Mwddrwg a ddywedodd:Senghennydd a ddywedodd:Bwyd arbennig yn Tyddyn Llan, Llandrillo..... y stecen - cig eidion du Cymru - orau dwi' 'di blasu erioed.
eiliaf. Tyddyn Llan ydi'r bwyty gore i mi fod ynddo fo yng Nghymru. roedd pob dim yna wedi'i goginio i berffeithirwydd doedd na'm angen adio pupur na halen at unrhyw beth - fel'na ddylia bwyd fod (ON tip: roedd y cawsiau yn fwy impressive na'r melysfwyd...)
Cytuno, lle da (heblaw bod y rheolwraig wedi mynd yn flin efo fy wncl a'i mets yn meddwi a canu yn y bar tra'n dathlu ei benblwydd 70!)
Lofft y Bull Beaumaris yw dal fy rhif 1 yng Nghymru.