Os na rhywun di bod yn hwnnw yn Tremadog? Yr un reit newydd ar y gornel? Dwi'm yn cofio enw fo ond mae o'n siwpoib o le i fyta! Eithaf posh, ond ma'r bwyd yn llenwi'r plat a mae o'n lyfli! Nesi fyta lot lot lot gormod yna ag endio fyny'n goro gwario gweddill y noson yn gorwadd yn y car Dwi'n farus uffernol.
Odd White House Abersoch yn fantastic tan idda fo newid dylo. Oni wrth y modd yn mynd yno i or-fyta! Ar y funud y Neigwl sy'n cynnig y pryd bwyd gora yn Abersoch o bell ffordd! Braf iawn yno!
Y ddau gore dwi di bod i yw Bistro Conwy (sy'n cael ei rhedeg gan aelodau o'r band Melys) yn Conwy, ac yr Armless Dragon. Y ddau llawn o fwyd hyfryd yn defnyddio cynhyrch o Gymru.