Crynwyr?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Crynwyr?

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 13 Awst 2004 11:12 pm

Mae'r Crynwyr yn enwad o Brotestaniaid sy'n rhoi pwyslais ar elfen ysbrydol y ffydd Grisnogol. Yn lle dilyn rheolau caeth i Grynwyr y peth pwysig yw dilyn y golau oddi mae pobl yn cael gan Dduw. Pethau eraill sydd yn ran o'r grefydd yw bod y pacifist a a gwrthod tynnu llw. Roedd rhain yn bethau a oedd yn cael ei edrach ar yn ddrwgdybus gan y llywodraeth. Fel y rhanfwyaf o gredfyddau cafodd y crynwyr eu herlid a llawer ei rhoi yn y carchar. Doedd yr awdurdodau crefyddol ddim yn hapus chwaith. Roedd y Piwritaniaid yn galad yn y fordd a wnaethan farnu y Crynwyr. Un peth oedd yn gwneud y Crynwyr yn anghyffredin oedd y rol oedd gan merched i chware yn llededeunu y ffydd. Cafodd pedair dynas ei lladd gan y llywodraeth rhwng 1659 a 1661. Roedd y Crynwyr yn tueddu pedio cael llawer o groeso yn rhai o'r colonis oherwydd eu bod mor gryf yn erbyn caethweisiaeth.

Swnio'n enwad da i fi beth mae pobl eraill yn meddwl?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan nicdafis » Sad 14 Awst 2004 9:36 am

Oedd fy mhartner yn arfer mynychu Cwrdd y Crynwyr yn Aberteifi, a roedd yn arfer mwynhau, yn enwedig pan nad oedd pobl yn siarad o gwbl.

Oedd <a href="http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3880000/newsid_3881700/3881787.stm">Waldo Williams</a> yn Grynwr, wrth gwrs. Sgwennodd e draethawd "Paham yr wyf yn Grynwr", ond dw i'n fffaelu ffeindio copi ar lein.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 16 Awst 2004 10:10 am

Mi o ni'n sceptical iawn o'r crynwyr, yn bennaf oherwydd y duedd yma o gadw'r cyfan i mewn. Ie ffydd bersonol ydych perthynas gyda Christ ond ma fe'n ffydd y dyle chi agor allan a'i rannu gyda phawb dros y byd ac nid ei gadw mewn ystafell fach dawel. (sdim amynedd da fi ffeindio yr adnode i brofi hynny ar hyn o bryd, ond fe wnai os ydy rhywyn ishe).

Wedi gwneud peth ymchwil i fewn i'r Crynwyr ac wedi dod i ddaranfod fod yna adain 'efengylaidd' o'r Crynwyr yn bodoli, sef 'Evangelical Friends International' gyda 140,000 o aelodau. Dyma eu cyffes ffydd hwynt:

http://www.evangelical-friends.org/about/beliefs.html

Dwi'n meddwl fedrai ddweud mod i'n cytuno efo rhanfwyaf helaeth o'i cyffes ffydd, mae eu diwinyddiaeth felly yn reit galfinaidd.

Y prif beth sy'n eu gwahaniaethu nhw a fi felly (hynny yw yr adain yma) ydy dull addoli yn hytrach na diwinyddiaeth.[/quote]
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan nicdafis » Llun 16 Awst 2004 1:08 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ie ffydd bersonol ydych perthynas gyda Christ ond ma fe'n ffydd y dyle chi agor allan a'i rannu gyda phawb dros y byd ac nid ei gadw mewn ystafell fach dawel.


Iesu Grist a ddywedodd:Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg a chau'r drws ar dy ôl, a gweddïo ar dy Dad sydd gyda thi yno er nad wyt yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.

Mathew 6:7

Sori Rhys, rhy anodd i'w wrthsefyll. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mr Gasyth » Llun 16 Awst 2004 1:31 pm

nicdafis a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Ie ffydd bersonol ydych perthynas gyda Christ ond ma fe'n ffydd y dyle chi agor allan a'i rannu gyda phawb dros y byd ac nid ei gadw mewn ystafell fach dawel.


Iesu Grist a ddywedodd:Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg a chau'r drws ar dy ôl, a gweddïo ar dy Dad sydd gyda thi yno er nad wyt yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.

Mathew 6:7

Sori Rhys, rhy anodd i'w wrthsefyll. ;-)


Os ydi o'n golygu mod i'n gallu llorio Rhys Llwyd mewn dadleuon, dwi am ddechre darllen y Beibl hefyd!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 16 Awst 2004 2:18 pm

ok you asked for it!

Rhoswch funud!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 16 Awst 2004 3:02 pm

Mathew 28:18-20 a ddywedodd:Wedyn dyma Iesu'n mynd atyn nhw ac yn dweud, "Dw i wedi cael awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear. Felly ewch i wneud pobl o bob cenedl yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân. A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi. Gellwch chi fod yn sicr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.


Felly os ydy'r crynwyr yn iawn, ymddengys felly fod beth wnaeth yr eglwys fore ar epistol Paul a'i debyg (pregethu i'r cenhedloedd) yn anghywir!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Llun 16 Awst 2004 3:08 pm

Ma'r ddadl yma jest yn dangos ffolineb cymryd popeth yn y beibl yn llythrenol. Mae o mor llawn o wrth-ddywediadau allith neb fyth ddeud na nhw sy'n 'iawn'.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Llun 16 Awst 2004 3:11 pm

Mae hyn yn dangos bod na ddim un wir ystyr i'r Beibl, a bod modd profi unrhyw ffordd o addoli'n gristnogol, bydded yn brotestanaidd, catholig neu y crynwyr, drwy ddewis a dethol pa rannau o'r Beibl yw wyt yn ei cymeryd yn llythrennol.

Edit: Be ddywedodd Aled.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 16 Awst 2004 3:20 pm

Does dim gwrth-ddweud fan hyn mor belled. Mae'r adnod ma Nic wedi ei ddyfynnu yn cyfeirio at ddod i adnabod Duw, y berthynas bersonol real a Duw. Mae'r adnod dwi'n son amdano yn cyfeirio at beth ydych chi, fel Cristion fod ei wneud ar ol i chi gael 'y wobr y cyfeirir ato yn adnod Nic!

Dim gwrthddweud ar y mater yma - heblaw fod y crynwyr, feiddiau ddweud ddim yn rhyw pro-active eu ymateb i'r gorchymyn yn yr adnodau a ddyfynais i! :winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai