gan Mr Gasyth » Gwe 03 Medi 2004 8:21 am
Ma'r ysfa i gal plant yn un o reddfau naturiol pobl a phob creadur arall, fel ydi'r ysfa i fwyta. Mae'n sicrhau parhad y rywogaeth. Yn sylfaenol, mae rhyw yn bleserus er mwyn gneud i bobl gal plant, nid pobl yn cal plant am fod rhyw yn bleserus. Fel mae llwgu yn boenus er mwyn gneud i ni fwyta.
Ella fod y reddf yma ar goll mewn rhai bobl. Yn bersonnol does gen i'm lot o fynedd efo plant, hen fastards bach blin, hunanol, swnllyd, drewllyd, twp sydd yn wir yn fy ngwylltio fi mewn siopau a thafarndai ydyn nhw. Ond eto rhyw ddydd ella mi faswn i'n licio cal hogyn bach i roi Aled yn enw canol arno fo ac fel fod yna rywyn i gadw fy ngenynau yn fyw ar ol i fi fynd.