Cael y dewis yn bechadurus?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cael y dewis yn bechadurus?

Postiogan Ffinc Ffloyd » Maw 07 Medi 2004 3:39 pm

Beth ydi perspectif y rhai o Griw Duw sy'n rhannu'r un ffydd a thrigolion y Bible Belt yn yr UDA am eu gweithgareddau nhw? Yn yr achos yma, cyfeirio ydw i at yr aelodau eithafol.

Mae'r aelodau yma yn grwp pwerus yn America, ac yn eithafol iawn ar nifer o faterion. Mae rhai ohonynt mor rhonc yn erbyn erthylu, er enghraifft, nes eu bod yn dinistrio clinigau erthylu ac yn llofruddio doctoriaid sy'n eu perfformio. Er fod erthyliad yn gyfreithlon yn America ers y penderfyniad Roe v Wade, nid yw hi'n bosib cael erthyliad mewn tros 80% o'r wlad, oherwydd y gwrthwynebiad hwn gan y 'moral minority' fel y gelwir hwy, ac oherwydd diffyg ariannu gan y llywodraeth.

Yn y taleithiau deheuol megis Alabama, Louisiana a Mississippi, mae'r lobi Gristnogol mor gryf nes fod esblygiad prin yn cael ei ddysgu o gwbl - mae llawer mwy o bwyslais yn cael ei roi i'r fersiwn Beiblaidd o'r Creu, ac mae'n bosib i rieni gael dweud nad ydynt am i blant ddysgu am esblygiad os y dymunent, yn debyg i addysg rhyw yma.

Mae nifer o ffilmiau, rhaglenni teledu ac ati wedi cael eu gwrthwynebu gan y criw yma, a gan fod eu llais mor gryf mae hyn yn aml yn ddigon i orfodi newid neu ganslo y rhaglen.

Yr hyn a hoffwn i wybod ydy pam y maent yn gwneud hyn, a beth ydy eu cyfiawnhad tros wneud. Dydw i ddim am ddadlau o blaid nac yn erbyn erthyliad yma - gall unrhywun sydd am wybod fy marn ar y pwnc edrych ar yr edefyn erthyliad. Beth hoffwn i wybod ydy pam fod y bobl yma yn teimlo fod rhywun wedi eu hethol yn amddiffynwyr pob dim sydd yn dda ac yn foesol yn y byd. Os nad ydych chi o blaid erthylu, iawn, ond pam ceisio rhwystro pawb? Mae'n siwr fod yna bobl yn cymryd y safbwynt arall - ydy eu barn nhw yn ddiwerth?

Mae'r un peth yn mynd am raglenni teledu ac ati. Os nad ydych chi (dwi'n defnyddio'r term 'chi' yn gyffredinol, heb gyfeirio at unrhyw grwp yn arbennig) yn hoffi rhaglen, diffoddwch y teledu neu trowch y sianel. Pam teimlo mae chi sy'n gwybod orau?

Dydw i wir ddim yn gwybod beth i ddweud am y mater esblygiad - yn bersonol dwi'n meddwl bod dysgu'r fath beth fel ffaith gan osgoi tystiolaeth wyddonol mewn gwlad waraidd (i fod) yn chwerthinllyd - hwyrach 'mod i mewn lleiafrif. Fodd bynnag, dwi ddim yn gweld beth sy'n gablyd am ddysgu theori wyddonol. Os ydy Duw yn hollalluog ac ati, siawns y gall oroesi bod plant yn Alabama a thebyg yn dysgu am esblygiad. Dwi yn meddwl bod y math yma beth yn dod ac enw drwg i efengylwyr yn gyffredinol, a mi hoffwn i wybod be mae Cristnogion yn gyffredinol yn feddwl am y math yma o beth. Be ydach chi'n feddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 38 gwestai