Tudalen 5 o 6

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 2:59 pm
gan Hogyn o Rachub
Sut mae rhywun yn mynd ati i wneud ei fara ei hun, bobl?

(dw i'n bord a ffansi troi fy llaw at rwbath newydd!)

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 3:45 pm
gan Deryn Du
Hogyn o Rachub a ddywedodd:(dw i'n bord a ffansi troi fy llaw at rwbath newydd!)


:ofn:

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 3:48 pm
gan Hogyn o Rachub
SEF GWNEUD BARA DERYN DU!




:lol:

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 5:54 pm
gan Y Parchedig Dyn Tywyll
rhaid i mi fynd am y a Bourbon Golden Sun - rhattach na JD a jim beam, blas dipyn yn fras ond micsio yn dda hefo Diet Pepsi neu'r Red Bull stwff na o Lidl - weithiau ar gael am 29c y can

PostioPostiwyd: Mer 29 Meh 2005 10:44 am
gan Tegwared ap Seion
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Sut mae rhywun yn mynd ati i wneud ei fara ei hun, bobl?


wel, mi odd mam yn gneud i bara i hun, ond wan mai di cal mashîn ers dipyn o flynyddoedd - matar o luchio'r cynhwysion i fewn, pwyso'r botwm a voila, torth ffresh mewn riw 3 awr.

mmmmmmm torth ffresh..........trwch o fenyn "go iawn" a sbrincliad helaeth o siwgwr brown meddal.......

o, ag i gadw at bwnc yr edefyn, blawd o lidl!! :D

PostioPostiwyd: Iau 30 Meh 2005 1:50 pm
gan Ramirez
Y Parchedig Dyn Tywyll a ddywedodd:rhaid i mi fynd am y a Bourbon Golden Sun - rhattach na JD a jim beam, blas dipyn yn fras ond micsio yn dda hefo Diet Pepsi neu'r Red Bull stwff na o Lidl - weithiau ar gael am 29c y can


yipeeee. ffycin afiach, ffycin gwych.

PostioPostiwyd: Iau 30 Meh 2005 2:03 pm
gan Elliw Fach
Sili a ddywedodd:
Mister Chocs di heina! Ond go damia ma nhw'n neisiach na Mars bars! :D


Gwir bob gair. Diawl ma' nhw'n neis dydyn. Geshi dda-da tha Haribo neis uffernol yna noson o'blaen fyd!!

PostioPostiwyd: Maw 13 Chw 2007 2:41 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Rwan mod i'n gwneud fy mara fy hun, mae'n rhaid mynd yno i nôl y blawd 8)
A phob tro, mi fydda i hefyd yn dwad a photel o olew olewydd, a sudd oren (nid diod oren, sudd...ma'na wahaniaeth :winc: ) adra.

PostioPostiwyd: Maw 13 Chw 2007 5:45 pm
gan Manon
Mmm, ma' Lidl Bangor yn gwerthu ryw fisgedi hiwj sy'n dod mewn paced coch, mae nhw fatha jammie dodgers ond efo siocled yn y canol, o iesgob annwyl ma' nhw'n neis! Mae'r supernoodles 15p yn neis hefyd. A'r brie. A'r muesli.
:P

PostioPostiwyd: Maw 13 Chw 2007 5:53 pm
gan jammyjames60
Yn LIDLS Bangor dwi'n mynd:

Ma'r pistachios yn neiiiiis, a dwi actually wedi cymharu nhw gyda rhei Morrisons a ma rhai Lidls lot neisiach o bell ffor!

Ma'r hufen iâ nhw y hufen iâ ora' fedrwch chi gal, blasus, rhad, a lot ona fo fyd!

Ma'r caramal shortbreads yn lyfli jybli fyd, ond dwim yn siwr osnag yn Aldis danin gal rheini!