gan Ffinc Ffloyd » Maw 07 Medi 2004 3:07 pm
Yn bersonol mae'r ddau beth yn bethau na fedr fynd gyda'u gilydd - fel rheol os bydd can yn sôn am Dduw (unrhyw Dduw ne beth bynnag ma pobl yn addoli, nid jysd Duw Cristnogaeth - mae cerddoriaeth satanaidd yn union yr un fath) mae hi'n turn-off llwyr i fi. Mae'r bandiau roc 'Cristnogaidd' yma'n wrthun i mi, achos eu bod nhw'n dewis diffinio eu hunain trwy eu crefydd - dwi ddim yn dewis diffinio fy hun trwy fy anffyddiaeth, felly dwi'm yn gweld pam fod raid i'r bandiau yma wneud chwaith. Dwi'm yn gallu gwrando ar gospel a phethau eraill 'duwiol' chwaith - mae o fel gwinedd lawr fwrdd du i mi.