Goblygiadau 'Yr Hobbit' i Gristnogaeth

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Goblygiadau 'Yr Hobbit' i Gristnogaeth

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 29 Hyd 2004 1:13 pm

Erthygl gan Desmond Morris yn trafod goblygiadau canfyddiad y rhywogaeth newydd o ddynion i grefydau'r byd.
Gan nad ydw i'n grediniwr, dyni'r canfyddiad yma'n synnu dim arna i ac mae o jest yn cadarnhau ymhellach fy nghred mewn esblygiad a ffolineb 'creadigaeth', ond sut mae'r rhai sydd yn credu yn teimlo am y peth ac yn ei esbonio mewn cyd-destun crefyddol?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Mwddrwg » Sul 31 Hyd 2004 1:30 pm

e?! dwi'm yn deall sut ma' hyn yn cryfhau dy anghrediniaeth. dwi'n ystyried fy hun gristion aflwyddiannus h.y. dwi'n credu mewn duw ac yn derbyn cynnwys y beibl (dim yn hollol lythrennol) ond ddim bob amser yn byw fy mywyd yn ol hyn :? . dwi'n credu mai duw greodd popeth ond 'i fod o wedi gwneud hyn drwy esblygiad. cwbl ma' darganfyddiadau fel'ma'n neud ydi esbonio sut ac er bo' hyn yn ddiddorol does yna ddim oblygiadau i'n ffydd i na'r ffordd dwi'n edrych ar grefydd heddiw yn ol darganfyddiadau am y gorffennol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Postiogan Macsen » Llun 08 Tach 2004 7:10 pm

Does gan gristnogion sy'n credu y creodd Duw bopeth drwy esblygiad (crisnogion-lite) dim problem gyda hyn yn amlwg. Digwydd peidio son am ein ffrindiau bach wnaeth Duw yn y Beibl, ynte? Ond mae'n codi problemau mawr i'r rheini sy'n credu yn y greadigaeth.

Mae credu yn y greadigaeth fel darlun o gartwn erbyn hyn- mae'r pont rhaff wedi hen chwalu dan draed y Wild E. Coyote, ond mae'n dal i redeg yn yr unfan am ei fod o'n ofn edrych i lawr.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 39 gwestai