gweddi

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydych chi mynychu cyfarfod gweddi?

yn gyson
2
29%
yn achlysurol
3
43%
byth
2
29%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 7

gweddi

Postiogan Aled Owen » Maw 10 Awst 2004 11:20 pm

Pam bod cynlleied o gristnogion yn mynych cyfarfodydd gweddi? pryd mae Mathew 21:21 yn deud

20 Pan welodd y disgyblion hyn roedden nhw wedi eu syfrdanu. "Sut wnaeth y goeden ffigys wywo mor sydyn?" medden nhw.
21 "Credwch chi fi." meddai Iesu, "Dim ond i chi gredu, a pheidio ag amau, gellwch chi wneud mwy na’r hyn wnaethpwyd i'r goeden ffigys. Gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, 'Dos, a thaflu dy hun i'r môr,' a byddai'n digwydd. 22 Dim ond i chi gredu, cewch beth bynnag dych chi’n gofyn amdano wrth weddïo."
Rhithffurf defnyddiwr
Aled Owen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 08 Hyd 2003 12:05 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dylan » Mer 11 Awst 2004 1:28 pm

Onid peth personol ydi perthynas â Duw (h.y. gweddi) i fod? Pam bod angen mynychu cyfarfodydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 11 Awst 2004 8:54 pm

Cytuno efo ti, Dylan. I mi, mae fy ngweddion yn bethau personol iawn. Dw i'm eisiau eu rhannu gyda neb na dim arall, a dw i'm yn teimlo bod rhaid i mi.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Leusa » Mer 11 Awst 2004 9:42 pm

22 Dim ond i chi gredu, cewch beth bynnag dych chi’n gofyn amdano wrth weddïo."

Pam fod Iesu yn deud clwydda?
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 12 Awst 2004 12:49 pm

Prysurdeb mwy na dim. Dyna sy'n dal fi nol rhag mynnychu cyfarfod gweddi yn coleg yn wythnosol. Efo undeb Cristnogol Panty ma na ddau gyfarfod, cyfarfod gweddi/astudiaeth ar y nos fercher ar prif gyfarfod ar y nos iau, o Nadolig mlan ffeindiesi allan rhwng popeth nad oedd mynd ir ddau bob wythnos yn ymarferol felly penderfynais gomittio fy hun i fynd i'r prif gyfarfod yn unig (er wrth gwrs mod i'n gweddio'n bersonol yn aml).

Felly mewn sefyllfa ple ti goro dewis pa gyfarfod i fyn i pam wnes i ddewis y prif gyfarfod yn hytrch nar cyfaarfod gweddi?! Cwestiwn da, oherwydd o bosib yn y prif gyfarfod bydd pobl yn meddwl "Ble ma Rhys Llwyd?" ple yn y cyfarfod gweddi, stim lot yn mynd ta beth, fellly fydde fe ddim mor amlwg bo fim yn mynd.

Ond wedi meddwl am y peth mae'r cyfarfod astudiaeth/gweddi yn bwysicach i chi nar prif gyfarfod FELLY flwyddyn nesa os na fyddai gallu mynd ir ddau o bosib mae dewis mynd ir cyfarfod gweddi yn unig wnaf.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 13 Awst 2004 5:56 am

Rhys Llwyd a ddywedodd: "Ble ma Rhys Llwyd?"


Pam sa chdi'n poeni bod pobl yn gofyn hyn os sa chdi'n gwybod bod chdi'n mynychu y cyfarfod mwyaf pwysig? Pam wy ti'n meddwl mae'r cyfarfod gweddi yw'r mwyaf pwysig?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 13 Awst 2004 10:18 am

lowri larsen a ddywedodd:Pam sa chdi'n poeni bod pobl yn gofyn hyn os sa chdi'n gwybod bod chdi'n mynychu y cyfarfod mwyaf pwysig?


Mae'r prif gyfarfod yn fwy o le i ddangos dy wynab yn tydi. Ma siaradwyr yn dod fewn i siarad ac os na fydde ni yna sar siaradwyr (rhan fwya o siaradwyr yn henuriaid fy nghapel) yn mynd nol a soriau o fod fi ddim yna.

Lowri Larsen a ddywedodd:Pam wy ti'n meddwl mae'r cyfarfod gweddi yw'r mwyaf pwysig?


Ti'n medru cael mwy allan ohono, mwy personol. Yn y prif gyfarfod fedri di jyst ista yna yn cnoi dy winedd am hanner awr, ond yn y cyfarfod llai mar pawb yn cyfrannu felly rhaid chdi ganolbwyntio mwy ac felly tin cael mwy allan ohono!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 13 Awst 2004 11:02 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae'r prif gyfarfod yn fwy o le i ddangos dy wynab yn tydi. Ma siaradwyr yn dod fewn i siarad ac os na fydde ni yna sar siaradwyr (rhan fwya o siaradwyr yn henuriaid fy nghapel) yn mynd nol a soriau o fod fi ddim yna.


Tydach chi Efengylwyr ddim mor wahanol i gapelwyr eraill ag on i'n feddwl :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 13 Awst 2004 2:20 pm

Aled a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae'r prif gyfarfod yn fwy o le i ddangos dy wynab yn tydi. Ma siaradwyr yn dod fewn i siarad ac os na fydde ni yna sar siaradwyr (rhan fwya o siaradwyr yn henuriaid fy nghapel) yn mynd nol a soriau o fod fi ddim yna.


Tydach chi Efengylwyr ddim mor wahanol i gapelwyr eraill ag on i'n feddwl :D


haha, nesi ddim deud fod y sefyllfa yn iawn ddo :?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Treforian » Llun 16 Awst 2004 3:56 pm

Dw i ddim yn gweld angen dros rannu gweddiau â neb ond Duw.
Mathew 6:7 a ddywedodd:Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg a chau'r drws ar dy ôl, a gweddïo ar dy Dad sydd gyda thi yno er nad wyt yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.
Treforian
 

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai