Lle Crefydd mewn Gwleidyddiaeth

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Gwe 05 Tach 2004 2:40 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ond y broblem sydd wedi codi gyda Bush ydy fod e yn credu yn yr uchod hefyd OND ei fod e wedi ei gymysgu gyda diwylliant a syniadau imperialaidd. Deadly combination.


Dyw'r cyfuniad angheuol hwnnw ddim yn un newydd; mae Cristnogaeth wedi chwarae rhan bwysig ymhob ymerodraeth fawr ers Rhufain Constantine. Y cwestiwn sydd angen ei ofyn yw hyn: ydi crefydd yn rhan o'r meddylfryd sy'n gyrru'r bobl i ladd a gormesu, ta esgus hwylus i gyfiawnhau gwneud ydyw?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 11 Ion 2005 2:46 pm

Macsen a ddywedodd:Dyw'r cyfuniad angheuol hwnnw ddim yn un newydd; mae Cristnogaeth wedi chwarae rhan bwysig ymhob ymerodraeth fawr ers Rhufain Constantine. Y cwestiwn sydd angen ei ofyn yw hyn: ydi crefydd yn rhan o'r meddylfryd sy'n gyrru'r bobl i ladd a gormesu, ta esgus hwylus i gyfiawnhau gwneud ydyw?


Dwi'n meddwl fod camddealldwriaeth o Gristnogaeth wedi arwain i bobl ormesu. Hynny yw roedd gwladwriaethau cristnogol (sydd ddim or rheidrwydd yn gristnogol eu hysbryd) yn gweld yr angen i 'wareiddio' pobloedd yn Affrica, hynny yw eu gorfodi i stopio gwneud pethau mae'r Beibl yn datgan sy'n anghywir.

Does dim byd o'r rheidrwydd yn anghywir gyda dysgu pobl am neges a gorchmynion y beibl OND wrth reswm mae na broblem yn codi wedyn pan mae gwladwriaethau cristnogol yn dechrau defnyddio'r gwn yn erbyn pobl sy'n byw yn ol safonau moesol sy'n ang-nghristnogol.

Beth fyddai'r model o 'wareiddio' y bydde ni'n ei argymell fyddai i wladwriaethau cristnogol fynd ar neges gristnogol allan ie, ac os fyddai'r grwpiau ethnig 'anwaraidd' yma yn dod i gredu mi fydda nhw yn naturiol wedyn yn dewis byw yn ol deddfau Duw.

Does dim llawer o bwynt cael pobloedd yn byw yn ol safonau'r beibl oherwydd ofnadwyiaeth y gwn, ma ishe nhw fyw yn ol y beibl oherwydd fod nhw'n credu mae dyna'r peth cywir i wneud.

Drwy gael pobl i fyw yn ol y beibl heb gredu ynddo (hynny yw drwy drais ac ofn) roedd gwladwriaethau cristnogol yn twyllo eu hunain.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Maw 11 Ion 2005 3:01 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod e ddigon posib fod Bush wedi ei 'achub'.


:ofn:

Sut ddiawl all Bush fod wedi'i achub, pan ei fod yn gyfrifol am farwolaethau di-angen miloedd ar filoedd o bobl a dioddefaint llawer mwy. Dydi o ddim hyd yn oed wedi ddangos unrhyw edifeirwch dros wneud hynny!

A dwi'n cymryd fod camelod yn ffitio drwy dyllau nodwydd dyddie yma hefyd?

Os di Bush a'i debyg yn mynd i'r nefoedd, ma'n rhaid fod uffern yn le gwag iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 11 Ion 2005 3:30 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Sut ddiawl all Bush fod wedi'i achub, pan ei fod yn gyfrifol am farwolaethau di-angen miloedd ar filoedd o bobl a dioddefaint llawer mwy. Dydi o ddim hyd yn oed wedi ddangos unrhyw edifeirwch dros wneud hynny!

Os di Bush a'i debyg yn mynd i'r nefoedd, ma'n rhaid fod uffern yn le gwag iawn.


Mae'r ffaith nad ydy yn dangos edifeirwch yn bryder mawr i mi, ond dydy hynny or rheidrwydd ddim yn ffactor os ydy wedi ei 'achub' ai peidio.

Mae dy gyhuddiad ni am uffern yn codi rhai o gwestiynau sylfaenol Cristnogaeth. O edrych ar dy gyhuddiad di rwyt ti yn barnu os ydy Busg yn mynd i'r nefoedd ai peidio ar sail ei weithredoedd ar y ddaear.

Cristnogaeth cyn-ddiwigiedig yw hyn oherwydd mae Cristnogaeth Feiblaidd ddiwigiedig yn dangos mae nid drwy weithredoedd ar y ddear mae dyn yn cale ei achub. Ond drwy ras. All dyn yn ei nerth ei hun ddim cyraedd y nefoedd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 11 Ion 2005 3:35 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Cristnogaeth cyn-ddiwigiedig yw hyn oherwydd mae Cristnogaeth Feiblaidd ddiwigiedig yn dangos mae nid drwy weithredoedd ar y ddear mae dyn yn cale ei achub. Ond drwy ras. All dyn yn ei nerth ei hun ddim cyraedd y nefoedd.


Nage Calfinaeth yw hynna, Rhys? Hynod o lym yw dweud mai dim ond hyn a hyn all fynd i'r nefoedd, ac nad oes dim y gallwch chi ei wneud ar y ddaear i adfer eich sefyllfa, nag wyt ti'n meddwl? Beth sydd wedi digwydd i'r Duw sy'n caru pawb ac yn maddau pob bai?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Mr Gasyth » Maw 11 Ion 2005 3:51 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae dy gyhuddiad ni am uffern yn codi rhai o gwestiynau sylfaenol Cristnogaeth. O edrych ar dy gyhuddiad di rwyt ti yn barnu os ydy Busg yn mynd i'r nefoedd ai peidio ar sail ei weithredoedd ar y ddaear.


Rwy'n barnu os ydi Bush yn mynd i'r nefoedd ai peidio ar sut mae ei weithrodoedd yn cymharu a'r hyn y mae 'Duw' a Iesu yn ei ofyn ganddom yn y Beibil.
Mae 'Na ladd' yn eitha sylfaenol - mae Bush wedi torri'r gorchymun hwn. Felly hefyd 'car dy gymydog' a 'car dy elyn' - tydi Bush yn gwneud yr un o'r rhain.
Tydi o ddim i weld yn berson maddeugar iawn ychwaith. Onid oes rhaid maddau er mwyn cael maddeuant?
Onid ydyw'n cymryd enw Duw yn ofer drwy labelu pobl a gwleydd eraill yn 'Evil' , onid ond Duw all benderfynnu hyn?

Rhys Llwyd a ddywedodd:Cristnogaeth cyn-ddiwigiedig yw hyn oherwydd mae Cristnogaeth Feiblaidd ddiwigiedig yn dangos mae nid drwy weithredoedd ar y ddear mae dyn yn cale ei achub. Ond drwy ras. All dyn yn ei nerth ei hun ddim cyraedd y nefoedd.


Be di Cristnogaeth cyn-ddiwygiedig? Ai pob ffrwd o Gristnogaeth nad wyt ti'n cytuno a hwy ydynt?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 12 Ion 2005 5:52 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Mae 'Na ladd' yn eitha sylfaenol - mae Bush wedi torri'r gorchymun hwn. Felly hefyd 'car dy gymydog' a 'car dy elyn' - tydi Bush yn gwneud yr un o'r rhain.
Tydi o ddim i weld yn berson maddeugar iawn ychwaith. Onid oes rhaid maddau er mwyn cael maddeuant?
Onid ydyw'n cymryd enw Duw yn ofer drwy labelu pobl a gwleydd eraill yn 'Evil' , onid ond Duw all benderfynnu hyn?


Dwi'n cytuno. Ond yr oll ti di neud fanna ydy pwyntio allan cwpwl o ffeithiau sy'n tanlinellu ac yn gwneud hi'n amlwg fod Bush, fel pob un ohonom ni, yn amherffaith ac yn bechadur.

A be ma Duw yn gwneud? Achub pechaduriaid. Dyna pam fod y posibilrwydd yna fod Bush yn Gristion, gerbron Duw dy ni gyd run peth, sef pechaduriaid.

Mr Gasyth a ddywedodd:Be di Cristnogaeth cyn-ddiwygiedig? Ai pob ffrwd o Gristnogaeth nad wyt ti'n cytuno a hwy ydynt?


Dydy Cristnogaeth cyn-ddiwigiedig, cyfaddefaf, ddim yn derm cydnabyddedig. Beth oeddwn yn ei geisio ei wneud oedd cyfeirio at brif feddwl/credoau yr Eglwys cyn y diwigiad protestanaidd. Sef, yn fyr, y pwyslais Pabyddol ar ddefodau megis cyffesu pechodau i'r Offeiriad (yn hytrach nag i dduw fel y tynwyd sylw ato gan y diwigwyr). Cynnig anrhegion i'r eglwys yn meddwl byddai maint y rhodd yn effeithio ar eu gwaredigaeth/cosb.

Roedd tipyn mwy o'i le, ym mard y diwigwyr ar gyflwyr yr eglwys na hynny ond yr hyn sy'n bwysig i'w nodi yng nghyd destun Bush ydy'r pwyslais anghywir yma ar weithredoedd yn hytrach na ffydd.

Peidiwch a fy ngham-ddeall cofiwch, mae gweithredoedd yn bwysig OND fe ddaw/fe ddylai gweithredoedd ddod o ganlyniad i ffydd, couse and effect.

Gwahanglwys dros Grist a ddywedodd:Nage Calfinaeth yw hynna, Rhys? Hynod o lym yw dweud mai dim ond hyn a hyn all fynd i'r nefoedd, ac nad oes dim y gallwch chi ei wneud ar y ddaear i adfer eich sefyllfa, nag wyt ti'n meddwl? Beth sydd wedi digwydd i'r Duw sy'n caru pawb ac yn maddau pob bai?


Ie Calfiniaeth Brotestanaidd dwi'n ei gyfri fel Cristnogaeth ddiwigiedig. Mae yna rwbeth fedrw chi neud ar y ddear sef credu ac edifarhau ac yna byw i Dduw a chadw at ei orchemynion. Dyle chi fyw yn 'dda' oherwydd mae dyna be ma Duw yn haeddu oherwydd ei gariad, dydy byw yn 'dda' ddim yn rhywbeth ni'n neud oherwydd ein bod ni'n ofn yr oblygiade o be neith ddigwydd os na wnew ni fyw yn dda. Ffydd yw'r beicmodur a gweithredoedd da yw'r side car os hoffechi.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai