Trafod athroniaeth yng Nghriw Duw?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Addasu Criw Duw i le i drafod Athroniaeth?

Syniad da
18
67%
Syniad gwael
9
33%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 27

Trafod athroniaeth yng Nghriw Duw?

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 20 Awst 2004 10:21 pm

Dwi wedi bod yn meddwl am ffurdd o gael sgyrsiau diddorol a chyffrous yng Nghriw Duw. Meddwl oeddwn i efallau y bydda fo'n syniad ehangu Criw Duw i seiat sydd yn trafod Athroniaeth gan gynnwys Crisnogaeth. Bydda hyn yn golygu bod ni'n trafod natur y byd, syd rydym ni fel pobl yn ffitio mewn i'r byd, ble rydym yn cael ein egwyddorion o,a syt rydym yn rhesymu a sefyllfaeoedd a llawer mwy.

Syt mae aelodion Criw Duw yn teimlo am hyn. Ydi o'n syniad da ta yn syniad gwael?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan krustysnaks » Sad 21 Awst 2004 4:28 pm

Gan fod Cristnogaeth yn theori athronyddol i raddau helaeth, dwi'm yn meddwl fod angen pôl piniwn, gan fod trafod athroniaeth yn digwydd yma'n barod.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Chwadan » Sad 21 Awst 2004 4:45 pm

Dwi'n meddwl fod o'n syniad da gan fod athroniaeth, ar un llaw, yn wahanol i Gristnogaeth ac yn gosod sialens i grefydd, ond ar y llaw arall ma'n rhan hanfodol o grefydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 01 Medi 2004 11:36 am

Dwi'n meddwl fod yr edefyn yma yn dweud llawer am gyflwr Cristnogaeth yng Nghymru heddiw.

Mae'n nodweddiadol iawn o Gristnogaeth Feiblaidd Real yn troi'n Gristnogaeth o Draddodiad sydd yn ei dro jyst yn dod yn un eidioleg arall.

Os ydych chi'n Gristion, dylai Duw sefyll ar wahan, neu uwchben unrhyw syniadaeth/athronwyr eraill, dylai eich syniadau chi ddod o'r Beibl. Digon teg trafod athronwyr ac athroniaeth ond nid ar y run llwyfan a Duw a Christnogaeth. Y gwirionedd ydy Cristnogaeth nid un o'r gwirioneddau.

Mae hyn hefyd yn fy atgoffa o'r Tywysog Charles, ef oedd The defender of the Faith, ond bellach mae ef wedi newid ei deitl i The defender of faith! Drwy wneud hyn mae ef wrth gwrs wedi di-swyddo ei hun or teitl, sut all amddiffynydd y ffydd benderfynu peidio amddiffyn y ffydd.

Anyway, dyna ddigon o rantio.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 01 Medi 2004 1:32 pm

[quote=Rhys Llwyd"]Os ydych chi'n Gristion, dylai Duw sefyll ar wahan, neu uwchben unrhyw syniadaeth/athronwyr eraill, dylai eich syniadau chi ddod o'r Beibl. Digon teg trafod athronwyr ac athroniaeth ond nid ar y run llwyfan a Duw a Christnogaeth. Y gwirionedd ydy Cristnogaeth nid un o'r gwirioneddau.[/quote]

Blydi hel, dyma ni off eto.

Gwirionedd Cristnogion ydi Cristnogaeth, nid y gwirionedd. Mae gan bobl eraill, yn grefyddol neu beidio wirioneddau eraill. Mae peidio a chydnabod hyn yn gwneud llawer i esbonio pam fod llawer yn cael eu troi ffwrdd o Gristnogaeth.

Pan ymaelodes i a Criw Duw, roeddwn i'n cyfri fy hun yn agnostic ac roeddwn i eisiau credu. Mae datganiadau fel yr uchod wedi fy nhroi yn fwy a mwy a angrediniwr, a tydw i bellach ddim yn teimlo unrhyw awydd i gredu mewn rhywbeth sydd yn cau gymaint o bobol allan, ac yn edrych i lawr ar weddill y ddynol ryw fel bobol sydd jest yn 'rong'.

