od.......ond mmmmmmm

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 16 Awst 2005 8:38 pm

O IA MA GEN I SDORI...

Wel, nid stori ond rhywbeth sydd am chwalu unrhywbeth cynt yn yr edefyn yma erioed am bethau od mae pobl yn ei fwyta.

Rhywun yn nabod Harry Tugwell? Nadach debyg, ond Gwyddel fu'n arfer byw yn Rachub ydoedd oedd efo blas hynod rhyfadd mewn gwlithod (slygs). Bydda fo'n eu gweld nhw ar ochr y lon a *pop* stwffio nhw mewn i'w geg a'u byta (ac yn licio'r rhai duon yn bennaf, wir i chi).

Gwaeth byth, byddai ei gyd-chwarelwyr yn cyfogi yn gweld beth oedd o'n mynd yn ei frechdan i Chwarel Y Penrhyn weithiau - pryfaid genwair!

A mae'n ddrwg gen i orfod deutha chi hefyd bod yr uchod ddim yn rhyw lefynd lleol, ma'n hollol wir!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan 7ennyn » Sad 20 Awst 2005 10:12 pm

Bechdan tomato a mint sos - blasus a hawdd i'w gwneud ben bora pan 'sgynoch chi ddim mynadd gwneud eich pecyn bwyd.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Gwaeth byth, byddai ei gyd-chwarelwyr yn cyfogi yn gweld beth oedd o'n mynd yn ei frechdan i Chwarel Y Penrhyn weithiau - pryfaid genwair!


Mae pryfaid genwair yn reit flasus! Rhai bach ydi'r gora - gwna nhw mewn omlet gan gofio eu frio gynta. Blas ychydig yn hallt hefo hint o bysgod cregyn arnyn nhw. Maethlon iawn hefyd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Dili Minllyn » Sul 25 Maw 2007 8:58 am

Prynais i botelaid o gnau ffrengig wedi'u piclo ddoe. Maen nhw'n debyg yr olwg i geilliau mamoth blewog, ac yn eithaf gamey, sef lled bwdr, gan flasu braidd fel Saws Caerwrangon ar ffurf soled. Ddim yn siwr ydw i'n hoffi nhw neu beidio eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan anffodus » Sul 25 Maw 2007 11:12 am

Bechdan efo:
mêl, crisps halan a finag, bacon, mwy o grisps a mwy o fêl. neisiach na mae o'n swnio.

hefyd, ma gin i theori (er nad ydw i 'di trio'i phrofi hi'n bersonol) na fysa bwyd ci yn blasu mor ddrwg â hynny. Achos ma gynnoch chi: gig a rhyw fath o jeli sy'n edrach ddigon tebyg i hwnnw sy rownd y cig mewn porc pei. felly pa mor ddrwg fedar o fod? oes 'na rywun rioed di drio fo?
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan Wierdo » Sul 25 Maw 2007 1:31 pm

Yn ystod fy arholiadau dwetha mi ddarganfyddish i'r bwyd perffaith;
Caws Philidelphia, Cottage Cheese, Caws a pate i gyd wedi'w rolio fyny mewn darn o "turkey-ham"
Mesi ond hyfryd!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan MeicButlins » Sul 25 Maw 2007 3:40 pm

Mae gin i chwaeth 'diddorol' mewn bwyd...

Fy hoff fwyd yn y byd ydi powdwr cup-a-soup tomato (gorfod bod yn Batchelors) wedi ei wasgaru i fewn i bacad o greision (rhai hallt). Swn i'n gallu buta rhein drwy'r dydd.

Pan o'n i'n fach ro'n i'n hoffi powlen o llefrith sych (5 Pints) hefo moron amrwd i dipio ynddo fo.

Mae Dad yn hoff iawn o fechdan menyn a sigwr brown.

Ma 'ngwr a'm mab (tair oed) yn bwyta tortilla wraps hefo hummous a raisins.

Dwi hefyd yn mwynhau sos mintys ar ryvita
MeicButlins
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 33
Ymunwyd: Llun 22 Mai 2006 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Chwadan » Sul 25 Maw 2007 3:51 pm

Brechdan Marmite, Philadelphia a menyn cnau. Dwi'n cael un i ginio o leia unwaith yr wythnos.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Vavi » Mer 04 Ebr 2007 4:32 pm

peanut butter a branston ar dost ydi fy hoff fwyd yn y byd! A ma bechdan caws a suryp yn neis fyd
achmyd benshit!
Rhithffurf defnyddiwr
Vavi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Mer 05 Tach 2003 1:14 pm
Lleoliad: hanner ffordd fyny shit creek heb padl

Nôl

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron