Tudalen 5 o 7

PostioPostiwyd: Llun 23 Mai 2005 10:24 am
gan twm
Bechdan dairylea a sos coch! Blydi lyfli!

PostioPostiwyd: Llun 30 Mai 2005 9:23 pm
gan Gilles
Cymro13 a ddywedodd:Brechdan Peanutt Butter a Chaws

Nesh i ddarllan hwnna fel "Brechdan Peanutt Butter a Chavs" :wps: :lol:

PostioPostiwyd: Llun 30 Mai 2005 10:09 pm
gan Owain Gwynn
rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:bechdan creision efo sos coch, siocled a banana. mmmmmmmmm newydd ffeindio hwna allan heddiw.


:ofn: :ofn: :D :D :P yummmmmm. ma hwna'n swno' lyfli. byd rhaid i v drial 'na!

beth am toasty marmaled, banana a sprincl o siwgwr brown....

neu brechdan philadelphia (+chives) gyda marmaled

neu bowlen o cocopops gyda banana milkshake a iogwrt pinafal dros y top

:P :P :P dwi....moen.....BWYD!!!

PostioPostiwyd: Llun 30 Mai 2005 10:24 pm
gan Dai dom da
rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:bechdan creision efo sos coch, siocled a banana. mmmmmmmmm newydd ffeindio hwna allan heddiw.


Pa flas o grisps wedyn de? Ready Salted, Prawn Cocktail, Smokey bacon, roast chicken, cheese and onion, salt and vinegar?................

PostioPostiwyd: Iau 02 Meh 2005 2:35 pm
gan Owain Gwynn
Dai dom da a ddywedodd:
rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:bechdan creision efo sos coch, siocled a banana. mmmmmmmmm newydd ffeindio hwna allan heddiw.


Pa flas o grisps wedyn de? Ready Salted, Prawn Cocktail, Smokey bacon, roast chicken, cheese and onion, salt and vinegar?................


wedi gwneud yr arbrawf amser cinio heddi.....

ready salted Vs roast chicken

ready salted o'dd orau :P

(diolch RHDIGFE am y syniad...brechdan a hanner!)

PostioPostiwyd: Iau 02 Meh 2005 7:43 pm
gan Selador
Ella bod hyn off y pwynt rhyw fymryn, ond ma cocls yn ffiaidd.

PostioPostiwyd: Iau 02 Meh 2005 10:14 pm
gan Dai dom da
Selador a ddywedodd:Ella bod hyn off y pwynt rhyw fymryn, ond ma cocls yn ffiaidd.


Naaaaaadi. Cocls yn neis iawn ychan, yn enwedig os ma nhw'n ffresh. Ma'r stwff na chi'n cal mewn potie bach glass ddim mor dda, blas gormod o vinegar arni nhw. Os chi ishe cocls fresh neis y lle i fynd i yw market caerfyrddin. Ges i bocs bach o cocls o fan na o'r blan a we nhw'n 8) mmmmm.

PostioPostiwyd: Maw 07 Meh 2005 12:06 pm
gan Beti
twm a ddywedodd:Bechdan dairylea a sos coch! Blydi lyfli!


Nes i ddarllen dairylea fel deiaria!! :ofn: (am sblut secynd)

Eniwe, nes i ofyn i Mam pam o pam odden ni'n cael tun peaches efo'n cyrri a ddeudodd hi mai poor man's mango o'dd o.

PostioPostiwyd: Maw 07 Meh 2005 12:29 pm
gan Archalen
brechdan mayonnaise
crempog gyda salmon o'r tun a sos coch
brechdan caws a jam
tatws trwy'u crwyn gyda tiwna mayonnaise a ffa pob
creision wedi dipio mewn hufen ia (dim ond fanilla)
sardines syth mas o'r tun...

sdim rhyfedd bo fi'n diodde o IBS!

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 7:18 pm
gan Cacamwri
Wel, gesh i'r pryd o fwyd hyyyyfryd i swper heno...Mond fi oedd adre, so oedd rhaid meddwl dros fy hun :?
Ond na phoener, oedd na lysie yn yr oergell (gwastraff ers cinio rost neithiwr), ond doedd na'm golwg ar gig yn unman (a ma rhaid cael protein does?!)

Felly mewn i'r cwpwrdd a fi, ac agor yr gen din baked beans, a potsho'r cyfan at ei gilydd!
Iym!! :P

Dwi'n normal i gymharu a lot, achos wrth wylio Good Food Live ar sky, gwnaeth rhyw ddynes gyfadde ei bod hi'n bwyta brechdane mars bar a sos goch, da menyn yn drwch ar y bara hefyd...*piwc*