'Dim ond un eisioleg arall' ydi Cristnogaeth. Ella mai hi yw'r un gywir, ella ddim, dwi'n fodlon cydabod hyn ond tydi Cristnogion ddim a ma hynne'n fy ngeud i'n sal braidd. Can ni byth wybod pwy sy'n iawn tra da ni ar y ddaear yma. Y piti ydi os mai Rhys sydd yn iawn caiff chwerthin ar fy mhen o'i gadair gyfforddus yn y nefoedd, os mai fi sy'n iawn gai'm cyfle i chwerthin ar ben am ei gamgymeriad.

Rant drosodd. Ond bydd un arall os oes datganiadau mor hurt a'r uchod yn ymddangos eto :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dwlwen » Mer 01 Medi 2004 1:45 pm

Gan nad yw hon yn gylch ecsgliwsif i bobl sy'n credu mewn Duw fi'n meddwl bysai'n iach i adlewyrchu cysyniadau tu allan i grefydd ffurfiol.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 01 Medi 2004 1:47 pm

[quote="Aled"]
Yr upper hand sgan Gristnogion ydy hyn, mae Cristnogion wedi bod, ar un pwynt, yn aethists anghrediniol, does neb yn cael ei eni fel Cristion. Felly dwi'n gwbod be ti'n feddwl, oherwydd dwi wedi bod yn run cwch a ti OND dwy ti ddim wedi bod yn Gristion, felly dwy ti ddim yn deall fy nealldwriaeth i. Ti'n deall be sgin i?!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Mer 01 Medi 2004 5:28 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Yr upper hand sgan Gristnogion ydy hyn, mae Cristnogion wedi bod, ar un pwynt, yn aethists anghrediniol, does neb yn cael ei eni fel Cristion. Felly dwi'n gwbod be ti'n feddwl, oherwydd dwi wedi bod yn run cwch a ti OND dwy ti ddim wedi bod yn Gristion, felly dwy ti ddim yn deall fy nealldwriaeth i. Ti'n deall be sgin i?!


Ha ha ha. Dw i'n atheist ddaeth yn gristion, ond sydd nawr yn agnostic. Felly os ydw i'n dilyn y rhesymeg uchod dwi'n gwybod mwy na ti, felly, Rhys? :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Lowri Fflur » Iau 02 Medi 2004 8:25 am

Aled a ddywedodd:

Pan ymaelodes i a Criw Duw, roeddwn i'n cyfri fy hun yn agnostic ac roeddwn i eisiau credu. Mae datganiadau fel yr uchod wedi fy nhroi yn fwy a mwy a angrediniwr, a tydw i bellach ddim yn teimlo unrhyw awydd i gredu mewn rhywbeth sydd yn cau gymaint o bobol allan, ac yn edrych i lawr ar weddill y ddynol ryw fel bobol sydd jest yn 'rong'.


Dwi'n teimlo union yr yn fath. Mwy tuag at rhai o'r pobl sy'n eithafol iawn am y Beibl na Duw. Mae rhai ohonynt dim ond yn dy dderbyn di o fewn safonau ei hunain. Beth dydi nhw ddim yn deall yw bod gan pawb safonau ei hunain dim ond bod safonau pawb yn wahanol a ddim deillio o'r Beibl.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 02 Medi 2004 9:09 am

Macsen a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Yr upper hand sgan Gristnogion ydy hyn, mae Cristnogion wedi bod, ar un pwynt, yn aethists anghrediniol, does neb yn cael ei eni fel Cristion. Felly dwi'n gwbod be ti'n feddwl, oherwydd dwi wedi bod yn run cwch a ti OND dwy ti ddim wedi bod yn Gristion, felly dwy ti ddim yn deall fy nealldwriaeth i. Ti'n deall be sgin i?!


Ha ha ha. Dw i'n atheist ddaeth yn gristion, ond sydd nawr yn agnostic. Felly os ydw i'n dilyn y rhesymeg uchod dwi'n gwybod mwy na ti, felly, Rhys? :)


Gwd wan! Ma modd rhoid esboniad beiblaidd o dy daith ysbrydol di, gweler dameg yr heuwr!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron