Trafod athroniaeth yng Nghriw Duw?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Addasu Criw Duw i le i drafod Athroniaeth?

Syniad da
18
67%
Syniad gwael
9
33%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 27

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 02 Medi 2004 9:11 am

lowri larsen a ddywedodd:Dwi'n teimlo union yr yn fath. Mwy tuag at rhai o'r pobl sy'n eithafol iawn am y Beibl na Duw. Mae rhai ohonynt dim ond yn dy dderbyn di o fewn safonau ei hunain. Beth dydi nhw ddim yn deall yw bod gan pawb safonau ei hunain dim ond bod safonau pawb yn wahanol a ddim deillio o'r Beibl.


Dwi'n dallt be sgen ti fama. Ond nid dilyn run athroniaeth a Rhys Llwyd sy'n gneud tin gristion o gwbl, nid oes athroniaeth gyda fi, nid wyf athronydd, yr unig beth dwi'n ei wneud ydy ceisio fy ngorau i esbonio be ma Duw yn ei ddweud trwy'r Beibl.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Iau 02 Medi 2004 10:09 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n dallt be sgen ti fama. Ond nid dilyn run athroniaeth a Rhys Llwyd sy'n gneud tin gristion o gwbl, nid oes athroniaeth gyda fi, nid wyf athronydd, yr unig beth dwi'n ei wneud ydy ceisio fy ngorau i esbonio be ma Duw yn ei ddweud trwy'r Beibl.


Paid a pasio'r byc. Tydi Duw ddim yma i ni ddadlau efo Fo nacdi, er dwi'n amau base fo'n haws weithie :rolio: Os ti'n cytuno efo fo, ac mi wyt ti, dy ddalaiadau di ydyn nhw hefyd ac rwyt ti run mor gyfrifol amdanynt ag ydi pawb arall am ein credodau ni.

Dwi'n meddwl mai'r pwynt pwysig ydi mai cred a nid gwybodaeth ydi Cristnogaeth fel pob athroniaeth arall. All neb wybod yn sicir mai dyne'r gwir. Gwybodaeth ydi fod 2 + 2 = 4, wnaith hyn fyth newid. Mae pobl yn gallu colli eu cred mewn Cristnogaeth (fel dwi wedi neud), ond dio'm bwys be ddigwyddith wna i na neb arall fyth stopio gwybod fod 2 + 2 = 4.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 02 Medi 2004 10:34 am

Aled a ddywedodd:Paid a pasio'r byc. Tydi Duw ddim yma i ni ddadlau efo Fo nacdi, er dwi'n amau base fo'n haws weithie :rolio: Os ti'n cytuno efo fo, ac mi wyt ti, dy ddalaiadau di ydyn nhw hefyd ac rwyt ti run mor gyfrifol amdanynt ag ydi pawb arall am ein credodau ni.

Dwi'n meddwl mai'r pwynt pwysig ydi mai cred a nid gwybodaeth ydi Cristnogaeth fel pob athroniaeth arall. All neb wybod yn sicir mai dyne'r gwir. Gwybodaeth ydi fod 2 + 2 = 4, wnaith hyn fyth newid. Mae pobl yn gallu colli eu cred mewn Cristnogaeth (fel dwi wedi neud), ond dio'm bwys be ddigwyddith wna i na neb arall fyth stopio gwybod fod 2 + 2 = 4.


Dy broblem di ydy dy fot ti'n trio rhesymu cred, yn fwy penodol fy nghred i, gyda dulliau/safonau'r byd. Drwy wneud hynny ti'n anwybyddu'r ochr oruwchnaturiol o Gristnogaeth yn syth ac o ganlyniad ti YN dod a fe lawr ir lefel o fod jyst yn un eidioleg arall.

Mi wyt ti'n credu fod yr awyr yn las heddiw, pam wyt ti'n credu hynny? Beth yw dy dystiolaeth? Dy dystiolaeth di yw dy synwyr, yn yr achos yma golwg. Alli di ddim teimlo presenoldeb Duw oherwydd diwedd y dydd yr unig beth wyt ti'n ei drystio ydy dy synhwyrau di, ac ni all unrhyw un o dy synhwyrau di ddangos i ti fod Duw yn wir. OND yng Nghardd Eden, cyn y cwymp mi roedd Adda ac Efa yn siarad yn agored gyda Duw, roedd ganddyn nhw linc uniongylchorl efo Duw, linc a gollwyd yn y Cwymp. Da ni wedi colli y synwyr hwnw, dyna pam mae ein stad naturiol ni ydy anghrediniaeth. Mae rhaid i ti adael dy synhwyrau a rhoi tryst pellach mewn rhywbeth heblaw am dy synhwyrau os wyt ti am gredu.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Iau 02 Medi 2004 12:40 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dy broblem di ydy dy fot ti'n trio rhesymu cred, yn fwy penodol fy nghred i, gyda dulliau/safonau'r byd. Drwy wneud hynny ti'n anwybyddu'r ochr oruwchnaturiol o Gristnogaeth yn syth ac o ganlyniad ti YN dod a fe lawr ir lefel o fod jyst yn un eidioleg arall.


A dy broblem di, ydi dy fod yn gweld credodau pawb arall in is-raddol i dy rai di a ddim yn dangos y parch na'r ddealltwriaeth ohonyn nhw wyt ti'n sisgwyl gen i (ac yr ydw i'n trio ei ddangos) at dy gred di. Ti sy'n iawn, ffwl stop. Ti'm yn gallu amgyffred fod yna bobl erill sydd yr un mor sicir o'u cred yn eu Duwiau hwy ag yr wyt ti o dy un di, neu yr un mor sicir o anfodolaeth unrhyw Dduw. Ac os wyt ti'n gallu amgyffred hyn, ti jest yn deud eu bod nhw'n rong achos na ti sy'n iawn achos dy fod wedi'w ddarllen o yn y Beibil.

Rhys Llwyd a ddywedodd:OND yng Nghardd Eden, cyn y cwymp mi roedd Adda ac Efa yn siarad yn agored gyda Duw, roedd ganddyn nhw linc uniongylchorl efo Duw, linc a gollwyd yn y Cwymp. Da ni wedi colli y synwyr hwnw, dyna pam mae ein stad naturiol ni ydy anghrediniaeth.


Sut wyt ti'n gwbod hyn? Achos dy fod wedi ei ddarllen mewn llyfr. Efo be ti'n darllen? Dy lygaid, a dy synnwyr 'golwg'. Ma bron dy holl ddadleuon yn dod o rywbeth wyt ti wedi ei ddarllen mewn un llyfr gan ddefnyddio dy lygaid. Be sy'n gneud dy lygaid a dy lyfr di yn fwy sbeshial na rhai unrhywun arall?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cardi Bach » Iau 02 Medi 2004 1:28 pm

Bydden i'n coresawi trafod 'athroniaeth' os mai dyna fyddai dymuniad pobol, gan gyfeirio at fy ffydd fel 'athroniaeth', eto os mai dyna yw dymuniad pobol.

Fi'n argyhoeddiedig o fodolaeth y bod Mawr - ar y foment, ond fi'n cael amheuon, bron yn ddyddiol, ond wedyn fi'n cal yn atgyfnerthu yn ddyddiol.

Mae angen argyhoeddi eraill o odidogrwydd y ffydd Gristnogol, ac ma Aled a Lowri a Macsen yma yn son sut mae mynd ati i'r gwrthwyneb. Yn hynny o beth fi o'r farn yn lle jwmpo mewn i'r pen dwfwn (!) fod rhaid mynd gam bach wrth gam bach. Ennilla i mo neb drosodd os nad ydw i am gyfaddawdu fy null dysgu (dim y ffydd, ond y ffordd o ddysgu). Os enilla i neb drosodd, wel oleia fydda i wedi trial, a falle bydd rhwbeth wedes i, neu nes i, rwbryd yn dod o fudd i rywun.

Ma arna i ofon na alla i weud ag unrhy sicrwydd mai fi sy'n iawn. Mae'r hyn fi'n gredu yn solid, ond am mod i'n ddi-ddysg ac heb ddarllen digon na rhoi'n hunan i astudio'r efengyl ddigon ,alla i byth a gweud mai fi sy'n iawn. yr unig beth alla i neud yw pwyso a mesur pethau yn erbyn Iesu a mynd o fan'na. Dyna'r cam cynta.

Mae trafodaeth athronyddol wastad yn ddifyr ac yn amal yn gweud mwy am y person a magwreth ac addysg a chymdeithas y person nag am unrhyw wirioneddu mawr am y byd ai bethau :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 02 Medi 2004 1:34 pm

Aled a ddywedodd:A dy broblem di, ydi dy fod yn gweld credodau pawb arall in is-raddol i dy rai di a ddim yn dangos y parch na'r ddealltwriaeth ohonyn nhw wyt ti'n sisgwyl gen i (ac yr ydw i'n trio ei ddangos) at dy gred di. Ti sy'n iawn, ffwl stop. Ti'm yn gallu amgyffred fod yna bobl erill sydd yr un mor sicir o'u cred yn eu Duwiau hwy ag yr wyt ti o dy un di, neu yr un mor sicir o anfodolaeth unrhyw Dduw. Ac os wyt ti'n gallu amgyffred hyn, ti jest yn deud eu bod nhw'n rong achos na ti sy'n iawn achos dy fod wedi'w ddarllen o yn y Beibil.


Dwi'n fodlon credu fod modd i bobl eraill ddod o safbwyntiau gwahanol ble ma materion eilradd yn y cwestiwn (e.e rhyfel, polisi cymdeithasol) Ond ynghlyn a craidd cred, sef y groes a phechod dim ond un gwirionedd sydd, dim ond trwy Iesu mae mynd i'r nefoedd.

Y pwynt ydy, dydw i ddim mynd i dy gonfyrtio di i fod y Gristion trwy ennill y ddadl. Oherwydd ble ma Cristnogaeth yn y cwestiwn mae iawn wedi ei thalu, mar ddadl wedi ei ennill ar y groes. Yr ysbryd glan achibith ti, nid fy nadlau pitw i.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Iau 02 Medi 2004 2:04 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n fodlon credu fod modd i bobl eraill ddod o safbwyntiau gwahanol ble ma materion eilradd yn y cwestiwn (e.e rhyfel, polisi cymdeithasol) Ond ynghlyn a craidd cred, sef y groes a phechod dim ond un gwirionedd sydd, dim ond trwy Iesu mae mynd i'r nefoedd.


yn dy farn di

Y pwynt ydy, dydw i ddim mynd i dy gonfyrtio di i fod y Gristion trwy ennill y ddadl. Oherwydd ble ma Cristnogaeth yn y cwestiwn mae iawn wedi ei thalu, mar ddadl wedi ei ennill ar y groes.


yn dy farn di
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Iau 02 Medi 2004 2:22 pm

Aled a ddywedodd:yn dy farn di


Wel, barn pwy arall fysa fe? Mae rhaid i ti ddeall bod dadlau a cristnogion yn broses hynod anodd, gan ei bod yn fodlon meddwl mewn doublethink drwy gydol yr amser, gyda gwerth tystiolaeth yn dibynnu ar pa mor gredadwy mae'n gwneud gair Duw. Dw i wedi rhoi fyny dadlau a cristnogion yn y cigfyd (pwy ydw i i gymeryd ei hapusrwydd mawr oddi arnynt?) ond lle i ddadlau ydi Maes-E, felly waeth i fi wneud ddim.

Rhys Llwyd a ddywedodd:Gwd wan! Ma modd rhoid esboniad beiblaidd o dy daith ysbrydol di, gweler dameg yr heuwr!


Mi ddaliais i ymlaen i Gristnogaeth am ychydig flynyddoedd cofia. Pam wyt ti'n siarad am dy 'hapusrwydd mawr', dwi'n gwybod beth wyt ti'n siarad amdano. Pam wyt ti'n dweud dy fod ti'n teimlo llaw Duw yn dy dywys di drwy dy fywyd, dwi'n gwybod y teimlad. Ond mi wnei di synnu, os wyt ti byth yn torri'r swyn, pa mor debygol oedd y pethau yna o ddigwydd os fysai Duw ar dy ochor di ai peidio. Mae'n bosib darganfod hapusrwydd mewn mannau eraill. Nid pawb sydd a'r gwagedd yna yn eu calonnau, a does dim anghenrheidrwydd i'w lenwi a chrefydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Iau 02 Medi 2004 2:56 pm

Macsen a ddywedodd:
Aled :
yn dy farn di



Wel, barn pwy arall fysa fe?


Fy mhwnt oedd mai barn sydd gan Rhys, yn union fel ti a fi. Ac nad oes ganddo hawl i honni mai ei farn o ydi'r gwirionedd fwy na sydd gan unrhywun arall.

Ond fel ti'n deud, ella fod na'm pwynt dadle.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 02 Medi 2004 3:53 pm

Macsen a ddywedodd:Mi ddaliais i ymlaen i Gristnogaeth am ychydig flynyddoedd cofia. Pam wyt ti'n siarad am dy 'hapusrwydd mawr', dwi'n gwybod beth wyt ti'n siarad amdano. Pam wyt ti'n dweud dy fod ti'n teimlo llaw Duw yn dy dywys di drwy dy fywyd, dwi'n gwybod y teimlad.


Dwi'n dy gredu di o hynny o beth, ac yn cael y teimlad dy fot ti'n deall fy nadleuon yn well na Aled.

Nei di no-way deall fy nadleuon Aled tan bo ti actully yn troedio trwy fwlch yr argyhoeddiad dy hun - oherwydd holl bwynt cristnogaeth ydy sicrwydd. Yr unig beth alla i wneud ydy dwued beth mae'r Beibl yn ei ddweud, felly anghytuno ar ffydd Gristnogol ac anghytuno a threfn Duw wyt ti Aled, sydd, yn ol y Beibl, yn bechod siriys! :winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron