Eich hoff rysáit pasta

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 18 Gor 2005 7:50 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Lasagne sbigoglish - na'i bostio'r resait toc.


6 mis yn ddiweddarach....

LASAGNE SBIGOGLYS A HAM

Cynhwysion:
700g o Sbigoglys rhewiedig, wedi ei ddadmer
halen a pupur du
pinshed o nutmeg
400g o saws tomato (neu ddefnyddiwch Dolmi)
pecyn 250g o lasagne
350g o saws gwyn (neu defnyddiwch saws mewn jar)
250g o ham wedi goginio
2 llwyed bwrdd o parmesan wedi gratio


1. Rhowch y ffwrn ar marc nwy 6, 200 Celsiws, 400 Farenheit.

2. Ychwanegwch digon o pupur a halen a pinshed o nutmeg at y sbigoglys.

3. Gwasgarwch cwarter o'r saws pasta dros waelod dysgl 25 x 20cm. Ychwanegwch haen o lasagne. Ar ben hwnna rhowch drean o'r saws gwyn, yna defnyddiwch hanner y sbigoglys. Rowch haenen o ham drosto.

4. Ail-wnewch yr haenau, gan ddechrau eto gyda'r saws tomato, gan orffen gyda haen o lasagne. Defnyddiwch gweddill y saws gwyn, yna yr ham ac yna'r saws tomato. Rhowch y parmesan ar ei ben a'i rhoi yn y ffwrn am 30 munud. Gadewch iddo gwlio lawr am 5 munud cyn ei fyta.

Ma hwn yn ddigon i 4 o bobl.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 19 Gor 2005 2:46 am

Tri llond cwpan de o basta, siâp cwlwm bwa, sych neu dau baned o basta glas.
Blodau (heb goesau) blodfresych gwyrdd (brocoli)
4 llwy bwrdd o olew olewydd
Dau glust craf (garlic) wedi eu briwio
Nionyn wedi ei dorri'n fan ddarnau
8 tomato wedi eu torri’n chwarteri
4 darn o ham wedi eu torri'n fan darnau
Hanner pwys o gaws gafr, dafad neu Caerffili, wedi ei dorri i lympiau faint dis.

Bydd angen sosban o ddŵr berwedig, a 10 munud i ferwi'r blodfresych - ategwch y pasta'r un pryd, yn gynt neu ar ôl y blodfresych (yn unol â faint o amser y cyfarwyddir i'w coginio)

Rho'r olew olewydd mewn padell ffrio ar wres isel a meddalwch y craf a'r nionod ynddo.

Ategwch y tomatos a'r ham

Wedi i'r pasta a'r blodfresych coginio, gwaredwch y dŵr a chymysgwch cynhwysion y badell ffrio a'r caws i fewn i'r pasta a'r flodfresych.

Bwytewch gyda bara Eidalaidd da a gwydriad / potel / llond bocs o win coch.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 09 Meh 2006 4:25 pm

PENNE POETH
=========


Resait nes i ddyfeisio echddoe (bach o rip off o arabiata yn y bon, ond heb gig moch)

1. Rhowch olew olewydd mewn padell ffrio (defnyddiwch olew olewydd infused da garlleg os os da chi fe)

2. Ffriwch 1 chili coch wedi ei dorri yn fan iawn (cofiwch dynnu'r hadau!)

3. Taflwch din o tomatos i mewn

4. Taflwch llwyed o Lazy Chilli i mewn

5. Taflwch llond dwrn o chilis chalepeno i mewn

6. Twlwch saws coch piri piri i mewn

7. Rhowch y penne 'mlaen

8. Pan mae'n barod, taflwch y penne ar ben y saws a'i cymysgu gan goginio am funud neud ddau.

Byddwch yn barod i gael pennau poeth (gedit?)
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan y fi fach » Sad 10 Meh 2006 9:12 am

dwin hoff o un efo chydig o facwn ne pancetta ny fo.

rhowch y pancetta neu facwn mewn padell heb olew a gadael iddo grisbio, yna ychwanegwch wydriad o win gwyn i'r badell.gadewch iddo anweddu a gadael saws syrypi yr olwg.

torri nionyn yn ddarnau man, ai roi mewn padell ne sosban efo olew olewydd, a gadael iddyn nhw feddalu. yna gwasgu garlleg i mewn. cyn ychwanegu cynwys padell y bacwn/pancetta.

wedyn rhowch dun bach ne mawr o domatos wedi ei torri i'r sosban gan gymysgu'n dda, yma gellir rhoi chili fflecs neu cymysgedd o berlysiau o'ch dewis chi. chili i mi fel arfer.

gadewch iddo fo dwchu, trwy godi i'r berw yna troi'r gwres yn isel heb gaead am ei ben.

berwch basta o'ch dewis chi, drainio, cymysgu, gratio pasmesan i weini.
odda tin gwbod fod twit yn golygu pysgodyn aur beichiog?
Rhithffurf defnyddiwr
y fi fach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Sad 26 Maw 2005 10:42 pm
Lleoliad: lle bynag dwi'n digwydd bod

Postiogan Caws » Sad 10 Meh 2006 3:25 pm

Yr un hawsa (ac un o'r rhai neisa) ydi:

Pasta (fyny i ti faint tisio!)
Beans
Caws

dyna'r cwbwl, coginio'r pasta a'r beans a gratio caws ar top y cwbwl lot.
Neis iawn :D
Wefan Swyddogol Gang Guevara
Ewch i cysylltu'ch wefan i un ni!
Cewch hysbysebu'ch wefan/gwerthu unrhywbeth AM DDIM ar y fforwms.
Caws
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Sad 24 Medi 2005 10:10 am

Postiogan 7ennyn » Sul 11 Meh 2006 2:00 pm

Macaroni Caws

Digon i bedwar. Pobty ar 200ºC, padell ffrio, 2 sosban.

    Bacwn wedi ei fygu - 8 sleisen
    Macaroni - tua 300g
    Menyn - tua 50g
    Blawd plaen - tua 50g
    Llefrith - tua 500ml
    Cheddar Cymreig aeddfed - tua 250g wedi ei gratio
    pupur newydd ei falu - llond llwy de
    Mwstard Ffrengig - 6 llwy de


Torri'r bacwn i stribedi hefo siswrn miniog. Ei ffrio mewn padell a'i roi i un ochr.

Berwi'r macaroni mewn sosban fawr - tua 2 neu 3 munud yn llai na'r cyfarwyddiadau ar y paced.

Tra bod y macaroni yn coginio - gwneud y sos:
Toddi'r menyn mewn sosban dros wres cymhedrol a chymysgu'r blawd i wneud past - os ydi'r gymysgedd yn rhy sych gallwch ychwanegu dropyn o olew olewydd i'w feddalu. Ychwanegu'r llefrith a'r pupur gan ei droi drwy'r amser nes mae'r gymysgedd mor dew a phaent emulsion. Tynnu'r sosban oddi ar y gwres a chymysgu'r caws, y mwstard a'r bacwn i fewn. Rhoi caead ar y sosban hyd nes bydd y pasta yn barod.

Cymysgu'r sos a'r macaroni a tywallt y gymysgedd i fewn i bowlen Pyrex mawr a'i roi yn y pobty (200ºC) nes bod croen brown ar ei ben. Ei fwyta hefo tomatos bach wedi eu hanneru.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Nôl

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai