Wel, sioc horyr...wy ddim yn gallu cytuno... ond eto odw
O'm rhan i mai crefydd yn greiddiol i ngwleidyddiaeth i
Desmond Tutu a ddywedodd:When people say the Bible and politics don't mix, I don't know which Bible they are referring to. It's not the one I've been reading.
Fy nghrefydd sydd yn dod gynta ac o hynny yr awydd i weld cyfiawnder. Mae hynny yn cael ei weithredu trwy'r drefn wleidyddol sydd yn bodoli.
Wy ddim yn cytuno fod crefydd yn beth 'personol' mewn un ystyr - sef yr ystyr hunanol. Mae George Bush yn cadw cyfeirio at y ffaith fod Cristnogaeth wedi ei achub EF rhag drygioni y ddiod, a'i fod EF yn cael lles allan o Gristnogaeth - wel mae'n flin gyda fi Georgi bach, ond mi wyt ti wedi camddeall Cristnogaeth felly - dyma y'r crefydd personol peryglus, sef crefydd yr hunan les (nid Cristnogaeth mo hynny) a phan fo hynny yn amlygu ei hun yn ein gwleidyddiaeth, yna rwy'n cytuno fod hynny'n beryglus.
Byddwn i'n bersonol ddim am orfodi neb i 'gredu'/'gweld'/'arddel' yr rwy'n weld/greu/arddel.
Yn amlach na pheidio nid 'rheoli trwy grefydd' sydd yn digwydd, yn fy marn i, ond cymysgwch o ddwy beth sef yw rheoli trwy (gam)ddehongliad a rheoli trwy amcanion hunanol gan ddefnyddio 'crefydd' at y diben hwn. Mae hyn yn sylfaenol anghywir yn ol prif grefyddau'r byd (dwn i ddim am y cannoedd o grefyddau bach sy'n bodoli), yn enwedig felly Cristnogaeth, Islam, a Bwdistiaeth.
Mae'n amhosib gwahanu crefydd a gwleiddiaeth felly i mi. Yr hyn rwy'n geisio wneud wrth feddwl am 'wleidyddiaeth' yw holi fy hun, yn y cyd-destun sy'n bodoli, beth fyddai Iesu yn wneud. Yn unol a hynny bydda i'n amlach na pheidio yn dod i benderfyniad gwleidyddol. Fi'n ca'l e'n anghywir weithie (aml?
), gan nag ydw i'n ddigon addysgiedig na wedi fy nhrwytho ddigon yn ffyrdd y Bod Mawr, dyna pam mod i'n mynychu'r capel ac yn darllen y Beibl neu testunau yn ymwneud a dysgeidiaeth Iesu.
Efallai serch hynny fod posib gwahaniaethu yma rhwng 'gwleidydd' fel unigolyn yn arddel ei g/chrefydd ac yn gweithredu yn unol a hyn a 'llywodraeth/corff wleidyddol' sydd yn 'grefyddol'. Yn hyn byddwn i'n cytuno - achos dyw 'Cristnogaeth', beth bynnag am grefyddau eraill - ddim yn chwilio am reolaeth a grym, mond cyfiawnder, ac felly mae angen cwestiynnu pob corff 'gwleidyddol' sydd yn arddel unrhyw grefydd. Rwy'n cytuno a chi yn hynny o beth.
Odw i wedi neud yn hunan yn glir?