Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi rioed di prynnu blawd. I be ma rhywyn yn defnyddio blawd?
O flawd gwneir torth!
Mi gefais peiriant pobi torth fel anrheg Nadolig llynedd - Oce! am bresant ryfedd - ond llawer gwell na lafender bath salts a phar o drons (chwedl rhywyn yn y Cynulliad dydd o'r blaen)
Mae resetiau'r peiriant yn dweud bod
rhaid ddefnyddio blawd arbenig ar gyfer pobi torth - ond mae blawd bara yn costio drost punt a chweig yn Tesco'r Gyffordd (rhatach prynu torth!).
OND yn Lidl, Bae Colwyn, mae yna flawd torth am 49c am dri phwys (rhywbeth grams o dan y drefn newydd - d'wim yn dallt); ond, gwell byth mae eu blawd plaen am 11c am dri phwys yn gwneud cystal torth yn y peiriant hefyd.