Bydden i'n coresawi trafod 'athroniaeth' os mai dyna fyddai dymuniad pobol, gan gyfeirio at fy ffydd fel 'athroniaeth', eto os mai dyna yw dymuniad pobol.
Fi'n argyhoeddiedig o fodolaeth y bod Mawr - ar y foment, ond fi'n cael amheuon, bron yn ddyddiol, ond wedyn fi'n cal yn atgyfnerthu yn ddyddiol.
Mae angen argyhoeddi eraill o odidogrwydd y ffydd Gristnogol, ac ma Aled a Lowri a Macsen yma yn son sut mae mynd ati i'r gwrthwyneb. Yn hynny o beth fi o'r farn yn lle jwmpo mewn i'r pen dwfwn (!) fod rhaid mynd gam bach wrth gam bach. Ennilla i mo neb drosodd os nad ydw i am gyfaddawdu fy null dysgu (dim y ffydd, ond y ffordd o ddysgu). Os enilla i neb drosodd, wel oleia fydda i wedi trial, a falle bydd rhwbeth wedes i, neu nes i, rwbryd yn dod o fudd i rywun.
Ma arna i ofon na alla i weud ag unrhy sicrwydd mai fi sy'n iawn. Mae'r hyn fi'n gredu yn solid, ond am mod i'n ddi-ddysg ac heb ddarllen digon na rhoi'n hunan i astudio'r efengyl ddigon ,alla i byth a gweud mai fi sy'n iawn. yr unig beth alla i neud yw pwyso a mesur pethau yn erbyn Iesu a mynd o fan'na. Dyna'r cam cynta.
Mae trafodaeth athronyddol wastad yn ddifyr ac yn amal yn gweud mwy am y person a magwreth ac addysg a chymdeithas y person nag am unrhyw wirioneddu mawr am y byd ai bethau