Lidl - Be di'r fargan ora?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 27 Meh 2005 3:56 pm

Dwi rioed di prynnu blawd. I be ma rhywyn yn defnyddio blawd?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 27 Meh 2005 4:06 pm

Mi bryais flawd unwaith i wneud grefi'n neis ac yn dew. Ond neshi rhoi llawer gormod a mae 'na dal 95% o'r blawd yn y bag, byth i'w ddefnyddio eto.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan sian » Llun 27 Meh 2005 4:23 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:mae 'na dal 95% o'r blawd yn y bag, byth i'w ddefnyddio eto.


Self raising 'ta plaen oedd e? Pam na wnei di gacen? Mae'n hwyl - ac yn neis!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Proffesor » Llun 27 Meh 2005 4:49 pm

Dwin mynd i ateb y cwestiwn sy' d'i gyfeirio at Hogyn o Rachub:
achos ma pob cacan dwi 'di neud yn edrach fel petae 'na gar 'di mynd drosto. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Proffesor
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 04 Mai 2005 2:51 pm
Lleoliad: Yfory

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 27 Meh 2005 5:34 pm

A dw i'm yn licio cacennau! :D
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Mabon.Llyr » Llun 27 Meh 2005 6:44 pm

Unrhywun wedi blasu y "Haseluss-Rolchen"?
Ma nw fel sigars bach llawn siolced du. Tua £1 am 400g. Dwin hooked.

Rhywbeth i osgoi o Lidl yw y "Oat shampoo" ma nhw gwerthu'r stwff mewn poteli melyn anferth. Ogli'n ofnadw.
Maen dweud ar y cefn "made with 100% real oatmeal" :? :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mabon.Llyr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Maw 02 Tach 2004 5:32 pm

Postiogan Proffesor » Llun 27 Meh 2005 6:49 pm

Siriys? Pwy sa'n meddwl... shampw wedi'i neud o flawd ceirch. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Proffesor
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 04 Mai 2005 2:51 pm
Lleoliad: Yfory

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 27 Meh 2005 10:45 pm

Shampuwd - nol at natur!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 28 Meh 2005 12:58 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi rioed di prynnu blawd. I be ma rhywyn yn defnyddio blawd?


O flawd gwneir torth!

Mi gefais peiriant pobi torth fel anrheg Nadolig llynedd - Oce! am bresant ryfedd - ond llawer gwell na lafender bath salts a phar o drons (chwedl rhywyn yn y Cynulliad dydd o'r blaen)

Mae resetiau'r peiriant yn dweud bod rhaid ddefnyddio blawd arbenig ar gyfer pobi torth - ond mae blawd bara yn costio drost punt a chweig yn Tesco'r Gyffordd (rhatach prynu torth!).

OND yn Lidl, Bae Colwyn, mae yna flawd torth am 49c am dri phwys (rhywbeth grams o dan y drefn newydd - d'wim yn dallt); ond, gwell byth mae eu blawd plaen am 11c am dri phwys yn gwneud cystal torth yn y peiriant hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw 28 Meh 2005 2:41 pm

aye, ma blawd ein bara ni yn dod o lidl 'fud, 8 ne 12 bag ar y tro!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron