O, diar. Cymaint i ymateb iddo, cyn lleied o amser. Ond Madfallen, tydi sgwennu anferth ddim yn mynd i wneud dy bwynt di. Naillai dadleua mewn ffont maint call neu ddim o gwbwl.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Os wyt ti wirioneddol yn credu hynny Ifan, mi rwyt ti'n troedio ar dir anhygoel o beryg. Dwi bron yn sicr fod o'n dweud yn y Beibl fydd y dioddefaint yn waeth ir rhai sydd wedi clywed/derbyn y gwirionedd ond wedyn wedi ei wfftio .
Onid yw hyn yn profi fy mhwynt bod Duw yn dal uffern i'n ben ni megis gwn a ddim yn rhoi dewis i ni?
Creda neu ti'n mynd i uffern! Diolch Duw, am yr holl ddewis. Gyda llaw, pam fod Duw trugarog yn gyrru pobl i uffern am dragwyddoldeb?
Tawelwch, neu mi ei di i uffern fwy poenus fyth! Digon teg. Gyda llaw, pam fysai Duw da yn gadael i bechod fodoli yn y lle cyntaf?
Dyna ni, ti'n mynd i uffern! Ond allet ti ddim o leiaf ateb y cwestiwn?
Pam? Fi di Duw! Dwi'n cael gwneud beth bynnag ydw i eisiau! Mwahahhaha!Fy mhwynt i ydi bod darnau mawr tew o'r Beibl sydd ddim yn gwneud un jot o synnwyr. A bob tro dwi'n gofyn y cwestiynau yma i gristion maen nhw naill ai yn ei esbonio mewn ffordd hynod wallus a rhyfedd, neu yn newid y pwnc, neu yn dweud 'wel, tydi neges Duw ddim yn glir i ni bobl feidrol', neu yn dweud wrthyf i fy mod i'n mynd i uffern am ofyn y cwestiwn yn y lle cyntaf.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Roedd en hapus iawn i fyd cyn dod yn Gristion, dyw e ddim yn gwadu hynny, dyna o bosib ddaliodd e nôl tan nawr OND mi oedd en ymwybodol fod rhywbeth ar goll - ma fe nawr wedi ffeindio y rhywbeth yna.
Falle bod rhywbeth ar goll, ac mae nawr wedi ffeindio'r peth hwnnw. Ond tydi hynny ddim yn dweud bod Cristnogaeth yn mynd i fodloni pawb, na bod gan bawb rywbeth 'ar goll' yn y lle cyntaf.
Cardi Bach a ddywedodd:Byddn i'n awgrymu falle fod dadlau chwyrn i'r gwrthwyneb yn awgrymu falle nid yn gymaint mai fi sydd 'ofn' ond mai chi sydd 'ofn' - ofn colli mas ar rywbeth yn un peth ond yr ofn mywa cyffredin yw'r ofn yma falle eich bod chi'n anghywir a fod y Cristnogion bondigrybwyll hunangyfiawn yma yn gywir a'u bod nhw am fyw mewn nefoedd am fyth bythoedd amen tra eich bod chi yn diodde mewn tannau uffern am byth
Erm, onid yr un ofn oeddwn i'n siarad amdano yw hwn, sef yr ofn fydd yn gyrru rhywun at Gristnogaeth yn y lle cyntaf? Trwy geisio difetha fy mhwynt rwyt ti wedi ei gryfhau!
Cardi Bach a ddywedodd:I mi mae hynny gyfystyr a dweud nad oes dim byd ar ol marwolaeth hefyd. Os ddim, a fod popeth yn dod i ben gyda'r anadl ola, yna, yn rhesymegol ddigon, yr hunan sy'n bwysig. Does dim dyletswydd gyda ni at neb arall - at deulu, at ffrinidau, at gymdeithas, at genedl, at ddynoliaeth. Pwy wahaniaeth sydd beth ydw i'n wneud a mywyd i? Dwy ddim yn atebol i neb ond fi'n hun, ac felly dylen i wneud beth sy'n dda i fi fy hun.
Mi fysai'n neis meddwl bod dyn yn medru bod yn foesol heb fod cosb yn hongian dros ein pennau ni. Mae'n gwneud synnwyr perffaith i fod yn dda - os fysai pawb yn dda, mi fysai'r byd yn lle lot neisiach i fyw ynddi. Rwyt ti'n trin eraill fel y byset ti'n hoffi cael dy drin dy hun. Does dim angen peryg cosb fawr i wneud hyn- mae'r fantais o fyw yn dda i'w weld o ddydd i ddydd. Da ni'n cael ein gwobrwyo o eiliad i eiliad.
Wrth gwrs does dim posib diffinio beth yw 'da', ac da ni ddim yn byw mewn byd moesol. Mi es i allan am beint neithiwr yn lle gyrru'r pres hwnnw draw i Sudan a safio bywydau. Mi wnes i ladd pobol am fy mod i eisiau peint. Ond fysai neb yn fy meio i- da ni'n galw ein hunain yn foesol, ond da ni ddim.
Er ein bod ni'n dadlau am hyn, mi fysai'n anghywir i ni fod yn oer tuag at ein gilydd o herwydd ein bod ni'n anghytuno. Dwi di weld amryw o Gristnogion yn 'cau allan' pobl sydd ddim yn cytuno a nhw- yn hollol groes i beth mae'r Beibl, ac unrhyw fath o synnwyr, yn dweud y dylen nhw wneud. Gobeithio y galle’n ni gyda dal i fod yn ffrindiau er ein bod ni'n anghytuno, eh?