddïo fel y rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw! Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg a chau'r drws ar dy ôl, a gweddïo ar dy Dad sydd gyda thi yno er nad wyt yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti. 7 A phan fyddwch chi'n gweddïo, peidiwch â mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae'r paganiaid yn gwneud. Maen nhw'n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir. 8 Peidiwch chi â bod fel yna, oherwydd mae'ch Tad chi'n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair.
Ond, yn ogystal mae'r Beibl yn dangos fod modd i Gristnogion ddod at ei gilydd am gymdeithas a cheisio Duw gyda'i gilydd....
Mathew 18:19-20 a ddywedodd:9 "A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, cewch hynny gan fy Nhad yn y nefoedd. Oherwydd lle mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw."