Trafod athroniaeth yng Nghriw Duw?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Addasu Criw Duw i le i drafod Athroniaeth?

Syniad da
18
67%
Syniad gwael
9
33%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 27

Postiogan Madfallen » Iau 02 Medi 2004 4:09 pm

Reit te bobol - lay off Rhys Llwyd nawr. Neu dechreuwch arna i fyd - does fawr o ots da fi i fod yn onest. Chi'n camgymryd yn fawr wrth ddadlau yn y termau hyn, a does dim i'w ddweud ond eich bod yn meddwl yn nhermau'r Byd ac na welwch chi fyth fawredd Duw os chi'n mynnu gweld pethau felly.Wel, dyw hynny ddim yn gwbwl wir ychwaith oherwydd mae Duw wedi gallu rhoi troedigaeth i'r anghredinwyr mwyaf. Dwy ond yn gweddio y digwyddith e i chi er mwyn i chi gael deall a gwir lawenhau. Cewch ddweud mod i, fel Rhys, yn "hunangyfiawn" ond nid ein Cyfiawnder ni yw e, dim ond trwy Ras Duw y mae'r llawenydd hwn yn bosib.

Sai'n credu mai maes-e yw'r lle i drafod hyn. Chi ddim yn mynd i barchu beth sydd gennym i'w ddweud a byddwch dim ond yn marcio ein negeseuon yn ddiwerth. Wel, do your worst te, ond wir, dim ond eich lles chi sydd gennym ni mewn golwg wrth geisio eich perswadio i beidio a chablu ymhellach.
Rhithffurf defnyddiwr
Madfallen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Sad 12 Gor 2003 12:56 pm

Postiogan Mr Gasyth » Iau 02 Medi 2004 4:29 pm

Madfallen a ddywedodd:Chi ddim yn mynd i barchu beth sydd gennym i'w ddweud


troi'r sefyllfa ar ei phen braidd o ystyried fy nadl efo Rhys uchod.

a byddwch dim ond yn marcio ein negeseuon yn ddiwerth.


dwi di bod yn rhoi lot mwy o 'difyrs' i Rhys Llwyd ers iddo fo gychwyn dadlau efo fi go iawn.

eniwe, dwi am ei gadel hi rwan dwi'n meddwl. dwi'm yn un am siarad efo waliau :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Gwe 03 Medi 2004 12:26 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n dy gredu di o hynny o beth, ac yn cael y teimlad dy fot ti'n deall fy nadleuon yn well na Aled.


Ydw dw i'n deall dy ddadleuon, am fy mod i wedi ei defnyddio fy hun amryw o weithiau. Ond nawr fy mod i'n rhydd o afael Cristnogaeth, mae'n bosib i mi ail edrych ar y dadleuon heb ofn - ie, ofn yw'r prif beth sy'n dy gadw di'n gristion. Ofn colli dy hapusrwydd, yn sicr, ac ofn uffern hefyd. Tydi Duw ddim yn rhoi dewis rhydd i ti, mae'n dal uffern i dy ben fel fysai lleidr yn dal gwn. Ond mae rhaid i ti sylwi mae gwn ffug pop yw uffern, ac mae'n bosib darganfod hapusrwydd mewn mannau eraill - does dim angen dweud celwydd wrth dy hun i lenwi'r gwegedd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 03 Medi 2004 8:01 am

Macsen a ddywedodd: Ond mae rhaid i ti sylwi mae gwn ffug pop yw uffern,


Os wyt ti wirioneddol yn credu hynny Ifan, mi rwyt ti'n troedio ar dir anhygoel o beryg. Dwi bron yn sicr fod en dweud yn y Beibl fydd y dioddefaint yn waeth ir rhai sydd wedi clywed/derbyn y gwirionedd ond wedyn wedi ei wfftio . Ai drio ffenindio tystiolaeth am hyn yn y man (man bosib bo fi wedi cam-ddallt cofiwch)

Macsen a ddywedodd:ac mae'n bosib darganfod hapusrwydd mewn mannau eraill - does dim angen dweud celwydd wrth dy hun i lenwi'r gwegedd.


Mae'n wir fod modd ffeindio llawenydd mewn llefydd eraill, dydw i ddim yn gwadu hynny. Cymer fy ffrind, Emyr James fel enghraifft, mi wyt ti'n ei nabod e hefyd dwin meddwl Ifan - daeth e yn Gristion yn ystod y flwyddyn diwethaf, er fod e wedi ei fagu fel cristion efengylaidd, mynd i capel 2 waith y sul bla bla bla dim ond leni daeth e trwy fwlch yr argyhoeddiad. Roedd en hapus iawn i fyd cyn dod yn Gristion, dyw e ddim yn gwadu hynny, dyna o bosib ddaliodd e nol tan nawr OND mi oedd en ymwybodol fod rhywbeth ar goll - ma fe nawr wedi ffeindio y rhywbeth yna.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 03 Medi 2004 9:19 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n dy gredu di o hynny o beth, ac yn cael y teimlad dy fot ti'n deall fy nadleuon yn well na Aled.


Wan dwi'n sylwi ar hyn. Creda neu beidio Rhys on i arfer credu hefyd am flynyddoedd (er nid i'r un graddau ffwndementalaidd a ti :winc: ), a tan yn lledd ddiweddar pan es i, os lici di drwy 'fwlch y diargyhoeddiad'. Fel dudes i, pan ddes i i Criw Duw ron i dal i gyfri fy hun yn agnostic oedd ishio credu.

Yn debyg i Macsen, be sylwes i oedd mai'r prif reswm oeddwn i'n credu, a dwi'n meddwl fod hyn yn wir am lawer o bobl, ydi achos mod i ofn peidio. Ma'r uffern ma yn hongian uwch ein pennau ni fel cosb dragwyddol am beidio credu yn y bod mawr. Wedyn megis fflach mi welais i mor hurt ydi'r gwrth-gyferbyniad rhwng y 'Duw cariad' a 'Duw maddau' honedig a'r syniad o uffern, a gweld fod Cristnogaeth yn llawn o bethau paradocsiadd felma sydd yn ei wneud yn amhosib i gredu mewn Cristnogaeth yn ei gyfanrwydd.

Mae na lot mwy na hyn wrth gwrs, megis jest aeddfedu, stopio bod ofn y byd a meddwl mod i angen help rhyw fod anweledig i fynd drwyddo fo, gweld mai cysur ffwl ydi meddwl 'wel o leia ma Duw efo fi' ac yn aml yn esgus am ffeileddau fy hun gan feddwl mai Duw oedd yn dymuno i fi ffwcio pethe fyny. roedd stopio credu yn debyg iawn felly i pan mae rhywyn yn stopio dibynnau ar eu rhieni am bopeth a chymeryd chyfrifoldeb am fy mywyd fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 03 Medi 2004 9:50 am

Aled a ddywedodd:yn amhosib i gredu mewn Cristnogaeth yn ei gyfanrwydd.


Onadwyf i yn braf fod hynny ddim yn wir. Neu be o tin trio ddeud oedd: "yn amhosib i mi"?

Sut ydach chi yn medru esbonio rhywyn sy'n gael troedigaeth heddiw ta?! Mae o wedi colli go neu be?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 03 Medi 2004 10:25 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Onadwyf i yn braf fod hynny ddim yn wir. Neu be o tin trio ddeud oedd: "yn amhosib i mi"?


Felly ti'n credu 'llygad am lygad' a 'troi'r foch arall'? Ti'n credu fod Duw yn caru a maddau i bawb ond eto yn eu gyrru i uffern? dwi'm yn digwyl ateb rili, cwestiwn rhesthregol ydi o, achos dwi'n gwbod dy fod ti rywsut yn gallu cysoni'r pethau paradoxiadd yma yn dy ben.

Rhys Llwyd a ddywedodd:Sut ydach chi yn medru esbonio rhywyn sy'n gael troedigaeth heddiw ta?! Mae o wedi colli go neu be?


Ddim o'i go yn angenrheidiol, ond yn dewis beidio sylwi ar rai pethau eithaf hurt ac amhosib sydd ynghlwm wrth ei grefydd er mwyn gallu cysuro ei hun fod yn mynd i'r nefoedd ar ol marw.

Sut wyt ti'n egluro pobl sy'n colli eu ffydd? Ydyn nhw o'u co?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Madfallen » Gwe 03 Medi 2004 10:43 am

Mae hyn ond yn cadarnhau yr hyn own ni yn amau ac yn wirioneddol boeni oedd yn wir eisioes, sef fod y capeli traddodiadol ond yn portreadu'r darlun hwn o Dduw Cariad, a hynny ar dral Duw Barn a Duw Cyfiawnder. Siôn Corn o DDuw maen nhw'n ei bortreadu i gynulleidfa sydd yn eu meddyliau nhw fel plant. Mae hyn yn peri i mi wir ofidio am y capeli bach, ac mae'n wir dweud y byddai'n well eu gweld nhw bob yn un ac un yn cau eu dryse heddiw nag yn dal ati i au-bregethu fel hyn. :drwg: :drwg:

Yn y dechreuad, roedd perthynas iach rhwng Duw a dyn, ond wedi'r Cwymp fe gollwyd y berthynas honno gan fod Pechod wedi ei lygru. Mae Duw yn gyfiawn ac felly ni allai ymwneud a Phechod. Mae'n rhaid i Dduw Cyfiawn gosbi Pechod a chosb Pechod yw marwolaeth (a thragwyddoldeb yn Uffern).

Ond mae Duw hefyd yn Dduw Cariad ac ni allai weld hyn yn digwydd i'w bobl ac i'w greadigaeth ar y ddaear. Anfonodd ei Fab ei hun i'r ddaear, i gaenol Pechod dyn, i drio addysgu'r bobl a'u troi nol at Dduw. Ond roedd yn rhaid achub dynoliaeth gyfan a dyna a wnaeth Iesu pan fu farw ar y groes. Nid cael ei ladd, yn anffodus, fel y dysgir ni i gredu yn ein Hysgolion Sul pitw a diwerth, ond marw o wirfodd Duw. Llygru ei hun, oedd yn berffaith, gyda'n pechod ni, a thalu am bob pechod a fu erioed ac a fydd eto. Ni fydd yn rhaid i neb sy'n credu ynddo o hyn ymlaen at ddiwedd y byd dalu'r gosb am eu pechod eu hunain, pa bynnag mor ddrwg ydyw (nac ychwaith yn ddibwys yng ngolwg y Byd - achos mae cymaint o bechodau sydd mor dderbyniol erbyn heddiw, ac mae pawb yn pechu bob dydd).

Mae Duw Cariad wedi bodloni Duw Barn ar y Groes. Ond mae Duw yn dal i fod yn Dduw Cyfiawnder.
Rhithffurf defnyddiwr
Madfallen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Sad 12 Gor 2003 12:56 pm

Postiogan Cardi Bach » Gwe 03 Medi 2004 11:31 am

Alla i ddim derbyn dadl sylfaenol Macsen na Aled mai yn y pendraw 'ofn' sy'n gyrru Cristion, ac ein bod ni wedi cael ein twyllo ac nad oes uffern.

I mi mae hynny gyfystyr a dweud nad oes dim byd ar ol marwolaeth hefyd. Os ddim, a fod popeth yn dod i ben gyda'r anadl ola, yna, yn rhesymegol ddigon, yr hunan sy'n bwysig. Does dim dyletswydd gyda ni at neb arall - at deulu, at ffrinidau, at gymdeithas, at genedl, at ddynoliaeth. Pwy wahaniaeth sydd beth ydw i'n wneud a mywyd i? Dwy ddim yn atebol i neb ond fi'n hun, ac felly dylen i wneud beth sy'n dda i fi fy hun.

Mae rhai wedi dadlau fod yna foesoldeb naturiol mewn dynoliaeth ac y dylid cadw'n fyddlon at hwn. Ond pam? at ba ddiben? Pam ddylwn i boeni os oes rhywun arall yn diodde o ganlyniad i ngweithredoedd i? Pam? Am fod fy ngweithredoedd i am wneud drwg? So wot? a beth bynnag, beth yw drwg? Pwy sy'n diffinio drwg? Mae drwg i un person yn ddaioni i berson arall. Mae canibaliath i rai yn ffordd berffaith resymegol o fyw - mae corff marw yn fwyd. Me'r bwyd hwnnw yn pwdri ac yn mynd i wast os nad yw e'n cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn 'iawn' i ganibal.

Dim 'ofn' uffern ydw i. Sdim rheswm gyda fi i ofn neu ffordd arall, achos alla i fyth 'pre-empto' dyfarniad y Bod Mawr. Alla i mond byw y gore galla i i ganllawiau y Bod Mawr. Daw dydd y farn yn ddigon buan, heb orfod poeni amdano fe.

Wy hefyd yn cytuno a Rhys am fod Iesu wedi achub y byd, o ran nad 'barn' yw hyn, ond mater o ffaith...iawn na i dderbyn mai mater o ffaith i Gristion yw e, ond eto gosodiad yn hytrach na mynegiad o farn yw e ar ran Rhys, a finne a Madfallen. Mae honno yn gysyniad tu hwnt o gymhleth i rywun nad sy'n credu - a wy ddim ar unrhyw gyfri yn sarhau gallu pobl trwy ddweud hynny, maddeuwch i fi os odych chi'n twmlo mod i'n sarhau, nid dyna yw'r bwriad. Mae e wedi achub, ond sdim pawb yn fodlon derbyn hynny, neu heb weld hynny. Nawr dyw hynny ddim i weud fod y rhai sy'n derbyn hynny yn well mewn unrhyw ffordd na rhai sydd ddim. Yn amlach ma nhw lawer gwaith, fel medde Rhys uchod - fel fi :wps: - achos fi'n dal i bechu, er mod i'n treial peido (proses yffyrnol o hir a phoenus :drwg: ), a rhaid i ni ond edrych ar nifer o'n 'capelwyr' selog brwd ni a'u rhagrithiau yn barnu a chondemnio.

Byddn i'n awgrymu falle fod dadlau chwyrn i'r gwrthwyneb yn awgrymu falle nid yn gymaint mai fi sydd 'ofn' ond mai chi sydd 'ofn' - ofn colli mas ar rywbeth yn un peth ond yr ofn mywa cyffredin yw'r ofn yma falle eich bod chi'n anghywir a fod y Cristnogion bondigrybwyll hunangyfiawn yma yn gywir a'u bod nhw am fyw mewn nefoedd am fyth bythoedd amen tra eich bod chi yn diodde mewn tannau uffern am byth, ond wrth gwrs ofn afresymol yw hyn achos gall Cristion ddim dweud pinnau a fydd e/hi yn mynd i'r nefoedd neu i uffern yr un modd a gall cristion byth barnu angrhediniwr - dim ond Duw all wneud hynny. Falle fod yr 'ofn' yma yn eich is-ymwybod o'r holl draethu a gafoch chi yn y Gymru pwiritanaidd yn ystod eich magwraeth.
Jyst awgrym :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 03 Medi 2004 12:53 pm

Madfallen a ddywedodd:Mae hyn ond yn cadarnhau yr hyn own ni yn amau ac yn wirioneddol boeni oedd yn wir eisioes, sef fod y capeli traddodiadol ond yn portreadu'r darlun hwn o Dduw Cariad, a hynny ar dral Duw Barn a Duw Cyfiawnder. Siôn Corn o DDuw maen nhw'n ei bortreadu i gynulleidfa sydd yn eu meddyliau nhw fel plant. Mae hyn yn peri i mi wir ofidio am y capeli bach, ac mae'n wir dweud y byddai'n well eu gweld nhw bob yn un ac un yn cau eu dryse heddiw nag yn dal ati i au-bregethu fel hyn. :drwg: :drwg:

Yn y dechreuad, roedd perthynas iach rhwng Duw a dyn, ond wedi'r Cwymp fe gollwyd y berthynas honno gan fod Pechod wedi ei lygru. Mae Duw yn gyfiawn ac felly ni allai ymwneud a Phechod. Mae'n rhaid i Dduw Cyfiawn gosbi Pechod a chosb Pechod yw marwolaeth (a thragwyddoldeb yn Uffern).

Ond mae Duw hefyd yn Dduw Cariad ac ni allai weld hyn yn digwydd i'w bobl ac i'w greadigaeth ar y ddaear. Anfonodd ei Fab ei hun i'r ddaear, i gaenol Pechod dyn, i drio addysgu'r bobl a'u troi nol at Dduw. Ond roedd yn rhaid achub dynoliaeth gyfan a dyna a wnaeth Iesu pan fu farw ar y groes. Nid cael ei ladd, yn anffodus, fel y dysgir ni i gredu yn ein Hysgolion Sul pitw a diwerth, ond marw o wirfodd Duw. Llygru ei hun, oedd yn berffaith, gyda'n pechod ni, a thalu am bob pechod a fu erioed ac a fydd eto. Ni fydd yn rhaid i neb sy'n credu ynddo o hyn ymlaen at ddiwedd y byd dalu'r gosb am eu pechod eu hunain, pa bynnag mor ddrwg ydyw (nac ychwaith yn ddibwys yng ngolwg y Byd - achos mae cymaint o bechodau sydd mor dderbyniol erbyn heddiw, ac mae pawb yn pechu bob dydd).

Mae Duw Cariad wedi bodloni Duw Barn ar y Groes. Ond mae Duw yn dal i fod yn Dduw Cyfiawnder.


Gwych, dyna fe! Wedi cael ei osod mewn ffordd llawer gwell na dwi wedi straffaglu eu neud ar y maes ers 2 flynedd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron