A fuasai neges y TN yr un peth pe na bai Iesu yn fab i Dduw?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A fuasai neges y TN yr un peth pe na bai Iesu yn fab i Dduw?

Postiogan Dylan » Llun 20 Medi 2004 4:15 pm

(TN = Testament Newydd)

A yw'r neges sylfaenol yn ddibynnol ar y ffaith bod Iesu yn fab i Dduw, yn hytrach na jyst mab dynol i ryw saer? Hynny yw, ai'r neges ei hun sydd yn bwysig, ynteu'r negesydd?

Mae llawer o bethau da ynddo, megis "câr dy gymydog" ac ati, ond 'swn i'n meddwl y buasai'r neges yma yr un mor ddilys pwy bynnag a ddywedodd o.

Un broblem alla' i ei weld ydi bod Iesu wedi dweud mai trwyddo ef yn unig mae cyrraedd Duw. Wrth dderbyn nad mab Duw oedd Iesu felly, rhaid derbyn nad oedd popeth a ddywedodd Iesu yn wir.

felly, ym...ia. Rhywbeth bach i feddwl amdano. Yn bersonol, 'dw i o'r farn mai'r neges ei hun sydd yn bwysig, dim ots pwy sydd wedi ei ddatgan.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Llun 20 Medi 2004 6:41 pm

The medium is the message, fel y dywedir McLuhan. Rhan bwysica’ testament newydd, i Gristnogion beth bynnag, yw'r ffaith bod Duw yn fodlon gyrru ei fab i'r ddaear i farw dros eu pechodau a'i gyrru i'r nefoedd. Os wyt ti'n anwybyddu hynny, mae neges y Beibl dal yn bwysig, ond tydi o'm byd na fysai unrhyw ddyn ar y stryd a deallusrwydd o gyfraith naturiol heb fedru dod i fyny a hi. Ond hud y Beibl yw'r diarhebion a'r trosiadau lliwgar sy'n gyrru'r neges adref mewn steil.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 14 Ion 2005 9:00 pm

Maen elfenol bwysig i Gristnogaeth fod Iesu yn fab i Dduw. Ac felly yn elfenol i holl ystyr a digwyddiadau'r Hen Destament.

Y peth pwysig fan yma yw'r iawn. Ateb Duw i broblem y byd yw'r iawn sef aberthu ei fab drostom ni, rhyw fath o eilydd os hoffech, mynd trwy'r gosb yn ein lle ni. Fe gafodd Iesu yr hyn oeddem ni yn ei haeddu.

Felly os nad oedd Iesu yn fab i Dduw, nid oedd yr iawn yn bosib h.y drwy gosbu Iesu ar y groes yr oll fyddai Duw wedi ei wneud fyddai gwneud enghraifft o un person, yn hytrach na rhoi'r gosb i'w fab i fod yn iawn i'n pechodau ni.

Heb fod Iesu yn fab i Dduw dydy hanfod Cristnogaeth ddim yn gwneud synwyr. Hanfod yr efengyl ydy cyfiawnhad drwy ffydd: drwy gyfiawnhad rydym ni'n derbyn pardwn am ein pechodau a heddwch gyda Duw, ac mae cyfiawnhad yn dod o ganlyniad i ras dwyfol (Rhufeiniaid 3:24). Daw gras o galon Duw a caiff ei ymgnawdoli yn Iesu Grist mab Duw. Iesu sy'n dod a gras yn real drwy fod yr un cyfiawn sy'n marw dros yr anghyfiawn. Mae'n bodloni (appeases?!) dicter sanctaidd Duw ac mae'n gollwng ei waed dros ein pechodau ni ac mae'n cymryd ein pechodau i ffwrdd.

Heb i Iesu fod yn ddwyfol ni fyddai diwinyddiaeth Gristnogol yn gwneud synwyr.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai