Mihangel Macintosh a ddywedodd:Lasagne sbigoglish - na'i bostio'r resait toc.
6 mis yn ddiweddarach....
LASAGNE SBIGOGLYS A HAM
Cynhwysion:
700g o Sbigoglys rhewiedig, wedi ei ddadmer
halen a pupur du
pinshed o nutmeg
400g o saws tomato (neu ddefnyddiwch Dolmi)
pecyn 250g o lasagne
350g o saws gwyn (neu defnyddiwch saws mewn jar)
250g o ham wedi goginio
2 llwyed bwrdd o parmesan wedi gratio
1. Rhowch y ffwrn ar marc nwy 6, 200 Celsiws, 400 Farenheit.
2. Ychwanegwch digon o pupur a halen a pinshed o nutmeg at y sbigoglys.
3. Gwasgarwch cwarter o'r saws pasta dros waelod dysgl 25 x 20cm. Ychwanegwch haen o lasagne. Ar ben hwnna rhowch drean o'r saws gwyn, yna defnyddiwch hanner y sbigoglys. Rowch haenen o ham drosto.
4. Ail-wnewch yr haenau, gan ddechrau eto gyda'r saws tomato, gan orffen gyda haen o lasagne. Defnyddiwch gweddill y saws gwyn, yna yr ham ac yna'r saws tomato. Rhowch y parmesan ar ei ben a'i rhoi yn y ffwrn am 30 munud. Gadewch iddo gwlio lawr am 5 munud cyn ei fyta.
Ma hwn yn ddigon i 4 o bobl.