Trafod athroniaeth yng Nghriw Duw?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Addasu Criw Duw i le i drafod Athroniaeth?

Syniad da
18
67%
Syniad gwael
9
33%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 27

Postiogan Mega-Arth » Mer 08 Rhag 2004 8:56 pm

Neu beidio a meddwl dy fod yn gallu egluro popeth drwy Resymeg


Haaaaaaaaaaaaaaaaaaahahahahahahahahahaha!

sori.
Rhithffurf defnyddiwr
Mega-Arth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 162
Ymunwyd: Llun 25 Awst 2003 7:19 pm
Lleoliad: Alaska

Postiogan Treforian » Mer 08 Rhag 2004 9:03 pm

Mr Gasynth a ddywedodd:Felly ti'n credu 'llygad am lygad' a 'troi'r foch arall'?
:drwg: :drwg:

Ydw.

Ie, troi'r foch arall os yw rhywun yn ymosod, ond cael iawn am hynny wedyn; trwy weld y llall yn cael ei haeddiant neu beth bynnag.

Mae'n gwneud perffaith synnwyr i unrhyw un sydd wir isio dallt.
Treforian
 

Postiogan Selador » Iau 09 Rhag 2004 4:48 pm

Felly mae credu mewn Duw, achosi dioddefaint i bobl eraill, a cael maddeuant yn llai pechadurus na byw bywyd yn helpu eraill ond ddim yn credu mewn Duw? Peidiwch trethu am "Dduw Ysgol Feithrin" oherwydd mae hwnna'n ddadl wael sy ddim yn ateb y cwestiwn. Os ydi Duw yn holl-alluog a thrugarog ac bod yr hyn dachi'n ei honni yn wir, yr unig gasgliad alla i ddod ato ydi bod y syniad sydd genddym ni o be sy'n "Iawn" a be sy'n "Anghywir" yn hollol anghywir yn llygaid Duw.
Ac os mai Cristnogaeth yw'r unig Grefydd "Gywir", pam bod Crefyddau eraill yn bodoli o gwbl? Dachi'm yn meddwl ei fodon chydig o gyd-ddigwyddiad bod llawer iawn o grefyddau yn bodoli CYN Cristnogaeth? Ai ddim y rheswm yr ydych chi i gyd yn addoli Cristnogaeth heddiw ydi bod Rhufain wedi Penderfynu mabwysiadu Cristnogaeth fel ei chrefydd yn y flwyddyn 400?
Pam bod Duw wedi rhoi synnwyr rhesymeg ini ei ddefnyddio, os ydio'n ein twyllo ni ynglyn a reality'r bydysawd?
Syd ellwch chi fod yn sicir o fod yn iawn, a Islamiaid a Hindws fod yn sicr o fod yn iawn?
Imi, mae'r hyn yr oedd Crist yn ei draethu yn hollol wahanol i be mae Cristnogaeth yn ei draethu heddiw.
Dydi Cristnogaeth ddim yn gwneud synnwyr imi, oherwydd mae'n ymddangos bod moesoldeb a Christnogaeth yn ddau beth eithaf gwahanol.
Ond dwi'n fodlon gwrando ar unrhyw atebion y gallwch chi Gristnogion eu gynnig.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Mr Gasyth » Iau 09 Rhag 2004 5:30 pm

Treforian a ddywedodd:Mae'n gwneud perffaith synnwyr i unrhyw un sydd wir isio dallt.


Os ti wir isho credu rywbeth, wrth gwrs galli di berswadio dy hun fod o'n wir. Tase fo o fudd i mi gredu fod y byd yn fflat neu'r Wyddfa'n gaws dwi'n siwr y medrwn i argyhoeddi fy hun eu bod nhw. Ma ne bob math o nuttars sydd wirioneddol yn credu fod Kylie mewn cariad efo nhw/mai nhw ydi'r Ail Ddyfodiad/mai coeden ydyn nhw/eu bod nhw'n gallu hedfan - tydi hynny ddim yn ei neud o'n wir.

Os wyt ti wir isho credu nad wyt ti'n mynd i farw, ond yn hytrach yn mynd i fyw am byth mewn Nefoedd baradwysaidd, mater bach ydi cysoni pethau mor gwrthgyferbyniol a jest blydi hurt a sydd i'w cael yn y Beibl a mewn crefydd yn gyffredinol.

Os dio'n gneud iddyn nhw deimlo'n well, ma rhai pobol ddigon dwl i gredu unrhywbeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Selador » Mer 09 Maw 2005 11:00 pm

Wedi darganfod cwis sy'n gofyn cwestiynau ichi am dduw i weld pa mor consistent ydi'r hyn ydach chi'n gredu, yn athronyddol.
http://www.philosophersnet.com/games/god.htm
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Rhysjj » Iau 10 Maw 2005 12:42 pm

Ie, mae hwnna wedi bod o amgylch y rhwyd am beth amser. Gêm dda. Rwy'n cofio y bu rhaid i mi lyncu un bwled (neu ddau? Ddim yn siŵr). Mae fy meddyliau i am y peth yn eitha tebyg i'r meddyliau a welogiwyd gan ffrind, fan hyn. Ond mae'r syniad, yn ei hanfod, yn wych.
Rhysjj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 58
Ymunwyd: Llun 22 Maw 2004 1:34 am
Lleoliad: Y De a'r Gogledd

Postiogan Ramirez » Iau 10 Maw 2005 12:46 pm

Selador a ddywedodd:Wedi darganfod cwis sy'n gofyn cwestiynau ichi am dduw i weld pa mor consistent ydi'r hyn ydach chi'n gredu, yn athronyddol.
http://www.philosophersnet.com/games/god.htm


0 hits
brathu 1 fwled
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan 1+1=2 » Sad 09 Ebr 2005 4:02 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Sut ydach chi yn medru esbonio rhywyn sy'n gael troedigaeth heddiw ta?! Mae o wedi colli go neu be?


Ddim o'i go yn angenrheidiol, ond yn dewis beidio sylwi ar rai pethau eithaf hurt ac amhosib sydd ynghlwm wrth ei grefydd er mwyn gallu cysuro ei hun fod yn mynd i'r nefoedd ar ol marw.
[/quote]

yn dy farn di!

Mr Gasyth, rwyt ti'n honni dy fod yn parchu cred Cristnogion ac wedyn rwyt ti'n mynd a gweid pethe fel hyn. Ma da Rhys ffydd. Y gwirionedd iddo ef yw beth sydd yn y Beibl. Felly, wrth gwrs nad yw e'n mynd i gydnabod bosib bod e'n anghywir. Drwy gydnabod hyn, bydde fe yn ame ei gred ac felly'n ame ei Dduw. Beth rwyt ti'n amlwg yn ei chael yn anodd i'w ddeall yw bod Cristnogion(neu unrhyw un arall sy da ffydd) yn wahanol i ni. Ma da nw grefydd ac felly ma da nw ffydd sbesiffic. Ma nw'n credu yn eu Duw. Dyna y gwirionedd iddyn nhw. Does da ni ddim cred sbesiffic ac felly ri'n ni'n gallu gweid "bosib mai dyma'r gwir, neu bosib mai hwn yw'r gwir"

Ma da credinwyr wirionedd ond does da ti a fi ddim gwirionedd, dim ond gweid "dyw hwnna ddim yn wir" am lot o bethe in ni'n neid.

Sori os yw be fi'n ceisio'i weid ddim yn glir.
chdi a fo di rheini!!
1+1=2
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Mer 06 Ebr 2005 1:35 pm
Lleoliad: Y coleg ger y lli fel ma nhw'n gweid!

Postiogan rooney » Sul 07 Hyd 2007 3:22 pm

Dylai fod mwy o drafodaethau yn ymwneud a Cristnogaeth yn ymddangos ar y maes, yn lle cael ei wasgu mewn i seiat fach breifat fel hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron