Trafod athroniaeth yng Nghriw Duw?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Addasu Criw Duw i le i drafod Athroniaeth?

Syniad da
18
67%
Syniad gwael
9
33%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 27

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 03 Medi 2004 12:59 pm

Cardi Bach a ddywedodd:I mi mae hynny gyfystyr a dweud nad oes dim byd ar ol marwolaeth hefyd. Os ddim, a fod popeth yn dod i ben gyda'r anadl ola, yna, yn rhesymegol ddigon, yr hunan sy'n bwysig. Does dim dyletswydd gyda ni at neb arall - at deulu, at ffrinidau, at gymdeithas, at genedl, at ddynoliaeth. Pwy wahaniaeth sydd beth ydw i'n wneud a mywyd i? Dwy ddim yn atebol i neb ond fi'n hun, ac felly dylen i wneud beth sy'n dda i fi fy hun.


Felly dim ond ofn Duw a'r gobaith am fywyd tragwyddol sy'n dy atal rhag droi yn ganibal????
Mae anghredinwyr yr un mor alluog o deimlo cariad a dyletswydd tuag at eraill ag ydy Cristnogion. Tydi'r ffaith nad ydw i'n meddwl y caf wobr dragwyddol yn y nefoedd ddim yn golygu nad ydw i'n teimlo cariad at fy nghyd-ddyn, yn teimlo rhyw ddyletwydd i drio newid y byd er gwell, nac yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg. Heb os, mae llawer o beth mae'n cymdeithas ni yn ystyried yn dda a drwg yn dod o'r Beibl, a nid yw hyn yn ddrwg o beth ond os gellir dysgu ci neu gath be sy'n iawn a be sy'n rong, siawns fod gan ddyn angrediniol yr un gallu?!!

Os rywbeth, dwi'n meddwl fod Cristnogion yn gallu bod yn llai gweithgar yn y byd hwn, ac yn llai tueddol i geisio cael gwared ar ei anghyfiawnderau na phobl sydd ddim yn credu. Iddyn nhw, y byd nesa sy'n bwysig, dim ond cyfnod byr iawn ydan ni ar y blaned yma yn eu tyb hwy felly pas ots os ydi pobl yn dioddef am y cyfnod byr y maent yma, onid yw'r tlawd a'r rhai sy'n cael eu herlid yn eiddo ar deyrnas Duw? (Matthew 5).
'The love you take is equal to the love you make' - un o'n mottos bach i os liciwch i. I Gristnogion does dim angen lledu cariad, achos ma Duw yn gwneud hynny iddyn nhw. Ma nhw'n pasio'r cyfrifoldeb am bopeth i Dduw.


Cardi Bach a ddywedodd:iawn na i dderbyn mai mater o ffaith i Gristion yw e


wbeth felne dwi di bod yn trio gael allan o Rhys ers ei ddatganiad ar ddechrau'r edefyn! diolch Cardi.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 03 Medi 2004 1:12 pm

Aled a ddywedodd:
Sut wyt ti'n egluro pobl sy'n colli eu ffydd? Ydyn nhw o'u co?


Mae na esboniad Beiblaidd syml i hyn wele

Marc 4 a ddywedodd:3 "Aeth ffermwr allan i hau hadau. 4 Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta. 5 Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn 6 ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau. 7 Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain a thagu'r planhigion, felly wnaethon nhw ddim dwyn had. 8 Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno , cymaint â thri deg, chwe deg neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau."

9 "Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!"
10 Yn nes ymlaen, pan oedd ar ei ben ei hun, dyma'r deuddeg disgybl a rhai eraill oedd o'i gwmpas yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori. 11 Dyma ddwedodd wrthyn nhw: "Dych chi'n cael gwybod y gyfrinach am deyrnasiad Duw. Ond i'r rhai sydd y tu allan mae�r cwbl yn ddirgelwch. 12 Felly,
'maen nhw'n edrych yn ofalus ond yn gweld dim,
maen nhw'n clywed yn iawn ond byth yn deall;
rhag iddyn nhw droi cefn ar bechod a chael maddeuant!�"


13 "Os dych chi ddim yn deall y stori yma, sut dych chi'n mynd i ddechrau deall unrhyw stori gen i! 14 Mae'r ffermwr yn cynrychioli rhywun sy'n rhannu neges Duw gyda phobl. 15 Yr had ar y llwybr ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges, ond mae Satan yn dod yr eiliad honno ac yn ei gipio oddi arnyn nhw. 16 Wedyn yr had gafodd ei hau ar dir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau. 17 Ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw go iawn, a dyn nhw ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am eu bod wedi credu, maen nhw'n rhoi i fyny'n ddigon sydyn. 18 Wedyn mae pobl eraill yn gallu bod fel yr had syrthiodd i ganol drain. Maen nhw'n clywed y neges, 19 ond maen nhw'n rhy brysur, yn ceisio gwneud arian a chasglu mwy a mwy o bethau. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn eu bywydau. 20 Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn ei gredu. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth , tri deg, chwe deg, neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau."

Darn mewn Italig hefyd i'w weld yn Eseia 6:9-10, dangos cysondeb y Beibl a dangos fod yna bwynt i'r hen destament
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 03 Medi 2004 1:19 pm

Dwi ddim yn gallu gweld syt bydda Duw yn fwy tebygol o anfon Cristion i'r Nefoedd na rhiwyn sydd ddim yn credu. Dydi rhai o'r bobl gorau dwi'n adnabod ddim yn coelio mewn Duw a dwi'n siwr bod yna bobl dda iawn sy'n coelio mewn Duw- felly syt mae gwahaniaethu. Dwi'n meddwl bod syt mae pobl yn trin pobl llawer mwy pwysig na beth mae nhw'n gredu. Pobl di pobl nei di ffeindio pobl neis a phobl chas sy'n coelio mewn bob math o bethau.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Madfallen » Gwe 03 Medi 2004 1:41 pm

Wel, be mwy sy angen weud?? Dyma ni nol gydag athroniaeth Duw-Siôn Corn prin awr wedi i fi wneud yr honiad! :rolio: :rolio: :rolio: Pwy sôn am "bobol neis" a "pobol gas" - ai yn yr ysgol feithryn yn ni?? Mwy a mwy wy'n ei ddarllen fan hyn, wy'n mynd fwy sicir o'r ateb i'r cwestiwn a ofynnes i yma. Y peth dwetha wy moyn yw i mhlant i dyfu lan da'r mymbo-jymbo ma dife?

Nawr, weda i e'n araf: Does dim "pobol neis" a "phobol gas" yng ngolwg Duw. Ryn ni i gyd yn bechaduriaid. Nid dod yn bechaduriaid, ond cael ein geni mewn pechod. Ryn ni i gyd yn frwnt ac oherwydd hynny, ni allwn gyfarthrebu gyda Duw yn ein stad naturiol, nag ef gyda ni. Yr unig ffordd i ddod yn lân ac i berthynas a Duw yw drwy Iesu Grist. Bydd Uffern yn llwn o "bobol dda" na wnaethon nhw gredu. :ofn: Fe gawn ni glôd yn y Byd, ond cosb gan Dduw.

Nid Efengyl neisi-neis yw Efengyl Iesu Grist. Sdim rhaid i chi lico fe. Ond deallwch hyn, does dim opsiwn arall. Eich dewis chi.
Rhithffurf defnyddiwr
Madfallen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Sad 12 Gor 2003 12:56 pm

Postiogan Macsen » Gwe 03 Medi 2004 2:14 pm

O, diar. Cymaint i ymateb iddo, cyn lleied o amser. Ond Madfallen, tydi sgwennu anferth ddim yn mynd i wneud dy bwynt di. Naillai dadleua mewn ffont maint call neu ddim o gwbwl. :winc:

Rhys Llwyd a ddywedodd:Os wyt ti wirioneddol yn credu hynny Ifan, mi rwyt ti'n troedio ar dir anhygoel o beryg. Dwi bron yn sicr fod o'n dweud yn y Beibl fydd y dioddefaint yn waeth ir rhai sydd wedi clywed/derbyn y gwirionedd ond wedyn wedi ei wfftio .


Onid yw hyn yn profi fy mhwynt bod Duw yn dal uffern i'n ben ni megis gwn a ddim yn rhoi dewis i ni? Creda neu ti'n mynd i uffern! Diolch Duw, am yr holl ddewis. Gyda llaw, pam fod Duw trugarog yn gyrru pobl i uffern am dragwyddoldeb? Tawelwch, neu mi ei di i uffern fwy poenus fyth! Digon teg. Gyda llaw, pam fysai Duw da yn gadael i bechod fodoli yn y lle cyntaf? Dyna ni, ti'n mynd i uffern! Ond allet ti ddim o leiaf ateb y cwestiwn? Pam? Fi di Duw! Dwi'n cael gwneud beth bynnag ydw i eisiau! Mwahahhaha!

Fy mhwynt i ydi bod darnau mawr tew o'r Beibl sydd ddim yn gwneud un jot o synnwyr. A bob tro dwi'n gofyn y cwestiynau yma i gristion maen nhw naill ai yn ei esbonio mewn ffordd hynod wallus a rhyfedd, neu yn newid y pwnc, neu yn dweud 'wel, tydi neges Duw ddim yn glir i ni bobl feidrol', neu yn dweud wrthyf i fy mod i'n mynd i uffern am ofyn y cwestiwn yn y lle cyntaf.

Rhys Llwyd a ddywedodd:Roedd en hapus iawn i fyd cyn dod yn Gristion, dyw e ddim yn gwadu hynny, dyna o bosib ddaliodd e nôl tan nawr OND mi oedd en ymwybodol fod rhywbeth ar goll - ma fe nawr wedi ffeindio y rhywbeth yna.


Falle bod rhywbeth ar goll, ac mae nawr wedi ffeindio'r peth hwnnw. Ond tydi hynny ddim yn dweud bod Cristnogaeth yn mynd i fodloni pawb, na bod gan bawb rywbeth 'ar goll' yn y lle cyntaf.

Cardi Bach a ddywedodd:Byddn i'n awgrymu falle fod dadlau chwyrn i'r gwrthwyneb yn awgrymu falle nid yn gymaint mai fi sydd 'ofn' ond mai chi sydd 'ofn' - ofn colli mas ar rywbeth yn un peth ond yr ofn mywa cyffredin yw'r ofn yma falle eich bod chi'n anghywir a fod y Cristnogion bondigrybwyll hunangyfiawn yma yn gywir a'u bod nhw am fyw mewn nefoedd am fyth bythoedd amen tra eich bod chi yn diodde mewn tannau uffern am byth


Erm, onid yr un ofn oeddwn i'n siarad amdano yw hwn, sef yr ofn fydd yn gyrru rhywun at Gristnogaeth yn y lle cyntaf? Trwy geisio difetha fy mhwynt rwyt ti wedi ei gryfhau!

Cardi Bach a ddywedodd:I mi mae hynny gyfystyr a dweud nad oes dim byd ar ol marwolaeth hefyd. Os ddim, a fod popeth yn dod i ben gyda'r anadl ola, yna, yn rhesymegol ddigon, yr hunan sy'n bwysig. Does dim dyletswydd gyda ni at neb arall - at deulu, at ffrinidau, at gymdeithas, at genedl, at ddynoliaeth. Pwy wahaniaeth sydd beth ydw i'n wneud a mywyd i? Dwy ddim yn atebol i neb ond fi'n hun, ac felly dylen i wneud beth sy'n dda i fi fy hun.


Mi fysai'n neis meddwl bod dyn yn medru bod yn foesol heb fod cosb yn hongian dros ein pennau ni. Mae'n gwneud synnwyr perffaith i fod yn dda - os fysai pawb yn dda, mi fysai'r byd yn lle lot neisiach i fyw ynddi. Rwyt ti'n trin eraill fel y byset ti'n hoffi cael dy drin dy hun. Does dim angen peryg cosb fawr i wneud hyn- mae'r fantais o fyw yn dda i'w weld o ddydd i ddydd. Da ni'n cael ein gwobrwyo o eiliad i eiliad.

Wrth gwrs does dim posib diffinio beth yw 'da', ac da ni ddim yn byw mewn byd moesol. Mi es i allan am beint neithiwr yn lle gyrru'r pres hwnnw draw i Sudan a safio bywydau. Mi wnes i ladd pobol am fy mod i eisiau peint. Ond fysai neb yn fy meio i- da ni'n galw ein hunain yn foesol, ond da ni ddim.

Er ein bod ni'n dadlau am hyn, mi fysai'n anghywir i ni fod yn oer tuag at ein gilydd o herwydd ein bod ni'n anghytuno. Dwi di weld amryw o Gristnogion yn 'cau allan' pobl sydd ddim yn cytuno a nhw- yn hollol groes i beth mae'r Beibl, ac unrhyw fath o synnwyr, yn dweud y dylen nhw wneud. Gobeithio y galle’n ni gyda dal i fod yn ffrindiau er ein bod ni'n anghytuno, eh? :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Madfallen » Gwe 03 Medi 2004 2:46 pm

Maddau i mi am ddweud hyn, Macsen, ond ti'n gweud dy fod wedi bod drwy fwlch yr argyhoeddiad ond sai'n gweld sut y gallet ti fod wedi gan dy fod yn methu'r un pwynt cwbwl sylfaenol i Gristnogaeth dro ar ol tro.

Mae arna i ofn mai Duw Siôn Corn sydd gen tithau hefyd. Duw magwraeth llawer ohonom ond nid Duw real y Beibl. Ysgol Sulaidd ac nid diwinyddol yw dy syniadau mae arna i ofn. :ofn: A tithau'n gweld dy hun mor glefer hefyd ynte - wel, mae'n ddrwg gen i dy siomi, ond fyddai darllen tipyn ar Esboniadau yn lle comics ddim yn gwneud llawer o ddrwg yn yr achos yma. Neu beidio a meddwl dy fod yn gallu egluro popeth drwy Resymeg (mor Oleuedigaeth, nag yw e??).

Rwyt ti'n son am Dduw trugarog heb ddeall Trugaredd Duw. Nid edrych lawr arnon ni a meddwl, "o ciwt - biti drosto" y mae Duw Cyfiawn. Mae Duw weditrugarhau - mae wedi anfon ei unig Fab i farw yn ein lle. Does dim Trugaredd mwy na hwn, a fydd dim trugaredd pellach. Dyma'r unig ffordd, dydi Duw ddim am gynnig life-line arall i ddynoliaeth. Mae'r unig un - y fwyaf erioed a mwy nag y gallwn ddychmygu - wedi ei chynnig i ni 2000 o flynyddoedd yn ol. Os nad ydi pobl yn dewis y ffordd honno, wel, dyna di - eu dewis nhw. Ond nid yw twpdra dyn yn gyfystyr a dweud nad yw Duw yn drugarog. :rolio:

Duw Siôn Corn fyddai'n dweud "O, mae Macsen wedi gwneud ei orau chwarae teg, ac am fy mod biti drosto, fe gaiff ddod i'r Nefoedd er nad yw'n credu". Duw Cyfiawn gynigiodd y ffordd berffaith i'r nefoedd yn angau'r Groes. Duw Cyfiawn yw duw y Cristnogion; duw Siôn-Corn yw duw cynnifer o'r capeli.
Rhithffurf defnyddiwr
Madfallen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Sad 12 Gor 2003 12:56 pm

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 03 Medi 2004 2:50 pm

Madfallen a ddywedodd:Duw Siôn Corn fyddai'n dweud "O, mae Macsen wedi gwneud ei orau chwarae teg, ac am fy mod biti drosto, fe gaiff ddod i'r Nefoedd er nad yw'n credu". Duw Cyfiawn gynigiodd y ffordd berffaith i'r nefoedd yn angau'r Groes. Duw Cyfiawn yw duw y Cristnogion; duw Siôn-Corn yw duw cynnifer o'r capeli.


Be am bobl sydd heb glywed am y Groes? A ma na lot fawr o bobl wedi mynd i'w beddi heb glywed amdani dros y 2000 o flynyddoedd diwetha. Does dim achub arnyn nhw felly nagoes?

Oni fuasai Duw trugared, cyfiawnder a chariad o leia'n rhoi cyfle i bawb cyn eu barnu?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Madfallen » Gwe 03 Medi 2004 3:06 pm

Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion am ledaenu'r gwirionedd i bedwar ban byd. Ein cyfrifoldeb ni, Gristnogion, yw lledu'r Efengyl, ac rwy'n cyfadde mod i fel cynnifer yn euog o laesu dwylo yn enbyd yn hyn o beth. Ond rhaid i ni ddeall hyn, os yn ni wedi derbyn yr Efengyl ac yn gwrthod ei rannu, mae gwaed y bobl yna y gallen ni fod wedi eu cyfeirio at y goleuni ar ein dwylo ni. Bydd yn rhaid i ni ateb amdanynt ar Ddydd y Farn. Mae Cristnogion wedi cael digon o amser i wneud rhywbeth ar y peth erbyn hyn. Ond dywed y Beibl, os bydd dynion yn peidio a thystiolaethu am Dduw, y bydd y creigiau'n dechrau llefaru ac yn gwneud hynny. Fydd son am Dduw ac aberth y Groes fyth yn marw'n gyfangwbl o'r ddaear. Mae Duw yn dal i achub.

Ac ynglyn a'r pwynt cyfeiliornus taw ofn sy'n gyrru pobl at Grist, dyw hynny jyst ddim yn wir. Pan ddaw rhywun i glywed ac i wir sylweddoli arwyddocad Aberth y Groes (gw. fy neges olaf ond un neu rywbeth felly), fod Iesu ac yntau'n berffaith yng ngolwg Duw wedi baeddu ei farwolaeth ei hun yn ein pechodau brwnt ni, rych chi jyst yn llenwi a chariad a diolchgarwch at Dduw'r tad. Mae wir yn eich hysgwyd. Nid ofn yw hyn - mae'r aberth yn gymaint mwy Ofnadwy (yn yr ystyr wreiddiol) ac Enbyd nag oedd y gosb yn y lle cynta. Bydden ni wedi diodde'r gosb yn gwybod ein bod yn ei haeddu, ond cymerodd yr Un di-fai, di-bechod, yr holl gosb arno'i hunan, gan beri i Dduw, ei Dad, droi ei wyneb oddi wrtho a thorri ei gysylltiad ag e. Dyma aeth Iesu trwyddo oherwydd ein bod [b]ni[/n] yn bechaduriaid. oO nad yw hynny yn ei hun yn ddigon i'ch brawychu, yn sicr i chi wnaiff Uffern fyth.
Rhithffurf defnyddiwr
Madfallen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Sad 12 Gor 2003 12:56 pm

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 03 Medi 2004 5:14 pm

Gyda pob parch Madfallen dydi y ffordd ti'n lledeunu'r efyngyl yn fan hyn ddim yn cael llawer o effaith arnaf i. Efallau y byddai ffordd addfwynach o fynd ati yn fwy o lwyddiant?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 03 Medi 2004 5:27 pm

Madfallen a ddywedodd:A tithau'n gweld dy hun mor glefer hefyd ynte - wel, mae'n ddrwg gen i dy siomi, ond fyddai darllen tipyn ar Esboniadau yn lle comics ddim yn gwneud llawer o ddrwg yn yr achos yma. Neu beidio a meddwl dy fod yn gallu egluro popeth drwy Resymeg (mor Oleuedigaeth, nag yw e??).


Neis gweld dy fod ti'n meddwl mai drwy fod yn daeogaidd mai lledu gair Duw. Does gen i'm amser i unrhyw un sy'n ceisio bychanu'r person mae'n dadlau hefo, sori. Tydw i'm yn honni bod yn 'glefer', ond dwi'n nabod y Beibl yn ddigon da i beidio gorfod rhoi fyny a rwtch nawddoglyd fel hyn. :drwg:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron