Gwyddom bwer y "Pink Pound" .
Oes yna gryfder i'r "Geiniog Gymraeg"?
Mae un dyn busnes yn y Bari, Ali Deveci - perchennog ty bwyta'r Oasis ar Broad St - yn credu taw trwy
hybu ei fusnes yn yr iaith Gymraeg bydd yn denu'r fath o gwsmeriaid byddai ty bwyta
llwyddiannus am eu cael.
Yr wythnos hon, mae e wedi cael cydweithrediad Menter y Fro i ddod o hyd i weinydd sydd yn meddu ar y Gymraeg,
ac mae'n gobeithio trefnu noson o "dawnsio bol" [ok, belly dancing!] yng nghanol wythnos y Genedlaethol yn y Fro.
Felly a bydd y neges yma yn gwneud fawr o wahaniaeth i le fyddwch chi'n bwyta yn ystod yr Eisteddfod?
Neu ar Sul y tadau, mae Ali yn cynnig cwrw am ddim i bob Tad sy'n ceisio archebu 3 cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg!