Mr Gasyth a ddywedodd:Mae 'Na ladd' yn eitha sylfaenol - mae Bush wedi torri'r gorchymun hwn. Felly hefyd 'car dy gymydog' a 'car dy elyn' - tydi Bush yn gwneud yr un o'r rhain.
Tydi o ddim i weld yn berson maddeugar iawn ychwaith. Onid oes rhaid maddau er mwyn cael maddeuant?
Onid ydyw'n cymryd enw Duw yn ofer drwy labelu pobl a gwleydd eraill yn 'Evil' , onid ond Duw all benderfynnu hyn?
Dwi'n cytuno. Ond yr oll ti di neud fanna ydy pwyntio allan cwpwl o ffeithiau sy'n tanlinellu ac yn gwneud hi'n amlwg fod Bush, fel pob un ohonom ni, yn amherffaith ac yn bechadur.
A be ma Duw yn gwneud? Achub pechaduriaid. Dyna pam fod y posibilrwydd yna fod Bush yn Gristion, gerbron Duw dy ni gyd run peth, sef pechaduriaid.
Mr Gasyth a ddywedodd:Be di Cristnogaeth cyn-ddiwygiedig? Ai pob ffrwd o Gristnogaeth nad wyt ti'n cytuno a hwy ydynt?
Dydy Cristnogaeth cyn-ddiwigiedig, cyfaddefaf, ddim yn derm cydnabyddedig. Beth oeddwn yn ei geisio ei wneud oedd cyfeirio at brif feddwl/credoau yr Eglwys cyn y diwigiad protestanaidd. Sef, yn fyr, y pwyslais Pabyddol ar ddefodau megis cyffesu pechodau i'r Offeiriad (yn hytrach nag i dduw fel y tynwyd sylw ato gan y diwigwyr). Cynnig anrhegion i'r eglwys yn meddwl byddai maint y rhodd yn effeithio ar eu gwaredigaeth/cosb.
Roedd tipyn mwy o'i le, ym mard y diwigwyr ar gyflwyr yr eglwys na hynny ond yr hyn sy'n bwysig i'w nodi yng nghyd destun Bush ydy'r pwyslais anghywir yma ar weithredoedd yn hytrach na ffydd.
Peidiwch a fy ngham-ddeall cofiwch, mae gweithredoedd yn bwysig OND fe ddaw/fe ddylai gweithredoedd ddod o ganlyniad i ffydd,
couse and effect.Gwahanglwys dros Grist a ddywedodd:Nage Calfinaeth yw hynna, Rhys? Hynod o lym yw dweud mai dim ond hyn a hyn all fynd i'r nefoedd, ac nad oes dim y gallwch chi ei wneud ar y ddaear i adfer eich sefyllfa, nag wyt ti'n meddwl? Beth sydd wedi digwydd i'r Duw sy'n caru pawb ac yn maddau pob bai?
Ie Calfiniaeth Brotestanaidd dwi'n ei gyfri fel Cristnogaeth ddiwigiedig. Mae yna rwbeth fedrw chi neud ar y ddear sef credu ac edifarhau ac yna byw i Dduw a chadw at ei orchemynion. Dyle chi fyw yn 'dda' oherwydd mae dyna be ma Duw yn haeddu oherwydd ei gariad, dydy byw yn 'dda' ddim yn rhywbeth ni'n neud oherwydd ein bod ni'n ofn yr oblygiade o be neith ddigwydd os na wnew ni fyw yn dda. Ffydd yw'r beicmodur a gweithredoedd da yw'r side car os hoffechi.