Dwi'n meddwl bod gan bobl hawl i addoli beth bynag mae nhw eisiau dim ond bod nhw ddim yn brifo neb arall na ei hunain. Ond ydi crefydd yn brifo pobl?
Drwy edrach ar y byd, y gwledydd tlota yw'r gwledydd sy'n tueddu bod mwyaf crefyddol. Credaf mae rhan o'r rheswm am hyn yw oherwydd bod fel arfer nid oes gan pobl o wledydd tlawd llawer o addysg felly dydi nhw ddim yn cwestiynu crefydd gymait ac hytrach yn ei dderbyn yn ddi-gwestiwn ac yn rhoi ei holl ffydd yn y crefydd confensiynol.
Engraifft o hyn yw yn y Phillipins mae'r eglwys Gatholig yn dweud wrth y bobl i beidio a defnyddio dulliau atal cenhedlu felly mae'r teleuoedd yn enfawr. Mae'r bobl yn y wlad wir eisiau sdopio cael plant oherwydd nad ydynt yn gallu ymdopi er hyn maent yn credu na allant ddefnyddio dulliau atal cenhedlu oherwydd bod yr eglwys yn dweud na ddylia nhw.
Ydi pobl eraill yn meddwl bod crefyddau yn rheoli pobl a'u ffordd o fyw ac ydi hyn yn gyfiawn?