Alla i ddim derbyn dadl sylfaenol Macsen na Aled mai yn y pendraw 'ofn' sy'n gyrru Cristion, ac ein bod ni wedi cael ein twyllo ac nad oes uffern.
I mi mae hynny gyfystyr a dweud nad oes dim byd ar ol marwolaeth hefyd. Os ddim, a fod popeth yn dod i ben gyda'r anadl ola, yna, yn rhesymegol ddigon, yr hunan sy'n bwysig. Does dim dyletswydd gyda ni at neb arall - at deulu, at ffrinidau, at gymdeithas, at genedl, at ddynoliaeth. Pwy wahaniaeth sydd beth ydw i'n wneud a mywyd i? Dwy ddim yn atebol i neb ond fi'n hun, ac felly dylen i wneud beth sy'n dda i fi fy hun.
Mae rhai wedi dadlau fod yna foesoldeb naturiol mewn dynoliaeth ac y dylid cadw'n fyddlon at hwn. Ond pam? at ba ddiben? Pam ddylwn i boeni os oes rhywun arall yn diodde o ganlyniad i ngweithredoedd i? Pam? Am fod fy ngweithredoedd i am wneud drwg? So wot? a beth bynnag, beth yw drwg? Pwy sy'n diffinio drwg? Mae drwg i un person yn ddaioni i berson arall. Mae canibaliath i rai yn ffordd berffaith resymegol o fyw - mae corff marw yn fwyd. Me'r bwyd hwnnw yn pwdri ac yn mynd i wast os nad yw e'n cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn 'iawn' i ganibal.
Dim 'ofn' uffern ydw i. Sdim rheswm gyda fi i ofn neu ffordd arall, achos alla i fyth 'pre-empto' dyfarniad y Bod Mawr. Alla i mond byw y gore galla i i ganllawiau y Bod Mawr. Daw dydd y farn yn ddigon buan, heb orfod poeni amdano fe.
Wy hefyd yn cytuno a Rhys am fod Iesu wedi achub y byd, o ran nad 'barn' yw hyn, ond mater o ffaith...iawn na i dderbyn mai mater o ffaith i Gristion yw e, ond eto gosodiad yn hytrach na mynegiad o farn yw e ar ran Rhys, a finne a Madfallen. Mae honno yn gysyniad tu hwnt o gymhleth i rywun nad sy'n credu - a wy ddim ar unrhyw gyfri yn sarhau gallu pobl trwy ddweud hynny, maddeuwch i fi os odych chi'n twmlo mod i'n sarhau, nid dyna yw'r bwriad. Mae e wedi achub, ond sdim pawb yn fodlon derbyn hynny, neu heb weld hynny. Nawr dyw hynny ddim i weud fod y rhai sy'n derbyn hynny yn well mewn unrhyw ffordd na rhai sydd ddim. Yn amlach ma nhw lawer gwaith, fel medde Rhys uchod - fel fi
- achos fi'n dal i bechu, er mod i'n treial peido (proses yffyrnol o hir a phoenus
), a rhaid i ni ond edrych ar nifer o'n 'capelwyr' selog brwd ni a'u rhagrithiau yn barnu a chondemnio.
Byddn i'n awgrymu falle fod dadlau chwyrn i'r gwrthwyneb yn awgrymu falle nid yn gymaint mai fi sydd 'ofn' ond mai chi sydd 'ofn' - ofn colli mas ar rywbeth yn un peth ond yr ofn mywa cyffredin yw'r ofn yma falle eich bod chi'n anghywir a fod y Cristnogion bondigrybwyll hunangyfiawn yma yn gywir a'u bod nhw am fyw mewn nefoedd am fyth bythoedd amen tra eich bod chi yn diodde mewn tannau uffern am byth, ond wrth gwrs ofn afresymol yw hyn achos gall Cristion ddim dweud pinnau a fydd e/hi yn mynd i'r nefoedd neu i uffern yr un modd a gall cristion byth barnu angrhediniwr - dim ond Duw all wneud hynny. Falle fod yr 'ofn' yma yn eich is-ymwybod o'r holl draethu a gafoch chi yn y Gymru pwiritanaidd yn ystod eich magwraeth.
Jyst awgrym